Neidio i'r prif gynnwy

Llif cleifion gwael yn effeithio ar amseroldeb y gofal a ddarperir yn adran achosion brys Ysbyty'r Tywysog Siarl

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (2 Tachwedd 2023) yn dilyn arolygiad dirybudd o Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful.

Ysbyty Tywysog Siarl Uned Achosion Brys ac Uned Penderfyniadau Clinigol

Cynhaliwyd yr arolygiad dros dri diwrnod dilynol ym mis Gorffennaf 2023, gan ganolbwyntio ar yr Uned Achosion Brys a'r Uned Penderfyniadau Clinigol yn yr ysbyty. Caiff yr Uned Penderfyniadau Clinigol ei defnyddio ar gyfer cleifion sydd wedi cael triniaeth frys ac sy'n aros i gael eu derbyn i ward neu sydd angen eu monitro am gyfnod byr cyn cael eu rhyddhau o'r ysbyty.

Yn ystod yr arolygiad, gwelsom fod y staff yn gweithio'n galed iawn i roi gofal diogel ac effeithiol i gleifion, a hynny ar adeg pan oedd gwasanaethau'r ysbyty o dan gryn bwysau.

Gwelodd yr arolygwyr y staff yn trin cleifion a'u gofalwyr â pharch a charedigrwydd, gan ymdrechu i hyrwyddo preifatrwydd ac urddas y cleifion. Fodd bynnag, nid oedd cyfleusterau digonol i ddiogelu preifatrwydd ac urddas cleifion yn ardal Gofal Dydd yr Adran Achosion Brys, lle caiff cleifion asesiad, diagnosis a thriniaeth ar yr un diwrnod. Roedd hyn yn cynnwys diffyg sgriniau preifatrwydd neu lenni yn yr ardaloedd dynodedig lle roedd cleifion yn aros i gael eu trin.

Yn ogystal, roedd cleifion wedi'u lleoli'n agos at ei gilydd neu yn y coridor a oedd yn cyflwyno heriau sylweddol i'r staff wrth ddiogelu preifatrwydd ac urddas y cleifion ac wrth gynnal eu cyfrinachedd. Roedd rhai cleifion wedi bod yn aros yn yr ardal Gofal Dydd am fwy na 24 awr. Er bod rhai o'r cleifion yn eistedd mewn cadeiriau gorwedd, a oedd yn cynnig rhywfaint o gysur, roedd eraill yn eistedd mewn cadeiriau sefydlog, a oedd yn anghyfforddus i'r cleifion a oedd yn gorfod aros am gyfnodau estynedig o amser. Gwnaethom argymell y dylai'r bwrdd iechyd gymryd camau addas i hyrwyddo preifatrwydd, urddas a chyfforddusrwydd y cleifion.

Nododd yr arolygwyr fod y staff a oedd yn gweithio yn yr unedau yn ymrwymedig i ddarparu lefel dda o ofal i gleifion.  Roedd yr adborth gan gleifion a'u gofalwyr ar y cyfan yn gadarnhaol mewn perthynas â'r gwasanaeth a gawsant. Dywedodd y rhan fwyaf o'r unigolion a ymatebodd i'n harolwg fod y gwasanaeth roeddent wedi'i gael yn ‘dda iawn’ neu'n ‘dda’. 

Nododd yr arolygiad fod angen gwella nifer o feysydd. Roedd dau faes lle roedd angen i'r bwrdd iechyd gymryd camau ar unwaith. Nododd yr arolygwyr fylchau yn y cofnodion ar gyfer cynnal gwiriadau o'r cyfarpar brys. Ni chafodd yr arolygwyr sicrwydd bod gwiriadau yn cael eu cynnal i gadarnhau bod y cyfarpar angenrheidiol ar gael pe bai argyfwng.  Roedd cydymffurfiaeth â hyfforddiant dadebru gorfodol yn wael, ac ni chafodd yr arolygwyr sicrwydd bod nifer digonol o staff yn meddu ar y sgiliau diweddaraf gofynnol er mwyn dadebru cleifion.

Cawsom adborth cadarnhaol gan staff ar ddull gweithredu'r rheolwyr yn yr adran a'r effaith roeddent yn ei chael ar y diwylliant gwaith. Gwelodd yr arolygwyr fod arweinyddiaeth gadarn a strwythur rheoli da ar waith gyda llinellau adrodd clir. Roedd y staff y gwnaethom siarad â nhw yn wybodus am eu rolau a'u cyfrifoldebau ac ar wahân i'r lefelau hyfforddiant dadebru, roeddent yn cydymffurfio'n dda â hyfforddiant gorfodol arall i staff.

Er bod llwybrau gofal sefydledig ar waith, nododd yr arolygiad oedi yn llif y cleifion drwy'r uned achosion brys gan fod prinder gwelyau yn adrannau eraill yr ysbyty. Yn ogystal, dywedwyd wrth yr arolygwyr fod cynnydd yn nifer y cleifion a oedd dod i'r uned achosion brys, gan roi pwysau ychwanegol ar y gwasanaeth. Nid oedd amgylchedd yr uned achosion brys yn addas i gleifion a oedd yn aros am gyfnodau estynedig allu cysgu a gorffwys, gan nad oedd preifatrwydd a bod y seddi yn anghyfforddus. Nid oedd toiledau a chyfleusterau ymolchi'r uned achosion brys yn ddigonol, yn enwedig o ystyried bod llawer o gleifion yn aros yno am gyfnodau estynedig.

Dywedodd Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Alun Jones:

‘Mae'r pwysau ar wasanaethau'r GIG yn parhau'n uchel, a gwelsom fod y staff yn gweithio'n galed iawn i roi gofal diogel ac effeithiol i gleifion, a hynny ar adeg pan oedd lefelau galw uchel yn yr ysbyty. Nodwyd rhai gwelliannau yr oedd angen eu gwneud ar unwaith yn ystod ein harolygiad, ac rwy'n gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn galluogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i ddeall yr heriau y mae'r adran yn eu hwynebu'n glir ac yn cefnogi'r camau y mae angen eu cymryd i wella. Byddwn yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau y caiff y gwelliannau hyn eu gwneud ac y ceir tystiolaeth o'r gwelliannau hynny.’