Neidio i'r prif gynnwy

Bwletin Arsylwi - Gorffennaf 2022

Bwletin Arsylwi Gorffennaf 2022

Croeso i ail rifyn y diweddariad chwarterol newydd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

Am y tro cyntaf, rydym yn cyflwyno ein hadran Dysgu a Dealltwriaeth. Rydym am ddefnyddio'r bwletinau hyn fel cyfle i rannu'r hyn rydym yn ei ddarganfod trwy ein gwaith. Os ydych yn gweithio mewn gwasanaeth, neu'n ymwneud â rhedeg gwasanaeth, edrychwch ar ein hadran ar Rheoli Meddyginiaethau yn y rhifyn hwn. Beth allwch chi ei ddysgu o hyn i fynd yn ôl i'ch maes gwaith?

Hefyd am y tro cyntaf erioed, rydym yn cynnwys darn gan un o'n hadolygwyr cymheiriaid profiadol iawn. Ydych chi erioed wedi meddwl sut brofiad fyddai gweithio gyda ni a pha wahaniaeth y gallech chi ei wneud? Wel, darllenwch ymlaen i ddarganfod mwy.

Diweddariad Busnes

Alun Jones wedi'i gyhoeddi fel Prif Weithredwr newydd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC)

Mae Alun Jones wedi’i benodi’n Brif Weithredwr newydd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC), yr arolygiaeth a rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer gofal iechyd yng Nghymru.

Ymunodd Alun ag AGIC ym mis Ebrill 2014 ac mae wedi bod yn arwain y sefydliad fel Prif Weithredwr Dros Dro ers mis Ebrill 2020, yn ystod un o’r cyfnodau mwyaf heriol i ofal iechyd yn ddiweddar. Bydd Alun yn cael ei gefnogi gan y Cyfarwyddwr Strategaeth ac Ymgysylltu, Abubakar Askira a Katherine Williams, Cyfarwyddwr Cyngor Clinigol a Llywodraethu Ansawdd.

Daw Alun o Gymru ac mae ganddo dros 25 mlynedd o brofiad o weithio ym maes archwilio, arolygu a rheoleiddio. Yn y gorffennol, mae wedi gweithio i'r Comisiwn Archwilio, y Comisiwn Gofal Iechyd a'r Comisiwn Ansawdd Gofal, lle bu'n arwain cyfraniad y Comisiwn Ansawdd Gofal i Ymchwiliad Cyhoeddus Canolbarth Swydd Stafford.

Wrth dderbyn y swydd fel Prif Weithredwr, dywedodd Alun Jones:  “Braint fawr yw cael fy mhenodi i barhau i arwain y sefydliad wrth iddo geisio cyflawni ei nod o ddylanwadu ar safonau ac ysgogi gwelliant yn y system gofal iechyd. Mae gan AGIC rôl sylweddol i'w chwarae i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn cael gofal iechyd o ansawdd da. Edrychaf ymlaen at adeiladu ar y sylfeini cryf sydd eisoes ar waith a chydweithio ag eraill ledled Cymru i wella gofal iechyd i bobl a chymunedau."

Cynllun Gweithredol 2022–2023 wedi'i Gyhoeddi

Ar 23 Mehefin 2022, lansiwyd ein Cynllun Gweithredol 2022-2023. Mae'r cynllun yn amlinellu'r camau rydym yn bwriadu eu cymryd i gyflawni ein blaenoriaethau newydd, a osodwyd yn ein Cynllun Strategol 2022-2025.

Eleni, ein nod yw canolbwyntio ar ysgogi a chryfhau ymgysylltiad, gwella a moderneiddio ein ffyrdd o weithio, a deall ein cymunedau yn well mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Rydym wedi gosod rhaglen waith amrywiol ar gyfer y flwyddyn ac rydym yn croesawu unrhyw adborth, felly cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw sylwadau ar ein gwaith neu os hoffech roi adborth ar wasanaethau gofal iechyd yng Nghymru.

