Neidio i'r prif gynnwy

Mae ysbyty iechyd meddwl Hillview a oedd yn darparu gofal i'r glasoed wedi atal cofrestriad

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (10 Awst) yn dilyn arolygiad dirybudd o Ysbyty Hillview yng Nglynebwy, a oedd yn darparu cymorth iechyd meddwl arbenigol i'r glasoed. Mae'r ysbyty yn cael ei reoli gan Elysium Healthcare, sy'n masnachu fel Regis Healthcare, ac yn rhan o strwythur sefydliadol y sefydliad hwnnw.

Ysbyty Hillview Ysbyty Iechyd Meddwl

Oherwydd difrifoldeb a nifer y materion a nodwyd yn dilyn cyfres o arolygiadau, dynodwyd y gwasanaeth yn 'Wasanaeth sy'n Peri Pryder' yn unol â phroses Uwchgyfeirio a Gorfodi AGIC. O ganlyniad, cafodd cofrestriad y gwasanaeth ei atal ac nid yw'n darparu gwasanaethau iechyd meddwl i'r glasoed mwyach.

Cynhaliwyd yr arolygiad diweddaraf ar ddau ddiwrnod dilynol ym mis Mai 2023, gan ganolbwyntio ar y meysydd yn yr ysbyty a oedd yn effeithio ar ei allu i ddarparu gofal diogel ac effeithiol, ac ar y trefniadau arweinyddiaeth a llywodraethu. O ganlyniad i ddifrifoldeb y materion a nodwyd, rhoddwyd hysbysiad o ddiffyg cydymffurfio i'r lleoliad oherwydd materion a nodwyd mewn sawl maes, gan gynnwys diffyg cofnodion manwl o ran maint a hyd yr ataliadau sy'n cael eu cynnal ar gleifion.

Roedd gennym bryderon nad oedd y gwasanaeth yn diwallu anghenion gofal yn unol â gofynion ei gofrestriad, ac roedd hyn yn cael effaith andwyol ar les y cleifion. Felly penderfynodd AGIC gyhoeddi ‘Hysbysiad Brys o Benderfyniad’ i ​​atal cofrestriad Ysbyty Hillview a chafodd yr holl gleifion eu symud yn llwyddiannus erbyn dechrau mis Mehefin 2023.

Roedd Elysium wedi cyfleu eu penderfyniad i gau’r gwasanaeth erbyn mis Mawrth 2023 a dechrau’r broses o weithio gyda’r Comisiynwyr i ganfod lleoliadau amgen. Fodd bynnag, roedd gennym bryderon am gynnydd a chynhaliwyd arolygiad ym mis Mai. Ar adeg ein harolygiad roedd pedwar claf a oedd yn cael eu cadw dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yn derbyn gofal yn y cyfleuster. Mae'r gwasanaeth bellach wedi cau a does dim cleifion yn derbyn gofal.

Dywedodd Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Alun Jones:

‘Roedd yn siomedig iawn nodi methiannau o ran cydymffurfio â'r rheoliadau yn ystod ein harolygiad. Roedd nifer a difrifoldeb y materion a oedd yn gysylltiedig â diogelwch cleifion yn destun pryder a phenderfynodd AGIC y dylid atal cofrestriad y lleoliad ar frys. Er bod y lleoliad wedi rhoi'r gorau i ddarparu gofal i bobl ifanc, byddwn yn parhau i ymgysylltu ag Elysium Healthcare mewn perthynas â'i gynlluniau ar gyfer y dyfodol.’