Neidio i'r prif gynnwy

Bwrw Golwg Manylach: Astudiaeth Achos IR(ME)R

Defnyddio ein pwerau gorfodi yn gymesur i amddiffyn cleifion.

Beth yw ymbelydredd ïoneiddio ym maes gofal iechyd?

Defnyddir ymbelydredd ïoneiddio ym maes gofal iechyd mewn tair ffordd:

  1. Radioleg diagnostig, sy'n defnyddio peiriannau pelydr-X i dynnu lluniau o du mewn i gorff y claf
  2. Meddygaeth niwclear, sy'n defnyddio sylweddau ymbelydrol a gaiff eu rhoi yng nghorff y claf er mwyn gwneud diagnosis neu ddarparu triniaeth
  3. Radiotherapi, sy'n defnyddio sawl math a ffynhonnell o ymbelydredd ïoneiddio i wella neu leddfu symptomau canser a chlefydau eraill

Mae'r tri maes hyn wedi'u cynnwys yn Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio (Cysylltiad Meddygol) 2017 (fel y'u diwygiwyd) (IR(ME)R), sy'n darparu fframwaith i ddiogelu cleifion.

Rhaid i bob gwasanaeth gofal iechyd annibynnol sy'n defnyddio ymbelydredd ïoneiddio gydymffurfio â'r Rheoliadau Ymbelydredd. 

Sut rydym yn monitro cydymffurfiaeth

AGIC sy'n gyfrifol am fonitro cydymffurfiaeth â Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio (Cysylltiad Meddygol) 2017 (IR(ME)R), ac rydym yn gwneud hyn drwy:

  • Arolygu gwasanaethau sy'n defnyddio ymbelydredd ïoneiddio
  • Adolygu digwyddiadau y rhoddwyd gwybod i ni amdanynt sy'n arwain at gysylltiad ychwanegol neu anfwriadol arwyddocaol 

Bwrw Golwg Manylach: Astudiaeth Achos IR(ME)R Defnyddio ein pwerau gorfodi yn gymesur i amddiffyn cleifion.

Yn ystod 2024-25, gwnaethom arolygu safle gwasanaeth sgrinio diagnostig a chanfod, er bod cleifion yn fodlon ar eu gofal, nad oedd y gwasanaeth yn cydymffurfio'n llwyr â rheoliadau IR(ME)R. 

Ni chawsom sicrwydd bod gan y darparwr y fframwaith angenrheidiol drwy weithdrefnau ysgrifenedig, protocolau a rhaglenni sicrhau ansawdd i'r staff gyflawni eu rolau'n ddiogel.

O ganlyniad, cyhoeddodd AGIC Hysbysiad Gwella o dan Adran 21 o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc. 1974. Ymatebodd yr Ymddiriedolaeth yn gadarnhaol gan gymryd camau i fynd i'r afael â'r materion. Gwnaethom gyfarfod â'r Prif Weithredwr ac uwch-aelodau o'r staff i adolygu cynnydd, a chafodd yr hysbysiad ei ddiddymu ym mis Rhagfyr 2024. 

Mae'r achos hwn yn dangos ymrwymiad AGIC i ddefnyddio ein pwerau gorfodi mewn modd cymesur ac adeiladol. Pan fydd pryderon difrifol yn codi, rydym yn cymryd camau pendant i amddiffyn cleifion, ond rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda darparwyr i gefnogi gwelliannau a sicrhau cydymffurfiaeth hirdymor.