Diweddariad ar Weithgarwch

Diweddariad Rhaglen Arolygu a Sicrwydd 2022-2023

Mae ein rhaglen waith ar gyfer 2022-2023 wedi hen ddechrau. Rydym yn gweithio'n ymatebol trwy gydol y flwyddyn, gyda phroses barhaus ar gyfer dadansoddi risgiau hysbys a risgiau sy'n dod i'r amlwg, gan fwydo canlyniad y dadansoddiad hwn i'n cynlluniau. Hyd yn hyn eleni, rydym wedi cwblhau 42 darn o waith sicrwydd – naill ai arolygiadau ar y safle, neu wiriadau ansawdd o bell, o amrywiaeth o leoliadau. Bydd adroddiadau ar y darnau hyn o waith ar gael ar ein gwefan unwaith y byddant yn barod i'w cyhoeddi.

Ers dechrau mis Ebrill 2022, rydym wedi cyhoeddi 15 o adroddiadau o'n gwaith sicrwydd ac arolygu ar gyfer ystod o wasanaethau, o glinigau laser i ysbytai iechyd meddwl ar gyfer cleifion mewnol ac adrannau achosion brys.

Gellir gweld yr holl adroddiadau wedi'u cyhoeddi ar ein gwefan – Dod o hyd i adroddiad arolygu.

Eisiau darganfod pryd mae adroddiadau AGIC i fod i gael eu cyhoeddi? Cymerwch olwg ar ein Hamserlen Gyhoeddi.

Gwaith Uwchgyfeirio a Gorfodi

Gwasanaeth sydd angen Gwelliant Sylweddol – Adran Achosion Brys Ysbyty Glan Clwyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cyflwynasom y Broses Gwasanaeth o Bryder ar gyfer y GIG ym mis Tachwedd 2021 ac rydym yn ei defnyddio pan fyddwn yn nodi methiannau sylweddol yn y gwasanaeth, neu pan fydd pryderon am wasanaeth neu leoliad yn cronni. Bwriad y broses hon yw cefnogi gwelliant a dysgu, i'r gwasanaeth dan sylw ac ar draws gwasanaethau’r GIG yn ehangach.

Ym mis Mawrth, cynhaliodd AGIC wiriad ansawdd oddi ar y safle o'r adran ym Modelwyddan, gan ddarganfod nifer o feysydd i'w gwella, gyda rhai ohonynt yn nodi lefelau annerbyniol o risg i ddiogelwch cleifion.

Gofynnodd AGIC i'r bwrdd iechyd gymryd camau ar unwaith i amddiffyn cleifion rhag y risgiau a nodwyd. Wedi hynny, cynhaliodd AGIC arolygiad ar y safle ac, o ganlyniad i ddiffyg cynnydd ers cynnal y gwiriad ansawdd, mae AGIC wedi dynodi Adran Achosion Brys Ysbyty Glan Clwyd yn Wasanaeth sydd angen Gwelliant Sylweddol.

Dywedodd Prif Weithredwr AGIC, Alun Jones

‘Mae dynodiad Gwasanaeth sydd angen Gwelliant Sylweddol yn ein galluogi i gynllunio a chyflwyno gweithgareddau yn y dyfodol sy'n angenrheidiol i gael sicrwydd am ansawdd a diogelwch y gofal yn y gwasanaeth hwnnw. Mae'r dynodiad hwn wedi'i bennu i gryfhau a chyflymu'r camau a gymerwyd i ysgogi gwelliannau amserol o fewn y gwasanaeth. Byddwn yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau bod gwelliannau cadarn yn cael eu gwneud mewn modd amserol. Byddwn yn monitro'r cynnydd a wneir ac yna byddwn yn ystyried a ellir isgyfeirio'r gwasanaeth a'i dynnu o'r broses hon.’

