Neidio i'r prif gynnwy

AGIC yn isgyfeirio Gwasanaethau Fasgwlaidd yng Ngogledd Cymru fel gwasanaeth sydd angen ei wella'n sylweddol

Heddiw, cyhoeddwyd adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) mewn perthynas â'r gwasanaethau fasgwlaidd a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Gwasanaethau Fasgwlaidd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; adolygiad o gynnydd

Mae'r adroddiad yn dilyn y broses o isgyfeirio'r gwasanaethau hyn fel Gwasanaeth sydd Angen ei Wella'n Sylweddol (SRSI). Nod proses SRSI AGIC yw nodi methiannau o fewn gwasanaethau, er mwyn ysgogi gwelliannau brys. Nododd yr adolygiad dystiolaeth o gynnydd mewn perthynas â diogelwch cleifion ac ansawdd y gofal a ddarperir a arweiniodd at y broses o isgyfeirio.

Gwnaed y penderfyniad i gynnal yr adolygiad yn dilyn cyhoeddi Adroddiad Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yn Lloegr yn 2022, a oedd yn nodi nifer o argymhellion brys mewn perthynas â risgiau i ddiogelwch cleifion. Roedd ein hadolygiad yn cydnabod bod cynnydd boddhaol wedi'i wneud yn erbyn pob un o'r naw argymhelliad a wnaed gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon. Mae'n amlwg bod y bwrdd iechyd wedi gwneud ymdrechion i roi prosesau ar waith a gwneud gwelliannau yn ei wasanaethau fasgwlaidd, gyda'r nod o roi gofal diogel, amserol ac effeithiol i gleifion. Er bod y broses hon o isgyfeirio yn gam cadarnhaol, mae angen i'r bwrdd iechyd gynnal y momentwm y mae wedi'i greu er mwyn parhau i wella'r gwasanaeth.

Ym mis Ebrill 2019, newidiodd y bwrdd iechyd ei fodel gofal ar gyfer gwasanaethau fasgwlaidd, lle roedd y llawdriniaethau mwyaf cymhleth, megis llawdriniaeth rhwydwelïol fawr, yn cael eu cynnal mewn canolfan arbenigol yn Ysbyty Glan Clwyd. Y nod yw sicrhau bod cleifion yn ardal y bwrdd iechyd yn cael yr un mynediad at wasanaethau fasgwlaidd, ni waeth ble maent yn byw, a bod llawdriniaethau yn cael eu blaenoriaethu i'r rhai sydd eu hangen fwyaf.

Yn ystod ein hadolygiad, gwnaethom ystyried a wnaeth y camau gweithredu a roddwyd ar waith gan y bwrdd iechyd fynd i'r afael â'r argymhellion a wnaed gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon a gwella ansawdd y gofal a ddarperir. Gwnaethom hefyd ystyried a oedd y gofal fasgwlaidd yn gyson.

Gwnaed cynnydd boddhaol yn erbyn naw argymhelliad a amlinellwyd gan dîm adolygu Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yn 2022, a bod camau gweithredu brys wedi'u cymryd i fynd i'r afael â'r pum argymhelliad brys o ran risgiau i ddiogelwch cleifion. Mae angen gwneud rhagor o waith i gryfhau rhai agweddau ar gadw cofnodion clinigol, a sicrhau bod taith claf drwy'r llwybrau fasgwlaidd yn gyson ac yn gadarn. Rhaid i'r bwrdd iechyd sicrhau bod ansawdd prosesau cyfathrebu ysgrifenedig yn cael ei gynnal, a bod cofnodion yn cael eu ffeilio'n amserol ac mewn trefn gronolegol, er mwyn sicrhau diogelwch cleifion bob amser. Cafodd Panel Adolygu Ansawdd Fasgwlaidd ei sefydlu gan y bwrdd iechyd i gynnal gwaith craffu pellach ar gofnodion y cleifion a chaiff ei adolygu gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon. O ganlyniad, mae gwybodaeth newydd wedi'i nodi ac mae'r bwrdd iechyd wedi atgyfeirio pedwar unigolyn at y crwner.

Drwy ein hadolygiad, gwelsom fod y bwrdd iechyd wedi gwneud cynnydd boddhaol o ran y gwelliannau a argymhellwyd ar gyfer proses y Tîm Amlddisgyblaethol o wneud penderfyniadau. Grŵp o weithwyr gofal iechyd proffesiynol o arbenigeddau amrywiol yw tîm amlddisgyblaethol, megis llawfeddygon, anesthetyddion, nyrsys neu ffisiotherapyddion, sy'n cydweithio i wneud penderfyniadau ar y driniaeth a'r gofal a ddarperir i gleifion. Nododd arolygwyr bod camau gweithredu brys wedi'u rhoi ar waith yn y gwasanaeth llawdriniaeth fasgwlaidd, a oedd yn cynnwys trefniadau cyflenwi ychwanegol a chymorth agosach i'r tîm amlddisgyblaethol wrth wneud penderfyniadau. Er bod gwelliannau sylweddol wedi cael eu gwneud, mae angen i'r bwrdd iechyd wneud rhagor o waith er mwyn sicrhau bod trafodaethau'r tîm amlddisgyblaethol bob amser yn cael eu dogfennu'n ddi-oed mewn cofnodion clinigol.

Tynnodd ein hadolygiad sylw at bryderon ynglŷn â'r diwylliant gwaith rhwng rhai timau a oedd yn ymwneud â llwybrau gofal gwahanol wasanaethau fasgwlaidd y bwrdd iechyd, a all effeithio ar ofal cleifion. Roedd hyn yn amlwg drwy ein cyfweliadau â'r staff, a awgrymodd fod y prosesau cyfathrebu yn wael. Mae'n rhaid meithrin cydberthnasau gwaith cliriach, er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael eu hatgyfeirio'n ddi-oed, a bod cleifion yn cael eu hasesu gan y tîm mwyaf addas, er mwyn rhoi cyngor a gofal mwy amserol.

Gwelsom fod cynnydd boddhaol hefyd wedi cael ei wneud gan y bwrdd iechyd o ran y broses o gael cydsyniad yn y gwasanaethau fasgwlaidd. Gwelsom dystiolaeth o welliannau drwy ganlyniadau archwilio ar y broses gydsynio a thrwy ein hadolygiad o gofnodion clinigol. Fodd bynnag, mae angen gwneud rhagor o waith er mwyn sicrhau bod cofnodion bob amser yn dangos y broses gydsynio gyfan mewn ffordd gywir a phriodol.

Pan aethom ati i ystyried a oedd y trefniadau llywodraethu a oedd ar waith yn y bwrdd iechyd yn effeithiol o ran monitro'r ymateb i ganfyddiadau ac argymhellion Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yn 2022, gwelsom fod y rhain yn foddhaol.

Dywedodd Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Alun Jones:

Mae'n gadarnhaol clywed bod y gwasanaethau fasgwlaidd yn gwella mewn nifer o feysydd. Fodd bynnag, gwnaed 11 o argymhellion ar gyfer gwelliannau pellach yn ein hadolygiad er mwyn cryfhau'r trefniadau presennol sydd ar waith. Mae'n rhaid i'r bwrdd iechyd sicrhau bod mesurau ar waith i gael sicrwydd bod y gwelliannau a'r prosesau a gyflwynwyd ers adolygiad Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yn gynaliadwy yn awr ac yn y dyfodol. Mae'n rhaid i'r bwrdd iechyd ystyried ein hargymhellion, ac rydym yn disgwyl iddynt gael eu rhoi ar waith yng nghyd-destun gwaith gwella ehangach.