Neidio i'r prif gynnwy

Cynnydd mewn galw a phroblemau capasiti yn yr adran achosion brys yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn effeithio ar y broses o ddarparu gofal diogel

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (23 Tachwedd 2023) yn nodi'r angen am welliannau ar unwaith yn yr Adran Achosion Brys yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd.

Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg Adran Achosion Brys

Cynhaliwyd yr arolygiad dirybudd dros dri diwrnod dilynol ym mis Awst 2023. Yn ystod yr arolygiad, nodwyd nifer o faterion yn ymwneud ag atal a rheoli heintiau, threfniadau llywodraethu a diogelwch cleifion yr oedd angen mynd i'r afael â nhw ar unwaith. Cafodd y materion hyn eu gwaethygu oherwydd y galw ar yr Adran Achosion Brys, a oedd yn fwy o lawer na'r gallu a'r adnoddau a oedd ar gael.

Nid oedd y staff yn gallu diogelu preifatrwydd ac urddas yr holl gleifion yn effeithiol oherwydd y niferoedd uchel o bobl oedd yn dod i'r adran, a'r prinder lle a oedd ar gael o ganlyniad i lif cleifion gwael o fewn yr ysbyty ehangach. Roedd materion strwythurol yn yr ysbyty hefyd yn effeithio'n sylweddol ar lif cleifion, gyda sawl ward ar gau er diogelwch.

Canfu'r Arolygwyr bod cleifion wedi'u rhoi mewn nifer o ardaloedd ymchwydd amrywiol yn yr Adran Achosion Brys. Defnyddir ardal ymchwydd pan fydd yr ardaloedd lle rhoddir cleifion fel arfer mewn ysbyty wedi gorlenwi. Roedd hyn yn cynnwys cleifion wedi'u rhoi i eistedd neu orwedd mewn ardaloedd agored o'r adran, a mwy nac un claf wedi'u rhoi mewn ciwbicl ar yr un pryd h.y., ar wely ac ar gadair orwedd.  Gwelwyd cleifion yn aros am gyfnodau hir mewn cadeiriau, ac roedd rhai o'r gwelyau i gleifion wedi'u lleoli ar ochr ardal cynllun agored yr orsaf staff. Mae angen i'r gwasanaeth a'r bwrdd iechyd fonitro'r ffordd y caiff cleifion, yn enwedig mewn ardaloedd ymchwydd ac ardaloedd sydd newydd eu sefydlu, eu lleoli yn yr adran.

Cyhoeddodd y bwrdd iechyd ddigwyddiad mawr mewnol ym mis Awst 2023, yn ymwneud â nodi Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth (RAAC), a allai achosi problemau strwythurol a phroblemau diogelwch sylweddol yn yr ysbyty. Rydym yn cydnabod yr heriau sylweddol y mae hyn yn eu cyflwyno i'r adran achosion brys am fod mwy na 100 o welyau ar gau am resymau diogelwch. Roedd hyn hefyd yn golygu na allai'r adran drosglwyddo cleifion i'r wardiau hyn, gan achosi heriau gorlenwi sylweddol ar ben y galw presennol.

Gwelodd yr Arolygwyr y staff yn ymgysylltu â'r cleifion mewn modd caredig a pharchus ac, ar y cyfan, dywedodd y cleifion wrthym eu bod yn fodlon ar agweddau ar eu gofal a'u profiad.  Rhoddodd perthnasau adborth cadarnhaol hefyd mewn perthynas â'r gofal a ddarparwyd i'w hanwyliaid a oedd ar ddiwedd eu hoes.