Byddwn yn cyhoeddi adroddiad pellach yr haf hwn, yn nodi canfyddiadau llawn ein harolygiad diweddaraf o'r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Glan Clwyd.

Dull Adrodd Newydd

Yn dilyn adborth gan randdeiliaid am ein hadroddiadau arolygu, gwnaethom ymrwymo i gynhyrchu arddull adrodd wedi'i adnewyddu ar gyfer ein holl waith arolygu. Dywedodd llawer ohonoch wrthym fod ein hadroddiadau yn rhy hir ac ailadroddus. Ein tasg oedd dod o hyd i'r ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon o rannu ein canfyddiadau, fel eu bod yn hawdd eu deall.

Rydym wedi gwneud rhai gwelliannau ac wedi datblygu arddull adrodd newydd ar gyfer ein hadroddiadau arolygu ar y safle. Bydd ein hadroddiad arolygu cyntaf yn yr arddull newydd wedi’i adnewyddu yn cael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2022.

Beth fydd yn newid?

Ar gyfer unrhyw arolygiadau ar y safle a gynhaliwyd ar ôl 1 Ebrill 2022, byddwn yn cyhoeddi adroddiad arolygu ac adroddiad cryno.

Mae adroddiad arolygu llawn yn rhywbeth yr ydym eisoes yn ei gynhyrchu, ac fe'u gwelwch ar ein gwefan ar gyfer arolygiadau ar y safle. Rydym wedi diweddaru gwedd a theimlad yr adroddiad ac wedi gwneud yr adroddiadau'n symlach, gan ddileu unrhyw ddyblygu a mireinio'r cynnwys.

Mae'r adroddiadau cryno yn newydd sbon ac ar gyfer y cyhoedd yn bennaf. Mae adroddiad cryno yn fersiwn fer o adroddiad arolygu llawn. Mae ein hadroddiadau cryno yn cyflwyno ein canfyddiadau mewn modd byrrach a mwy hwylus.

Bydd y ddau adroddiad yn cael eu cyhoeddi ar yr un pryd ar y dudalen lleoliadau gofal iechyd ar ein gwefan. Yn unol â'n polisi cyhoeddi, cyhoeddir adroddiadau arolygu ar y safle dri mis ar ôl diwrnod olaf yr arolygiad. Os oes angen gohirio cyhoeddi, byddwn yn cyfathrebu hyn drwy ein hamserlen gyhoeddi.

ydym bob amser yn ymdrechu i wella'r ffordd yr ydym yn rhannu ein canfyddiadau ac yn cyfathrebu â chi. Os oes gennych unrhyw adborth, mae croeso i chi gysylltu â ni. 

Adolygiadau

Adolygiad Cenedlaethol o Lif Cleifion – Llwybr Strôc

Mae ein hadolygiad cenedlaethol o lif cleifion yn dal i fynd rhagddo. Os ydych yn gweithio yng ngwasanaethau gofal iechyd y GIG ledled Cymru, efallai eich bod wedi dod ar draws un o'n timau, gan eu bod wedi bod allan yn y maes yn cynnal yr elfen gwaith maes o’r adolygiad hwn. Diolch i'r staff ym mhob un o'r safleoedd yr ymwelwyd â nhw hyd yma am y proffesiynoldeb a ddangoswyd tuag at dimau AGIC.

Nod yr adolygiad hwn yw asesu effaith unrhyw oedi ar gleifion cyn iddynt gael asesiad neu driniaeth. Rydym yn defnyddio'r llwybr strôc i asesu ansawdd taith y claf. Rydym am ddeall yr hyn sy'n cael ei wneud i liniaru unrhyw niwed i'r rhai sy'n aros am ofal a sut mae ansawdd a diogelwch gofal yn cael eu cynnal ar hyd y llwybr strôc. Mae amser i chi helpu i lunio'r gwaith hwn drwy roi eich barn o hyd.

