Neidio i'r prif gynnwy

Canmol Gwasanaethau Mamolaeth Ysbyty Cyffredinol Bronglais, Aberystwyth

Heddiw, cyhoeddwyd adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn dilyn arolygiad o uned famolaeth Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, a gaiff ei redeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Ysbyty Cyffredinol Bronglais Gwasanaethau Mamolaeth

Cwblhaodd arolygwyr arolygiad dirybudd o wasanaethau mamolaeth yr ysbyty ar dri diwrnod dilynol ym mis Awst 2023, gan ganolbwyntio ar ofal cynenedigol, gofal yn ystod y cyfnod esgor a gofal ôl-enedigol.

Yn ystod yr arolygiad hwn, gwelsom dîm o staff ymroddedig a oedd yn ymrwymedig i ddarparu gofal o safon uchel i menywod a'r bobl sydd wedi rhoi genedigaeth, a'u teuluoedd. Gwelodd yr arolygwyr staff ar bob lefel yn gweithio'n dda fel tîm i ddarparu profiad cadarnhaol a oedd wedi'i deilwra at yr unigolyn ac yn canolbwyntio ar anghenion y menywod a phobl sydd wedi rhoi genedigaeth roeddent yn gofalu amdanynt. Fodd bynnag, roedd angen gwneud rhai gwelliannau, gan gynnwys yr angen i wella cyfraddau cwblhau hyfforddiant gorfodol ac adolygu adnoddau'r uned. Roedd hyn yn cynnwys adolygu'r rota ar alwad i fydwragedd a nyrsys sgryb er mwyn sicrhau bod staff â sgiliau priodol ar gael ar y safle bob awr o'r dydd a'r nos.

Gwelodd yr arolygwyr y staff yn darparu gofal parchus a charedig i'r menywod a'r bobl sydd wedi rhoi genedigaeth a'u teuluoedd. Pan ofynnwyd i'r menywod a'r bobl sydd wedi rhoi genedigaeth, gwnaeth pob un ohonynt ganmol y gofal a ddarparwyd iddynt, y staff ac amgylchedd yr uned famolaeth. Gwelodd AGIC dystiolaeth bod y rhai ag anawsterau cyfathrebu yn cael eu nodi a'u cefnogi i gael gafael ar wasanaethau drwy'r cynllun pasbort mamolaeth yn effeithiol. Gellir defnyddio'r cynllun ar gyfer anawsterau dysgu, niwroamrywiaeth neu unrhyw anawsterau cyfathrebu eraill er mwyn cofnodi anghenion cyfathrebu'r rhai sy'n derbyn gofal. Gwelodd yr arolygwyr y staff yn siarad Cymraeg a dywedwyd wrthym gan y bobl a oedd yn defnyddio'r gwasanaethau bod y cynnig rhagweithiol ar gyfer y Gymraeg wedi cael dylanwad cadarnhaol ar eu gofal. Gwelsom fod achosion lle roedd angen gwella'r broses o drafod, esbonio a chofnodi dewisiadau geni. Mewn nifer fach o achosion, gwelsom nad oedd y ddogfennaeth yn y cofnodion yn nodi risgiau a buddiannau dewisiadau geni yn ddigonol. Cawsom hefyd adborth uniongyrchol gan fenywod a phobl sydd wedi rhoi genedigaeth a oedd yn nodi y byddent wedi gwerthfawrogi cael mwy o wybodaeth er mwyn eu helpu i baratoi pe bai angen cymorth arnynt wrth roi genedigaeth neu doriad cesaraidd. 