Roedd y broses o frysbennu cleifion yn cael ei chwblhau mewn modd amserol yn y rhan fwyaf o achosion, a gwnaethom nodi arferion cadarnhaol mewn perthynas â rhai llwybrau, gan gynnwys Gofal Brys ar yr un Diwrnod ac, yn benodol, y gwasanaeth eiddilwch. Roedd y staff yn gweithio'n galed i sicrhau bod y cleifion yn cael gofal ag urddas a pharch er gwaethaf yr heriau sylweddol. Ymysg yr enghreifftiau roedd siarad â'r cleifion yn dawel er mwyn osgoi cael eu clywed gan bobl eraill a sicrhau bod defnydd cyson o sgriniau neu lenni er mwyn sicrhau preifatrwydd ac urddas mewn ardaloedd ymchwydd yn yr adran. Pan ofynnwyd i'r cleifion, gwnaethant nodi eu bod yn deall y pwysau sy'n wynebu'r adran, ond bod rhwystredigaeth mewn perthynas â'r diffyg preifatrwydd, urddas a'r prinder gwybodaeth a oedd ar gael o ran pryd y byddai camau nesaf eu gofal yn digwydd. Nododd rhai aelodau o'r staff nad oeddent yn gallu darparu gofal amserol i'r cleifion oherwydd nifer y cleifion yn yr adran a lefelau staffio annigonol. Ymysg yr enghreifftiau a welwyd gan yr arolygwyr roedd oedi cyn newid gorchuddion, rhoi cymorth amserol i fwyta, ac oedi cyn mynd â'r cleifion i gael sganiau.

Roedd angen gwelliannau ar unwaith mewn perthynas ag atal a rheoli heintiau a phrosesau i leihau risgiau i gleifion, staff ac ymwelwyr. Nododd yr arolygwyr sawl mater sicrwydd ar unwaith yr oedd angen i'r bwrdd iechyd gymryd camau brys ar eu cyfer. Ymysg yr enghreifftiau roedd y ffaith nad oedd y staff bob amser yn gwisgo cyfarpar diogelu nac yn cadw at bolisïau atal heintiau, a phrosesau glanhau aneffeithiol oherwydd gorlenwi.

Canfuwyd bod y dyddiad wedi mynd heibio ar asesiadau risg ac nad oedd y prosesau i wirio argaeledd cyfarpar achub bywydau mewn argyfwng yn gyson. Nodwyd, er bod yr adran yn gynnes, nad oedd blancedi na chlustogau yn cael eu cynnig i'r cleifion hynny a oedd yn cysgu mewn cadeiriau dros nos. Roedd prinder cyfleusterau toiledau a chawodydd ac amwynderau i'r cleifion.

Cawsom wybod bod y tîm Clinigol Llawfeddygol Cyffredinol yn methu cynnal darpariaeth ymgynghorwyr ar alwad 24/7 yn yr ysbyty oherwydd swyddi gwag ac absenoldebau staff. Nododd yr arolygwyr enghreifftiau o gleifion yr oedd angen iddynt gael eu trosglwyddo o'r adran i Ysbyty Bronglais i gael llawdriniaethau oherwydd yr amgylchiadau hyn. Er bod hyn wedi'i nodi ar gofrestrau risg perthnasol a bod cynlluniau wrth gefn ar waith, mae hyn yn broblem o hyd i'r adran a'r ysbyty ehangach.

Roedd strwythur rheoli priodol ar waith a dangosodd yr arweinwyr fod cynlluniau ar ddod gyda'r bwriad o atgyfnerthu agweddau ar yr adran mewn ymateb i'r pwysau a wynebir gan y gwasanaeth. Roedd cynlluniau gweithlu wrthi'n cael eu hadolygu i gynyddu lefelau staffio, cymysgedd sgiliau a chydnerthedd cyffredinol yn y gwasanaeth. Fodd bynnag, mae angen symud yn gyflym mewn perthynas â rhai swyddi gwag er mwyn sicrhau bod rheolaeth ac arweinyddiaeth gadarn ar bob lefel yn yr adran.

Dywedodd Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Alun Jones:

‘Mae pwysau cynyddol ar wasanaethau'r GIG ac mae Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg, fel ym mhob ysbyty ledled Cymru, yn parhau i wynebu heriau eithriadol oherwydd galw cynyddol. Mae llif cleifion yn broblem a gaiff ei chydnabod yn genedlaethol, wedi'i hachosi gan bwysau ar bob rhan o'r system, ac mae AGIC yn cydnabod bod y bwrdd iechyd yn gweithio i ymdopi â'r heriau hyn. Mae'n gadarnhaol clywed am ymrwymiad y staff i sicrhau bod y gofal sylfaenol sydd ei angen ar gyfer cleifion yn cael ei ddarparu ar adeg mor heriol. Nodwyd bod angen rhai gwelliannau ar unwaith a nodwyd yn ystod ein harolygiad, ac rwy'n gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn achosi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gyflwyno gwelliannau ar fyrder. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r bwrdd iechyd er mwyn sicrhau y gwneir cynnydd yn erbyn ein canfyddiadau.’