Os ydych yn gweithio ym maes gofal strôc, neu mewn gwasanaethau sy'n ymwneud â rhyddhau cleifion o'r ysbyty, byddem wrth ein bodd yn clywed eich barn. Cwblhewch ein harolwg.

Os ydych chi, aelod o'ch teulu neu ffrind wedi dioddef strôc yn ystod yr ychydig o flynyddoedd diwethaf, gofynnir ichi gwblhau ein harolwg byr.

Adolygiad Lleol o Drefniadau Llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ar gyfer Darparu Gwasanaethau Gofal Iechyd i Garchar Ei Mawrhydi (CEM) Abertawe

Rydym bellach wedi cyhoeddi ein hadroddiad ar y gwaith a wneir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i lywodraethu gwasanaethau gofal iechyd a ddarperir yng Ngharchar Ei Mawrhydi Abertawe.

Mae AGIC wedi archwilio profiadau pobl sy'n cyrchu gofal a thriniaeth, i ddeall sut mae gwasanaethau'n eu helpu nhw i reoli eu cyflyrau iechyd meddwl ac atal argyfwng. Bu’r adolygiad hefyd yn ystyried sut mae meddygon teulu a gwasanaethau eraill y GIG ledled Cymru yn darparu gofal diogel ac effeithiol i helpu i atal argyfwng iechyd meddwl, a’r hyn y mae sefydliadau trydydd sector yn ei wneud i gefnogi hyn.

Rhai o'r canfyddiadau allweddol o'r adroddiad:

  • Aneffeithlonrwydd yn y broses – Canfuodd adolygiad AGIC y gall prosesau atgyfeirio fod yn gymhleth, gan arwain at amseroedd aros a allai fod yn hir pan nad oes gan unigolion ddigon o gymorth.
  • Staff ymrwymedig – Mae’r rhai sy’n gweithio ym maes gofal iechyd, gwasanaethau brys a gwasanaethau trydydd sector, a ledled Cymru, wedi ymrwymo ac yn ymroddedig i ddarparu cymorth a gofal i bobl ag anghenion iechyd meddwl. 

Gweithio gyda ni?

Ydych chi erioed wedi meddwl sut brofiad yw gweithio gyda ni fel adolygydd cymheiriaid? 

Darllenwch ymlaen i ddarganfod beth mae Melanie Webber-Maybank yn ei feddwl o'i phrofiad o weithio gyda ni. 

Ynglŷn â Enw: Melanie Webber-Maybank Teitl swydd: Cyfarwyddwr Ysbyty Dros Dro (Nyrs Gyffredinol Gofrestredig) Lleoliad: Nuffield Health, Caerdydd

Cefndir gyrfa:

Mae Melanie wedi gweithio yn y GIG ers 25 mlynedd ar draws prif ysbytai yn Ne Cymru, gan arbenigo mewn trawma ac arweinyddiaeth. Gadawodd Melanie y GIG wyth mlynedd yn ôl i gymryd swydd fel Pennaeth Gwasanaethau Clinigol yn y sector annibynnol, ac ar yr adeg honno ymunodd ag AGIC fel adolygydd cymheiriaid. Cyfarwyddwr ysbyty dros dro ar gyfer dau ysbyty yng Nghaerdydd yw swydd bresennol Melanie. Mae Melanie hefyd yn astudio ar gyfer ei gradd MBA ar hyn o bryd.

Beth wnaeth i chi benderfynu bod yn adolygydd cymheiriaid?

Gwneuthum y penderfyniad yn dilyn argymhelliad gan uwch-arweinydd yn AGIC, gan ei fod yn teimlo bod gennyf y sgiliau cywir. Roeddwn yn hapus i wneud cais a chaniatáu i'm sgiliau fod o fudd i sefydliadau eraill a gwella diogelwch cleifion yn y pen draw. Yn bersonol, rwy’n mwynhau’r arolygiadau’n fawr gan fy mod wedi cyfarfod ag ystod amrywiol o bobl, o’r tîm arolygu i gleifion a’r staff clinigol ar lawr gwlad. Mae’n caniatáu imi deimlo fy mod yn cyfrannu at wella gofal iechyd yng Nghymru.