Roedd yr ystafelloedd geni yn olau a mawr gydag ystafelloedd en-suite unigol a chyfleusterau modern. Gwelodd yr arolygwyr dystiolaeth i gadarnhau bod cyfarpar ac ystafelloedd wedi'u glanhau yn briodol gyda rhestrau gwirio wedi'u cwblhau a'u dyddio ar waith. Cawsom sicrwydd o'r broses ar gyfer glanhau ystafelloedd a chyfarpar yn drwyadl ar ôl i gleifion heintus eu defnyddio. Yn ystod yr arolygiad, gwelodd AGIC fod mesurau diogelwch cynhwysfawr ar waith ym mhob rhan o'r uned er mwyn sicrhau bod teuluoedd a babanod yn cael eu cadw'n ddiogel. Roedd mynediad i bob ardal wedi'i gyfyngu gan ddrysau wedi'u cloi, na ellid eu hagor heb bàs staff neu heb i aelod o'r staff gymeradwyo mynediad drwy'r system intercom.  Mae prosesau asesu risg ac uwchgyfeirio deinamig cynhwysfawr ar waith i gadw menywod, pobl sydd wedi rhoi genedigaeth a babanod yn ddiogel. Roedd cofnodion y cleifion yn hyrwyddo diogelwch cleifion a gwelsom fod prosesau cadarn ar waith ar gyfer rheoli digwyddiadau clinigol, gan sicrhau bod gwybodaeth a'r gwersi a ddysgwyd yn cael eu rhannu ar draws y gwasanaeth.

Disgrifiodd y staff ddiwylliant cadarnhaol gydag arweinyddiaeth dda a chefnogol. Roedd strwythur rheoli clir ar waith gyda llinellau adrodd ac atebolrwydd clir. Roedd y rheolwyr yn weladwy, yn hawdd mynd atynt ac yn barod i dderbyn adborth.  

Nododd yr arolygwyr fod cydymffurfiaeth â hyfforddiant argyfwng osbtetrig (PROMPT) gorfodol mewn rhai timau yn isel, ar 30%, a gwnaethom ofyn am sicrwydd ar unwaith gan y bwrdd iechyd y byddai'n ymdrin â'r mater hwn ar fyrder. Rhaid i'r bwrdd iechyd sicrhau bod y staff yn cwblhau'r hyfforddiant hwn er mwyn lleihau'r risg i fabanod newyddenedigol, menywod a phobl sydd wedi rhoi genedigaeth.

Dywedwyd wrthym pan fydd bydwragedd yn darparu gofal i fabanod newyddenedig, nid oes bydwraig ar gael yn ardal acíwt y ward mwyach. Gwnaethom adolygu'r prosesau uwchgyfeirio sydd ar waith i sicrhau bod menywod a phobl sy'n rhoi genedigaeth sydd yn y cyfnod esgor yn parhau i gael gofal priodol gan fydwraig. Caiff y rota ar alwad ei staffio gan fydwragedd yn y gymuned nad ydynt, oherwydd eu rolau, yn cynorthwyo mewn genedigaethau obstetrig mor aml â staff rheolaidd y ward esgor. Yn ystod ein harolygiad, clywsom gan staff bydwreigiaeth yn y gymuned a fynegodd eu pryder am roi cymorth yn ystod genedigaethau obstetrig pan fydd aciwtedd uchel ar y ward. Dylai'r bwrdd iechyd adolygu proses y rota ar alwad i sicrhau bod staff â sgiliau priodol ar gael i gefnogi'r uned obstetreg mewn cyfnodau o aciwtedd uwch ar y ward. 

Dywedodd Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Alun Jones:

‘Mae'n gadarnhaol gweld ymroddiad ac ymrwymiad y staff i ddarparu gwasanaeth mamolaeth o ansawdd uchel i fenywod, pobl sydd wedi rhoi genedigaeth, babanod a'u teuluoedd. Mae angen gwneud rhai gwelliannau mewn perthynas â hyfforddiant gorfodol i staff ac adnoddau y mae'n rhaid i'r bwrdd iechyd sicrhau y cânt eu hadolygu ac yr ymdrinnir â nhw. Byddwn yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau y caiff y gwelliannau hyn eu gwneud ac y ceir tystiolaeth o'r gwelliannau hynny.’