AGIC yn nodi gwelliannau yng Ngwasanaethau Ambiwlans Cymru, ond mae achosion o oedi wrth drosglwyddo cleifion yn parhau'n her
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi asesu'r cynnydd a wnaed gan Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) ers yr adolygiadau a gyhoeddwyd yn 2020 a 2021. Roedd yr adolygiadau hynny'n ystyried y prosesau ar gyfer rheoli cleifion drwy ganolfannau galwadau brys a diogelwch, urddas a phrofiad cleifion y mae oedi wrth eu trosglwyddo o'r ambiwlans wedi effeithio arnynt.

Roedd asesiad diweddaraf AGIC yn ystyried y cynnydd ar draws pum maes allweddol: llif cleifion a throsglwyddiadau, rheoli pwysau gweithredol, cyfathrebu â chleifion, arweinyddiaeth a llywodraethu, ac ansawdd data.
Ar y cyfan, nododd AGIC fod WAST wedi gwneud cynnydd sylweddol ers yr adolygiadau blaenorol a'i bod mewn sefyllfa sylweddol gryfach na'i sefyllfa ar adeg yr adolygiadau hynny. Mae'n ymddangos bod nifer o welliannau wedi'u hymgorffori fel rhan o'r arferion llywodraethu a'r arferion gweithredol rheolaidd, gan gynnwys gwelliannau o ran arweinyddiaeth, cymorth i'r gweithlu, gwneud penderfyniadau clinigol a llywodraethu digidol.
Nododd yr asesiad gynnydd clir wrth reoli llif cleifion ac o ran achosion o oedi wrth drosglwyddo cleifion o'r ambiwlans. Mae WAST wedi atgyfnerthu'r prosesau ar gyfer gwneud penderfyniadau clinigol ac wedi gweithio gyda'r system gofal iechyd i ddatblygu ffyrdd amgen i gleifion gael gofal priodol heb fynd i'r adran achosion brys. Nododd AGIC sawl enghraifft o arfer canmoladwy, gan gynnwys mentrau sy'n sicrhau bod cleifion yn cael asesiad clinigol yn gynt a chymorth i'w cyfeirio at y gofal mwyaf priodol. Nododd AGIC welliannau o ran perfformiad wrth drosglwyddo o'r ambiwlans hefyd, gyda'r oriau a gollwyd wrth drosglwyddo ym mis Tachwedd 2025 yn gostwng i'w lefel isaf mewn pedair blynedd.
Nodwyd gwelliannau sylweddol yn y ffordd y mae WAST yn rheoli cyfnodau o alw mawr a phwysau gweithredol. Mae'r capasiti arwain, cymorth i'r gweithlu, trefniadau lleisio barn a seilwaith hyfforddi a datblygu oll wedi gwella ers yr adolygiadau blaenorol. Darparodd WAST dystiolaeth hefyd i ddangos bod achosion o absenoldeb oherwydd salwch wedi gostwng, ond nid oes digon o dystiolaeth eto i ddangos effaith barhaus ei mentrau o ran y gweithlu a llesiant.
Mae WAST wedi atgyfnerthu ei phrosesau llywodraethu digidol ac wedi buddsoddi mwy i wella ansawdd y wybodaeth a ddefnyddir i gefnogi gofal cleifion, cynllunio gwasanaethau a monitro perfformiad. Mae WAST hefyd wedi cymryd camau i reoli'r pwysau cynyddol ar ei gwasanaeth cludo cleifion nad ydynt yn achosion brys, sy'n cynnig trafnidiaeth i gleifion sy'n mynychu apwyntiadau gofal iechyd ac yn cael triniaeth.
Er bod gwelliannau wedi'u gwneud, oedi wrth drosglwyddo cleifion o'r ambiwlans yw'r her fwyaf sylweddol o hyd ac mae'n parhau i beri risg ym mhob rhan o'r system gofal brys a gofal argyfwng. Er bod nifer o welliannau wedi'u gwneud a'u bod wedi'u hymgorffori i bob golwg, mae angen tystiolaeth bellach i ddangos bod y newidiadau hyn yn sicrhau manteision parhaol i gleifion, staff a gwasanaethau, yn enwedig drwy wella diogelwch cleifion a lleihau'r risgiau sy'n gysylltiedig ag oedi wrth drosglwyddo cleifion ac achosion o aros cyfnod hir cyn cael gofal. Mae AGIC hefyd yn cydnabod bod oedi wrth drosglwyddo cleifion yn fater sy'n effeithio ar y system gyfan na all WAST ei ddatrys ar ei phen ei hun.
Mae AGIC wedi gwneud argymhellion i gefnogi'r cyfnod nesaf o welliannau ac i helpu WAST i ddangos effaith y newidiadau y mae wedi'u gwneud. Mae'r argymhellion hyn yn canolbwyntio ar feysydd sy'n cynnwys diogelwch cleifion, profiad y claf, datblygu staff, dysgu sefydliadol ac ansawdd data. Bydd AGIC yn parhau i fonitro cynnydd drwy ei gwaith parhaus ag WAST.
Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:
“Nododd ein hadolygiadau blaenorol o Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn 2020 a 2021 bryderon sylweddol yn ymwneud ag oedi wrth drosglwyddo cleifion, profiad y claf a phwysau ym mhob rhan o'r system gofal brys a gofal argyfwng.”
“Mae'n galonogol gweld bod yr Ymddiriedolaeth wedi ymateb yn gadarnhaol i lawer o'r canfyddiadau hyn a'i bod wedi gwneud cynnydd sylweddol mewn nifer o feysydd pwysig. Gwelsom dystiolaeth fod y prosesau ar gyfer gwneud penderfyniadau clinigol a llwybrau gofal amgen wedi gwella, gan helpu rhai cleifion i gael gofal priodol heb fod angen iddynt fynd i adran achosion brys.”
“Fodd bynnag, mae oedi wrth drosglwyddo cleifion yn parhau i fod yn her ym mhob rhan o'r system gofal iechyd. Er bod cynnydd wedi'i wneud, rydym am weld tystiolaeth gryfach bod y newidiadau hyn yn gwella diogelwch cleifion ac yn darparu manteision parhaol i gleifion. Bwriedir i'n hargymhellion gefnogi'r cyfnod nesaf o welliannau a helpu i sicrhau y caiff newidiadau cadarnhaol eu cynnal.”