Nid yw Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) bellach yn cynnal adolygiadau llofruddiaeth. Mae’r rhain wedi’u disodli gan y broses Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (ADUS), sy’n darparu un dull cenedlaethol ar gyfer adolygu digwyddiadau difrifol yng Nghymru.
Y Broses ADUS
Mae’r broses ADUS yn dod â’r asiantaethau sy’n rhan o ddigwyddiad at ei gilydd i alluogi adolygiad cydgysylltiedig ac amserol. Mae’n dileu’r angen am sawl adolygiad ar wahân, gan helpu i leihau’r trawma i deuluoedd ac i sicrhau bod dysgu’n cael ei nodi’n gynt.
Mae angen i'r meini prawf ar gyfer cynnal ADUS fodloni un o'r canlynol:
- Adolygiad Ymarfer Oedolion
- Adolygiad Ymarfer Plant
- Adolygiad Lladdiad Domestig
- Adolygiad Lladdiad Iechyd Meddwl
- Adolygiad Lladdiad ag Arf Ymosodol
Rhagor o Wybodaeth
Am fanylion llawn am y broses ADUS, ewch i wefan ADUS.