Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad Lleol o Drefniadau Llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ar gyfer Darparu Gwasanaethau Gofal Iechyd i Garchar Ei Mawrhydi (CEM) Abertawe

Yn y Cynllun Gweithredol ar gyfer 2021-22, nodwyd ein hymrwymiad parhaus i gynnal adolygiadau lleol penodol yn lleoliadau'r GIG er mwyn ysgogi gwelliannau.

Rydym wedi ymrwymo i gynnal adolygiad lleol o'r trefniadau llywodraethu ansawdd sydd ar waith ar gyfer darparu gwasanaethau gofal iechyd i Garchar Ei Mawrhydi (CEM) Abertawe gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (BIPBA).

Mae gan AGIC y pŵer cyfreithiol i arolygu gwasanaethau gofal iechyd carchardai a ddarperir gan gyrff GIG Cymru. Mae cylch gwaith AGIC yn cynnwys mynd i mewn i unrhyw safle lle y darperir gofal gan neu ar ran cyrff GIG Cymru o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 a'i arolygu.

Mae’r adroddiad terfynol yr adolygiad isod.