Neidio i'r prif gynnwy

Cyngres Ryngwladol Coleg Brenhinol y Seiciatryddion 2025

Mae'n bleser gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru fod yn un o'r arddangoswyr yng Nghyngres Ryngwladol Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, a fydd yn cael ei chynnal rhwng 23 a 26 Mehefin yn y Ganolfan Gonfensiwn Ryngwladol (ICC) yng Nghasnewydd.

Cyngres Ryngwladol Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yw un o'r digwyddiadau pwysicaf yn y calendr iechyd meddwl, gan ddod â gweithwyr proffesiynol, ymchwilwyr ac arbenigwyr o bob cwr o'r byd ynghyd i drafod y datblygiadau diweddaraf ym maes seiciatreg a gofal iechyd meddwl.

Mae'r Gyngres yn cynnwys rhaglen lawn o siaradwyr gwadd, trafodaethau panel a chyfleoedd i rwydweithio, a bydd yr holl ddigwyddiadau'n canolbwyntio ar hyrwyddo arloesedd a rhagoriaeth mewn gwasanaethau iechyd meddwl.

Rydym yn edrych ymlaen at gysylltu â chynrychiolwyr a rhannu gwybodaeth am y gwaith rydym yn ei wneud yng Nghymru. Os byddwch chi'n mynd i'r Gyngres, dewch i'n gweld ar stondin 63 – byddai'n braf cwrdd â chi!