Neidio i'r prif gynnwy

Adolygydd Cymheiriaid Neonatolegydd Ymgynghorol - Manyleb Swydd

Mae Adolygwyr Cymheiriaid fel arfer yn ffurfio rhan o dîm amlddisgyblaethol ac mae eu gwybodaeth a’u harbenigedd yn sicrhau bod ein gwaith yn seiliedig ar arferion a phrofiad cyfredol. Mae'r gwaith hwn yn cael ei gwblhau naill ai'n bersonol neu o bell o bryd i'w gilydd.

Dyddiad Cau: 31 Rhagfyr

AGIC yw arolygiaeth a rheoleiddiwr annibynnol gofal iechyd yng Nghymru. Rydym yn arolygu gwasanaethau'r GIG ac yn rheoleiddio darpwrwyr gofal iechyd annibynnol yn erbyn amrywiaeth o safonau, polisiau, canllawiau a rheoliadau er mwyn nodi meysydd y mae angen eu gwella.

Manylion y swydd wag

SefydliadArolygiaeth Gofal Iechyd Cymru 
RôlAdolygydd Cymheiriaid Neonatolegydd Ymgynghorol
Cyflog£440 y dydd, a threuliau teithio a chynhaliaeth
Hyd Tair blynedd gyda'r posibilrwydd o estyniad

Diben y swydd

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn arolygu gwasanaethau'r GIG ac yn rheoleiddio darparwyr gofal iechyd annibynnol yn erbyn amrywiaeth o safonau, polisïau, canllawiau a rheoliadau er mwyn nodi meysydd y mae angen eu gwella.

Fel Adolygydd Cymheiriaid, byddwch yn cydweithio ag AGIC i gynnal arolygiadau mewn ysbytai acíwt ledled Cymru.

Bydd AGIC yn defnyddio eich gwybodaeth a'ch sgiliau i sicrhau bod ein gwaith yn seiliedig ar ymarfer a phrofiad cyfredol. Mae hyn yn ein helpu i amlygu ymarfer da ac i atgyfnerthu a rhannu safonau gofal iechyd o fewn y GIG a'r Sector Gofal Iechyd Annibynnol er mwyn rhoi sicrwydd i'r cyhoedd a gwella gwasanaethau i gleifion.

Tasgau allweddol

  • Cydweithio fel rhan o dîm arolygu, gyda chymorth ac arweiniad gan staff AGIC.
  • Teithio ledled Cymru i arolygu gwasanaethau gofal iechyd, gan gynnwys yr amgylchedd ffisegol, polisïau a gweithdrefnau, cyfarpar, ardystiadau, cofnodion cleifion a dogfennau perthnasol eraill. 
  • Cynnal cyfweliadau â staff a chleifion. 
  • Rheoli amser yn effeithiol, gan gynnwys paratoi ar gyfer ymweliadau arolygu drwy adolygu gwybodaeth cyn yr arolygiad ac adroddiadau blaenorol. 
  • Mynd i'r afael â materion sy'n peri pryder yn briodol drwy ymgynghori ag Arolygydd Gofal Iechyd AGIC. 
  • Gwneud arsylwadau ac argymhellion yn seiliedig ar farn glinigol a phroffesiynol, gan ystyried y rhesymeg glinigol, safbwyntiau cleifion, a chydymffurfiaeth â'r rheoliadau a'r safonau perthnasol. 
  • Cadw cofnodion cywir a chynhwysfawr o'ch canfyddiadau gan ddefnyddio adnoddau arolygu, a chyfrannu at gyfarfodydd adborth ar ddiwedd arolygiadau. 
  • Adolygu a rhoi sylwadau ar adroddiadau arolygu drafft cyn iddynt gael eu cyhoeddi i sicrhau cywirdeb. 
  • Cynnal ymweliadau arolygu dilynol byrrach â phwyslais penodol yn ôl yr angen. 
  • Cyfrannu at y broses o ddatblygu a diwygio dogfennaeth methodoleg arolygu pan fo angen. 
  • Dangos parch tuag at amrywiaeth a chynnal hawliau ac urddas y staff, y cleifion ac eraill. 
  • Mynychu hyfforddiant sefydlu ac unrhyw hyfforddiant y cred AGIC ei fod yn angenrheidiol. 
  • Gweithredu fel llysgennad ar ran AGIC drwy hyrwyddo gwaith yr Arolygiaeth a rhannu arferion gorau.

