Neidio i'r prif gynnwy

Arolygiad yn canfod bod gwelliannau wedi'u gwneud mewn ysbyty iechyd meddwl diogel yn Sir Fynwy

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (18 Mai 2023) yn dilyn arolygiad o Ysbyty Llys Llanarth, lleoliad annibynnol yn Sir Fynwy sy'n darparu gwasanaeth asesu a thrin arbenigol i ddynion a menywod ag anhwylder meddwl, sy'n dangos amrywiaeth o ymddygiadau heriol. Caiff gofal ei ddarparu mewn amgylcheddau diogel ac agored.

Ysbyty Llys Llanarth - Gwasanaeth Iechyd Meddwl Annibynnol

Canfu'r arolygwyr fod y staff yn ymrwymedig i ddarparu gofal diogel ac effeithiol a'u bod yn trin y cleifion ag urddas a pharch. Canfu'r gwaith sicrwydd fod y cleifion yn cael gofal o ansawdd da a bod protocolau addas ar waith i reoli risgiau, iechyd a diogelwch a heintiau. Roedd rhai meysydd i'w gwella, gan gynnwys sicrhau y caiff cyfarpar brys a dadebru ei storio mewn man clir a hygyrch lle y gall y staff gael gafael arno mewn argyfwng. Fodd bynnag, ni nodwyd unrhyw bryderon uniongyrchol am ddiogelwch cleifion yn ystod yr arolygiad.

Cwblhaodd AGIC arolygiad dirybudd yn yr ysbyty ar dri diwrnod dilynol ym mis Chwefror 2023. Yn ystod y cyfnod hwn, arolygwyd nifer o feysydd asesu yn yr ysbyty sy'n darparu 97 o welyau i ddynion a menywod sydd â salwch meddwl a/neu anhwylderau personoliaeth, gan gynnwys ddynion ag anableddau dysgu/deallusol.

Canfu'r arolygwyr fod y cleifion yn cael gofal wedi'i deilwra a oedd yn adlewyrchu eu hanghenion a'u risgiau unigol. Roedd cyfleusterau da ar gael ar y safle fel clwb cymdeithasol a chaffi a oedd yn rhoi cyfleoedd i gleifion ymgysylltu ac ymlacio y tu allan i'w hamgylchedd gofal uniongyrchol. Gallai'r cleifion gymryd rhan a rhoi adborth ar eu gofal, ac roedd eiriolwr iechyd meddwl ar gael iddynt yn wythnosol a oedd yn darparu gwybodaeth a chymorth pellach.

Roedd yr ystafelloedd clinigol wedi'u had-drefnu ers ein harolygiad blaenorol er mwyn gwella preifatrwydd ac urddas y cleifion wrth iddynt gael eu meddyginiaeth. Roedd gweithdrefnau cadarn ar waith i reoli meddyginiaethau'n ddiogel ar bob ward. Roedd cynlluniau gofal y cleifion yn cael eu cynnal i safon dda, ac roedd dogfennaeth statudol ar waith ar gyfer cleifion yr oedd yn ofynnol iddynt gael eu cadw'n gyfreithlon ac mewn modd priodol.

Roedd y gweithdrefnau rheoli meddyginiaethau ar Ward Treowen o safon uchel iawn ac yn dangos arferion gorau a mentrau ardderchog. Fodd bynnag, nododd yr arolygwyr fod angen i wiriadau tymheredd ystafelloedd ac oergelloedd mewn wardiau eraill gael eu monitro a'u dogfennu'n rheolaidd. Dylai biniau offer miniog gael eu storio'n ddiogel a'u symud mewn modd amserol. Rhaid i'r gwasanaeth sicrhau y caiff cyfarpar brys a dadebru ei storio ar wahân mewn man clir a hygyrch lle y gall y staff gael gafael arno'n gyflym mewn argyfwng. Nododd yr arolygwyr hefyd fod angen i asesiadau galluedd meddyliol gael eu dogfennu a'u storio yng nghofnodion y cleifion er mwyn i'r staff allu cael gafael arnynt.

Roedd trefniadau llywodraethu sefydledig ac effeithiol ar waith i oruchwylio materion clinigol a gweithredol. Roedd yn destun pryder bod aelodau o staff yr ysbyty, pan ofynnwyd iddynt, wedi nodi eu bod wedi wynebu gwahaniaethu yn y gwaith gan gleifion yn ystod y 12 mis diwethaf. Gwnaethom ofyn i'r gwasanaeth amlinellu'r camau a gymerir i geisio cael gwared ar y gwahaniaethu hwn ac i ddisgrifio'r cymorth sydd ar gael i'r staff ar ôl digwyddiadau o'r fath.

Dywedodd Prif Weithredwr AGIC, Alun Jones:

Mae'n braf gweld ansawdd y gofal a roddir i geifion gan y staff ymroddedig yn Ysbyty Llys Llanarth. Mae'n galonogol gweld bod gwelliannau wedi'u gwneud ers ein hymweliad blaenorol i sicrhau bod cleifion yn cael gofal diogel ac effeithiol. Mae'r Priory Group wedi llunio cynllun sy'n nodi camau gwella o ganlyniad i'r gwaith arolygu hwn. Bydd AGIC yn monitro cynnydd y bwrdd iechyd yn erbyn y cynllun hwn.