Neidio i'r prif gynnwy

Angen gwella cyfleuster iechyd meddwl yn y Rhyl

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (19 Hydref 2023) yn dilyn arolygiad dirybudd o uned iechyd meddwl arbenigol yn y Rhyl. Cafodd yr arolygiad o Uned Ablett yn Ysbyty Glan Clwyd ei gynnal dros dri diwrnod yn olynol ym mis Gorffennaf 2023.

Uned Ablett Ysbyty Glan Clwyd Ysbyty Iechyd Meddwl

Mae'r ysbyty, a gaiff ei redeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl i gleifion mewnol ar gyfer dynion a menywod, ac roedd ein harolygiad yn canolbwyntio ar Ward Tegid (rhywedd cymysg, iechyd meddwl pobl hŷn) a Ward Dinas (wardiau 10 gwely derbyniadau acíwt ar wahân ar gyfer dynion a menywod).

Yn ystod ein harolygiad, gwnaethom nodi problemau mewn perthynas â'r ystafell Adran 136, sef lle diogel o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl ar gyfer cleifion a gaiff eu cadw tan y caiff asesiad o'u hanghenion ei gwblhau. Cawsom ein siomi pan welsom nad oedd y gwasanaeth wedi gweithredu ar ein hargymhellion ar gyfer yr un broblem a wnaed yn ystod ein harolygiad ym mis Ionawr 2019. Bu'n ofynnol i'r staff gefnogi cleifion yn yr ystafell hon ar eu pen eu hunain, oherwydd lefelau staffio annigonol mewn rhannau eraill o'r uned.  Rydym yn cydnabod bod cynlluniau ar waith ar gyfer agor cyfleuster newydd yn y dyfodol gyda'r nod i ddatrys hyn, ond mae'n hanfodol bod y bwrdd iechyd yn rheoli'r risgiau nawr. Rydym wedi gofyn i'r bwrdd iechyd roi sicrwydd ynghylch y camau a gymerir yn y cyfamser i wella'r amgylchedd ac ansawdd y gofal a ddarperir i gleifion cyn i'r cyfleuster newydd agor.

Gwelodd yr arolygwyr staff yn trin cleifion ag urddas a pharch, ac roedd y cleifion y gwnaethom siarad â nhw yn canmol y gofal a oedd yn cael ei ddarparu a'r rhyngweithio rhyngddynt a'r staff. Roedd gweithgareddau amrywiol ar gael i gleifion gymryd rhan ynddynt yn ystod eu harhosiad i wella eu llesiant.  Gwelsom wybodaeth yn cael ei harddangos ar y wardiau i roi gwybod i gleifion am eu hawliau o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.  Roedd dewis iaith pob claf yn cael ei gofnodi ar fyrddau ‘cipolwg’ ar statws cleifion ar bob ward. Nododd yr arolygwyr bod hyn yn arfer da.

Nid oedd amgylchedd ffisegol y wardiau yn helpu i gynnal preifatrwydd ac urddas pob un o'r cleifion yn llawn. Er enghraifft, er bod gan y mwyafrif o'r cleifion eu hystafelloedd eu hunain, roedd yn rhaid i rai cleifion rannu ystafell wely. Nododd yr arolygwyr y byddai galluogi i gleifion bersonoli eu hystafelloedd i greu man diogel, lle y gallant ddangos eu personoliaeth er mwyn helpu i hybu eu llesiant o fudd iddynt.

Gwelsom fod polisïau a gweithdrefnau addas ar waith i helpu'r staff i ddarparu gofal diogel ac effeithiol. Roedd amgylchedd pob ward yn lân ac yn daclus ac roedd gosodiadau a ffitiadau addas ar gyfer y grŵp hwn o gleifion. Roedd polisïau a phrosesau sefydledig y bwrdd iechyd ar waith er mwyn sicrhau bod y staff yn diogelu cleifion agored i niwed, ac roedd achosion yn cael eu hatgyfeirio at asiantaethau allanol yn fel y bo'n ofynnol. Fodd bynnag, rhaid i'r bwrdd iechyd ddatblygu polisi sy'n nodi'r disgwyliadau o ran diogelwch staff mewn perthynas â gwisgo larymau personol ar gyfer diogelwch.

Ar y cyfan, roedd cofnodion y cleifion yn gynhwysfawr, yn glir ac o ansawdd da. Roedd yn ymddangos bod prosesau llywodraethu a goruchwylio mewnol priodol ar waith, gan gynnwys cyfarfodydd i drafod unrhyw faterion yn ymwneud â gofal cleifion ac i nodi gwelliannau. Fodd bynnag, mae'n rhaid i'r cofnodion rhoi meddyginiaeth gael eu cwblhau'n llawn a'u hysgrifennu'n glir er mwyn osgoi dryswch ymysg y staff ac i leihau'r risg o wall meddyginiaeth. Gwelsom dystiolaeth o gynlluniau rhyddhau cleifion o'r ysbyty ac ôl-ofal priodol, gyda chyfraniad da gan y timau amlddisgyblaethol, cydgysylltwyr gofal a thimau iechyd meddwl o'r gymuned leol. Roedd cyfraddau cydymffurfio â hyfforddiant gorfodol yn uchel ymhlith y staff yn yr uned hefyd.

Dywedodd y mwyafrif o'r staff y byddent yn argymell yr uned fel lle i weithio a gwnaethant nodi y byddent yn hapus â safon y gofal a ddarperir gan yr uned pe byddai angen triniaeth arnynt hwy neu ar ffrind neu berthynas. Fodd bynnag, cododd rhai aelodau o'r staff bryderon am y lefelau staffio yn yr uned ac roeddent o'r farn nad oedd yr uwch-reolwyr yn amlwg ac nad oedd y broses gyfathrebu rhwng yr uwch-reolwyr a'r staff yn effeithiol. Rydym wedi gofyn i'r bwrdd iechyd roi sicrwydd am y trefniadau staffio presennol. Rhaid i'r bwrdd iechyd adlewyrchu a rhoi sicrwydd am y ffordd y bydd yn ymgysylltu, yn gwrando ac yn gweithredu ar adborth gan staff.

Dywedodd Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Alun Jones:

“Rydym yn ymwybodol bod cynlluniau ar waith i agor uned iechyd meddwl arbenigol newydd a fydd yn sicrhau cyfleuster modern wedi'i wella'n sylweddol, ac a fydd yn galluogi'r staff i ddarparu lefelau uwch o ofal. Fodd bynnag, ni fydd yr uned newydd hon wedi'i chwblhau am nifer o flynyddoedd, ac mae'n rhaid i'r bwrdd iechyd wneud gwelliannau nawr i amddiffyn y cleifion a'r staff presennol. Mae'n gadarnhaol nodi ymroddiad y staff i ddarparu gofal diogel ac urddasol. Mae hefyd yn dda clywed adborth cadarnhaol gan gleifion ar eu gofal. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r bwrdd iechyd ar ei gynlluniau ar gyfer gwella.”