Neidio i'r prif gynnwy

Angen gwelliannau brys i wasanaethau mamolaeth yng Nghaerdydd a'r Fro o hyd

Heddiw, cyhoeddwyd adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn dilyn dau arolygiad o wasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Ysbyty Athrofaol Cymru - Gwasanaethau Mamolaeth

Cwblhaodd AGIC arolygiad dirybudd o wasanaethau mamolaeth yr ysbyty ar dri diwrnod dilynol ym mis Tachwedd 2022. Yn ystod yr arolygiad, nododd AGIC sawl pryder o ran diogelwch cleifion, a chyhoeddwyd hysbysiad gwella ar unwaith i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Oherwydd nifer y risgiau a nodwyd a'u difrifoldeb, cynhaliodd AGIC arolygiad dilynol pellach ym mis Mawrth 2023.

Ym mis Tachwedd, nodwyd materion gennym mewn perthynas â sawl agwedd ar y gwasanaeth mamolaeth a oedd yn golygu nad oedd y cleifion yn cael safon dderbyniol o ofal amserol, diogel ac effeithiol. Yn ystod yr arolygiad dilynol, gwelsom fod rhai gwelliannau wedi'u gwneud mewn llawer o feysydd. Fodd bynnag, roedd heriau sylweddol o hyd, ac ar y cyfan, nid oedd y gwelliannau yn cael eu gwneud mor gyflym ag yr oedd eu hangen. Unwaith eto, nododd yr arolygwyr faterion yr oedd angen i'r bwrdd iechyd weithredu ar unwaith yn eu cylch er mwyn lleihau'r risgiau i gleifion.

Ar adeg ein harolygiad ym mis Tachwedd, nodwyd gennym fod yr uned famolaeth wedi profi cyfnod parhaus o lefelau staffio isel. Roedd morâl ymhlith y staff y gwnaethom siarad â nhw yn isel, a chafwyd sylwadau tebyg yn dilyn arolwg staff. Gwnaethom gydnabod bod y lefelau staffio isel yn golygu bod y staff yn gweithio'n galed o dan amgylchiadau hynod heriol i ddarparu gofal i'w cleifion. Roedd llawer o'r staff yn mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau i sicrhau bod eu cleifion yn cael gofal da.

Fodd bynnag, roedd y dystiolaeth a welwyd fod rhai menywod Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol yn teimlo eu bod yn cael eu trin yn wahanol yn destun pryder difrifol i'r arolygwyr. Ers hynny, mae'r bwrdd iechyd wedi rhoi nifer o fentrau a strategaethau ar waith i wella profiad cleifion Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol. Rhaid cynnal y gwelliannau hyn ac mae angen i'r bwrdd iechyd sicrhau ei fod yn ymgysylltu â'r cleifion perthnasol er mwyn cadarnhau bod y mentrau hyn yn gwneud gwahaniaeth.

Ym mis Mawrth, nododd yr arolygwyr fod y staff yn gweithio'n galed i roi profiad cadarnhaol i'r cleifion, er gwaethaf y pwysau parhaus ar yr adran. Gwelwyd aelodau o'r staff yn rhoi gofal caredig, llawn parch, ac roedd y cleifion y gwnaethom siarad â nhw yn canmol y gofal roeddent yn ei gael ar y cyfan. Fodd bynnag, cododd rhai o'r cleifion bryderon ynghylch argaeledd y staff a chymorth digonol. Roedd hyn yn cael effaith negyddol ar allu'r gwasanaeth i roi gofal amserol. Roedd hefyd yn effeithio ar allu'r staff i sicrhau urddas a phreifatrwydd y cleifion.  

Yn ystod yr arolygiad ym mis Mawrth, cadarnhawyd y bydd buddsoddiad o fwy na £2 filiwn yn cael ei ddefnyddio i gynyddu lefelau staffio yn yr adran, ac roedd y staff y gwnaethom siarad â nhw yn obeithiol y byddai lefelau staffio yn gwella.

Ym mis Tachwedd, gwnaethom godi pryderon sylweddol mewn perthynas ag atal a rheoli heintiau, gan gynnwys ardaloedd anniben, materion yn ymwneud â diogelwch a lefelau staffio isel. Er ein bod wedi nodi rhai gwelliannau ym mis Mawrth, gwelsom dystiolaeth nad oedd y mesurau cyffredinol ar gyfer atal a rheoli heintiau yn ddigon cadarn ym mhob ardal.

Ym mis Mawrth, codwyd materion pellach yr oedd angen sicrwydd ar unwaith yn eu cylch, gan gynnwys achosion lle nad oedd meddyginiaethau yn cael eu storio'n ddiogel, theatr ac ardaloedd trin a oedd yn amlwg yn frwnt, argaeledd cyfarpar cynnal bywyd, diffyg cynlluniau digonol ar gyfer sicrhau diogelwch ac urddas y cleifion a diffyg trefniadau digonol ar gyfer rheoli a diogelu gwybodaeth gyfrinachol am gleifion. Nodwyd gennym hefyd nad oedd ansawdd y trefniadau rheoli ac arwain yn ddigon penodol a chadarn. Nodwyd gennym nad oedd y trefniadau arwain a llywodraethu ehangach yn cael effaith ddigon effeithiol na chefnogol ar yr uned famolaeth.  Roedd timau amlddisgyblaethol da yn gweithio ar draws gwahanol wasanaethau yn yr ysbyty ac roedd cyfarfodydd llywodraethu rheolaidd yn cael eu cynnal i wella gwasanaethau ac atgyfnerthu'r trefniadau llywodraethu. Dywedodd yr uwch-reolwyr wrthym eu bod yn anelu at gael eu gweld ar yr uned a'u bod yn ceisio meithrin hyder ac ymddiriedaeth rhwng staff yr uned a'r uwch-reolwyr. Rhoddodd y staff bydwreigiaeth adborth cadarnhaol am eu rheolwyr llinell uniongyrchol gan nodi, ar y cyfan, y gellid dibynnu arnynt i helpu â thasgau anodd.

Yn gyffredinol, roeddem yn pryderu nad oedd y diwylliant yn gefnogol ac nad oedd yn hyrwyddo atebolrwydd na gofal diogel i gleifion yn ddigonol. Fodd bynnag, yn ystod yr arolygiad dilynol, nodwyd gennym fod rhai gwelliannau yn dechrau dod i'r amlwg yn y trefniadau llywodraethu – yn benodol, roedd y gwelliannau hyn yn ymwneud â phenodi aelodau allweddol o staff a rhai newidiadau a wnaed i'r broses ymchwiliadau.

Dywedodd Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Alun Jones:

Mae ein gwaith wedi nodi heriau sylweddol yng ngwasanaethau mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Er ein bod wedi nodi rhai gwelliannau yn ystod ein harolygiad dilynol ym mis Mawrth, nid oedd nifer y gwelliannau na chyflymder y newidiadau yn ddigonol ac o ganlyniad, roedd angen cymryd mwy o gamau brys. Gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn cyflymu'r camau a gymerir i ysgogi gwelliannau amserol, nid yn unig i fenywod beichiog a mamau newydd, ond hefyd i staff yr uned famolaeth. Byddwn yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau y caiff gwelliannau cadarn eu gwneud ac y ceir tystiolaeth o'r gwelliannau hynny.

Mawrth 2023 - Adroddiad Cryno ar yr Arolygiad - Uned Famolaeth, Ysbyty Athrofaol Cymru

Mawrth 2023 - Adroddiad Arolygu Ysbyty - Uned Famolaeth, Ysbyty Athrofaol Cymru