Prif Weithredwr

Ymunodd Alun ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ym mis Ebrill 2014 ac arweiniodd y sefydliad fel Prif Weithredwr Interim yn ystod pandemig Covid-19, un o'r cyfnodau mwyaf heriol ar gyfer gofal iechyd mewn hanes diweddar. Penodwyd Alun fel Prif Weithredwr parhaol AGIC ym mis Gorffennaf 2022.
Mae gan Alun bron i 30 mlynedd o brofiad yn gweithio mewn gwelliannau i'r sector cyhoeddus. Yn y gorffennol mae wedi gweithio i'r Comisiwn Archwilio, y Comisiwn Gofal Iechyd a'r Comisiwn Ansawdd Gofal , lle arweiniodd gyfraniad y Comisiwn i Ymchwiliad Cyhoeddus Canolbarth Swydd Stafford.
Fel Prif Weithredwr AGIC, mae rôl Alun yn un amrywiol iawn, gyda'r sefydliad yn gweithredu fel arolygiaeth y GIG a rheoleiddiwr gofal iechyd annibynnol yng Nghymru. Mae AGIC hefyd yn cyflawni nifer o rolau statudol o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.
Mae ymrwymiad Alun i uniondeb a didueddrwydd yn cyd-fynd yn agos ag uchelgais AGIC o fod yn llais dibynadwy, annibynnol sy'n dylanwadu ac yn ysgogi gwelliannau ystyrlon mewn gofal iechyd.