Meini Prawf Penodol i'r Swydd

Meini Prawf Hanfodol 

  • Cofrestriad cyfredol a dilys â'r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC).
  • Tystiolaeth gyfredol eich bod wedi cwblhau holl gyrsiau gorfodol y Cyngor Meddygol Cyffredinol a'ch bod yn cydymffurfio â nhw, gan gynnwys (ymhlith eraill): Atal a Rheoli Heintiau, Llywodraethu Gwybodaeth, Diogelu (ar y lefel briodol ar gyfer eich rôl) a Chodi a Chario. 
  • Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP).
  • Profiad a dealltwriaeth gadarn o lywodraethu clinigol, gan gynnwys gweithredu a monitro safonau clinigol a phroffesiynol yn effeithiol.
  • Profiad o brosesau rheoli risg, gan gynnwys rhoi gwybod am ddigwyddiadau ac ymdrin â chwynion. 
  • Sgiliau ysgrifennu adroddiadau cadarn.
  • Ymrwymiad amlwg i gydraddoldeb ac amrywiaeth.
  • Sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu a gwrando rhagorol.
  • Ymagwedd broffesiynol iawn sy’n canolbwyntio ar y claf, wedi'i hategu gan werthoedd gofal diogel, tosturiol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
  • Sgiliau arsylwi, asesu a dadansoddi cadarn. 
  • Y gallu i weithio'n effeithiol yn annibynnol ac fel rhan o dîm.
  • Yn gallu defnyddio amrywiaeth o systemau a dyfeisiau TG yn annibynnol. 

Meini Prawf Dymunol

  • Profiad o weithio gydag unigolion agored i niwed.
  • Cyfraniad blaenorol at brosesau arolygu, archwilio neu sicrhau ansawdd.
  • Gwybodaeth am amcanion a blaenoriaethau AGIC a dealltwriaeth ohonynt.

Cyfleoedd datblygu

Bydd Adolygwyr Cymheiriaid yn meithrin profiad gwerthfawr o brosesau arolygu ac adolygu, wrth iddynt wella eu sgiliau dadansoddi, drafftio, gweithio mewn tîm a chyfathrebu.

Mae gweithio gydag AGIC yn cynnig cyfle i Adolygwyr Cymheiriaid drosglwyddo'r arferion gorau i'w sefydliadau eu hunain.

Er mwyn cefnogi'r rôl hon, bydd Adolygwyr Cymheiriaid yn cael hyfforddiant sefydlu, diwrnodau hyfforddiant penodedig a sesiynau sgwrsio rheolaidd, a fydd oll yn cyfrannu at eu Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP).

Yr Iaith Gymraeg

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn cydnabod gwerth datblygu ac atgyfnerthu ei gweithlu dwyieithog. Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr a all ddangos eu bod yn gallu gweithio'n hyderus yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Bydd Adolygwyr Cymheiriaid yn destun gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). 

Gwybodaeth Ychwanegol

Patrwm Gwaith

 Bydd Adolygwyr Cymheiriaid yn cael eu cyflogi o dan drefniant fframwaith, sy'n caniatáu i wasanaethau gael eu darparu mewn ffordd hyblyg, gan gynnwys gweithio y tu allan i oriau. O dan y trefniant hwn, nid oes unrhyw rwymedigaeth ar AGIC i gynnig aseiniadau ac nid oes unrhyw rwymedigaeth ar Adolygwyr Cymheiriaid i'w derbyn. Caiff aseiniadau eu cynnig gan AGIC pan fydd angen y gwasanaethau hynny.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Gwasanaethau Corfforaethol (Pobl) AGIC yn AGIC.arolygu@llyw.cymru neu ffoniwch 0300 062 8163.

Sut i wneud cais

Cwblhewch y ffurflen gais sydd ar y wefan a'i chyflwyno drwy e-bost i AGIC.arolygu@llyw.cymru. 

Os oes angen y ffurflen gais arnoch mewn fformat neu iaith wahanol, cysylltwch â ni:

AGIC.arolygu@llyw.cymru

0300 062 8163

Dogfennau