Allwch chi ddisgrifio i ni'r gwaith rydych chi'n ei wneud fel adolygydd cymheiriaid?

Fel adolygydd cymheiriaid, rydym yn cefnogi tîm arolygu AGIC i arolygu sefydliadau gofal iechyd ledled Cymru. Mae'r rôl yn amrywiol, a gallwch gael eich neilltuo i weithio mewn unrhyw faes clinigol sydd o fewn eich set sgiliau a'ch profiad. Mae AGIC yn cysylltu â chi i ofyn a ydych ar gael ar ddyddiadau penodol a'ch argaeledd, ac nid oes pwysau i dderbyn os nad ydych ar gael. Rwy'n gweithio'n llawn amser yn fy rôl bresennol felly yn aml mae gennyf ymrwymiadau eraill, ond nid yw hynny erioed wedi bod yn broblem. Mae cyfarfod cyn i'r arolygiad ddechrau a dyrennir rôl i chi fel rhan o'r tîm, lle gallech fod yn arolygu atal heintiau, rheoli meddyginiaethau, neu adolygu nodiadau cleifion; rydych hefyd yn siarad â chleifion a staff i gofnodi eu profiadau. Mae yna lyfrau gwaith i weithio drwyddynt yn ystod yr arolygiad, sy'n eich arwain ynglŷn â safonau a meysydd y mae angen i chi fod yn arsylwi arnynt neu'n eu hadolygu. Rydych chi'n gweld cymaint o waith da sy'n mynd rhagddo ac yn nodi meysydd i’w gwella a allai wella profiadau'r cleifion, diogelwch, ac amodau gwaith ar gyfer staff.

Pa mor werth chweil yw'r rôl? A sut mae'r swydd yn cyfrannu at flaenoriaethau AGIC?

Mae'r rôl yn rhoi boddhad mawr gan eich bod yn gweithio gyda thimau proffesiynol sy'n eich cefnogi fel adolygydd cymheiriaid yn ystod y broses arolygu. Rydych hefyd yn teimlo eich bod yn cyfrannu at gadw cleifion a staff yn ddiogel. Rydych yn cyfrannu at flaenoriaethau AGIC wrth i chi arolygu yn erbyn y fframwaith a safonau a argymhellir ar gyfer gofal cleifion. Mae AGIC hefyd yn gofyn am adborth ar y broses arolygu, felly fel adolygydd cymheiriaid gallwch hefyd helpu i lunio dyfodol arolygiadau.

Beth ydych chi'n ei fwynhau fwyaf am y rôl?

Siarad â'r staff a'r cleifion am eu profiad yw'r peth mwyaf pleserus. Gan fod y staff yn gweithio mor galed, yn aml mewn amgylcheddau heriol, gall y broses arolygu fod o gymorth mawr i'w cefnogi yn y dyfodol. Hefyd, mae'r cleifion yn aml yn ganmoliaethus iawn am eu gofal, ond, os nodir problemau, yn aml mae modd mynd i'r afael â nhw a'u gwella.

Pa sgiliau neu nodweddion sydd fwyaf addas ar gyfer y rôl yn eich barn chi?

Mae angen i chi allu gweithio fel rhan o dîm, bod ag agwedd hyblyg, a gallu trefnu eich hun o fewn y meysydd yr ydych yn eu harolygu. Mae cyfathrebu da ac ymagwedd gyfeillgar agored yn ddefnyddiol, fel bod y cleifion a’r staff yn teimlo'n hyderus ac yn gyfforddus i siarad â chi am eu profiadau.

Beth yw rhai o'r heriau sy'n eich wynebu fel adolygydd cymheiriaid?

Gall yr heriau fod yn ymwneud â meysydd i’w gwella, gan y gall hynny fod yn anodd pan fo staff dan bwysau. Yn gyffredinol, ni welaf fod llawer o heriau fel adolygydd cymheiriaid, gan eich bod yn cael eich cefnogi gan dîm arolygu AGIC, ac rwyf bob amser wedi cael croeso gan y staff yn y meysydd yr wyf yn eu harolygu.

Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i rywun sy'n ystyried y rôl hon?

Byddwn yn cynghori unrhyw un sy’n gallu neilltuo amser i’r rôl i wneud cais, gan ei bod mor werth chweil ac yn cynnig profiad gwych.

Pe gallech chi grynhoi'r rôl mewn tri gair, beth fydden nhw?

Gwerthfawr, pleserus, cyfrifol.

Mae gennym ni swyddi gwag ar hyn o bryd ar gyfer:

Dysgu a Dealltwriaeth

Rheoli Meddyginiaethau

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae AGIC wedi adrodd dro ar ôl tro ar amrywiaeth o faterion yn ymwneud â rheoli meddyginiaethau yn ein hadroddiadau arolygu unigol ac adroddiadau blynyddol. Er i amrywiaeth o faterion gael eu hadrodd, mae nifer o themâu allweddol wedi dod i'r amlwg drwy adolygiad ôl-weithredol gan ein tîm clinigol. Teimlwn ei bod yn bwysig inni dynnu sylw at y themâu cyffredin hyn a hefyd y meysydd arfer da a nodwyd gennym. Gobeithiwn y bydd hyn o gymorth i chi a’ch staff wrth feddwl am sut y gallwn ni i gyd gyfrannu at wneud rheoli meddyginiaethau yn fwy diogel ac effeithiol.

Y meysydd a oedd yn peri pryder i ni yn ystod ein hadolygiad oedd:

  • Storio a gwirio meddyginiaethau yn ddiogel
  • Hepgoriadau a dogfennau yn ymwneud â hepgoriadau
  • Rhagnodi ocsigen
  • Cofnodi alergeddau
  • Meddyginiaethau sy’n gritigol o ran amser

1. Storio a gwirio meddyginiaethau yn ddiogel

Mewn nifer o adroddiadau, amlygwyd nad oedd meddyginiaethau'n cael eu storio'n ddiogel ac ar y tymheredd cywir yn gyson. Roedd y meysydd o bryder yn cynnwys:

  • Meddyginiaethau'n cael eu gadael mewn mannau lle gallai aelodau'r cyhoedd neu gleifion gael gafael arnynt
  • Hylifau mewnwythiennol yn cael eu storio mewn cypyrddau anniogel
  • Meddyginiaethau sydd angen eu storio mewn oergell ddim yn cael eu rhoi yn yr oergell
  • Meddyginiaethau'n cael eu gadael, heb eu diogelu, wrth erchwyn gwely'r claf

Roedd rhai meysydd o arfer da a nodwyd gennym y gallech fod am eu mabwysiadu yn cynnwys:

  • Cerdyn allwedd i'r holl fannau paratoi meddyginiaeth a storio hylifau mewnwythiennol. Roedd hyn yn sicrhau pe byddai meddyginiaethau'n cael eu gadael allan eu bod yn dal yn ddiogel rhag mynediad anawdurdodedig. Hefyd, roedd hyn yn golygu y gallai staff gael mynediad hawdd i'r mannau hyn heb fod angen allwedd.
  • Archwiliadau ar hap yn rheolaidd i asesu diogelwch a threfniadau storio meddyginiaethau yn barhaus.
  • Mae polisi a nodiadau atgoffa ar waith i sicrhau bod y staff yn gwylio cleifion yn cymryd eu meddyginiaethau cyn gadael erchwyn eu gwely.

2. Hepgoriadau a dogfennaeth yn ymwneud â hepgoriadau

Nodwyd hepgor meddyginiaethau hefyd mewn nifer fawr o adroddiadau arolygu. Roedd hyn yn cynnwys peidio â chofnodi’r rhesymau dros hepgoriadau a’u gadael yn wag, a chleifion yn peidio â chael y meddyginiaethau yr oedd eu hangen arnynt.

Roedd rhai meysydd o arfer da a nodwyd gennym y gallech fod am eu mabwysiadu yn cynnwys:

  • Archwiliadau a gwiriadau siartiau presgripsiwn rheolaidd i amlygu unrhyw broblemau a gweithio gyda'r staff i'w datrys.
  • Adrodd ar unrhyw hepgoriadau wrth drosglwyddo ac mewn briffiau diogelwch, i sicrhau eu bod yn cael eu cywiro cyn gynted â phosibl.
  • Adrodd am unrhyw ddigwyddiadau hepgor.
  • Hyfforddiant oddi wrth staff fferyllol neu fferyllfeydd i helpu staff i ddeall sut i osgoi hepgoriadau ac i sicrhau bod llwybrau amgen ar gael os oes angen.

3. Rhagnodi ocsigen

Mae rhagnodi ocsigen yn parhau i fod yn bryder i AGIC mewn lleoliadau gofal iechyd acíwt. Er bod y GIG wedi mabwysiadu protocol rhagnodi sydd wedi’i argraffu ar siartiau presgripsiwn, canfuom yn aml nad oedd hwn wedi’i lenwi. Mewn llawer o achosion, roedd cleifion yn cael therapi ocsigen heb i hyn gael ei ragnodi ar eu siart presgripsiwn.

Roedd rhai meysydd o arfer da a nodwyd gennym y gallech fod am eu mabwysiadu yn cynnwys:

  • Ychwanegu rhagnodi ocsigen at sesiynau briffio diogelwch a throsglwyddiadau i atgoffa'r staff o bwysigrwydd y mater hwn.

4. Cofnodi alergeddau

Nid oedd gwybodaeth am alergeddau mewn nifer o gofnodion. Gallai hyn beri risg i gleifion os oes ganddynt alergeddau nad ydynt wedi’u cofnodi.

5. Meddyginiaethau sy’n gritigol o ran amser

Mewn nifer o arolygiadau, nodwyd nad oedd cleifion bob amser yn derbyn eu meddyginiaethau sy’n gritigol o ran amser ar yr adeg gywir. Roedd hyn yn cynnwys meddyginiaethau fel inswlin a meddyginiaethau ar gyfer clefyd Parkinson. Mae'n bwysig bod y meddyginiaethau hyn yn cael eu rhoi ar amser er mwyn sicrhau nad yw cleifion yn dioddef unrhyw sgîl-effeithiau diangen o ganlyniad i oedi.

Roedd rhai meysydd o arfer da a nodwyd gennym y gallech fod am eu mabwysiadu yn cynnwys:

  • System fflagio ar gyfer y cleifion sy'n cymryd meddyginiaethau sy’n gritigol o ran amser, megis symbolau ar eu siartiau presgripsiwn neu wrth erchwyn eu gwely.
  • Nyrs 'critigol o ran amser' wedi'i neilltuo mewn wardiau. Byddai'r nyrs hon yn sicrhau bod pob claf sy'n cymryd meddyginiaethau sy’n gritigol o ran amser yn eu cael yn brydlon drwy annog y nyrs sy'n gofalu amdanynt neu gynorthwyo drwy eu rhoi eu hunain.
  • Clociau larwm wedi'u lleoli wrth ochr y cleifion, wedi'u gosod i ganu ar yr adeg yr oedd angen y feddyginiaeth.

Dweud eich dweud

Rydym yn cynnal arolygon pan hoffem gael eich barn ar bynciau penodol.

Mae gennym amrediad o arolygon staff a chleifion ar agor ar hyn o bryd ac rydym yn croesawu eich barn ar unrhyw un o'r pynciau.

Gellir bellach weld yr holl arolygon sydd ar agor ar ein tudalen arolygon ar ein gwefan.