Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiadau Allanol Annibynnol o Achosion o Ddynladdiad: Gwerthusiad o adolygiadau a gynhaliwyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ers 2007

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r themâu allweddol o’r 13 adolygiad allanol annibynnol o ddynladdiadau a gyflawnwyd gan unigolion a oedd yn hysbys i wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru a gyhoeddwyd gan AGIC ers 2007.

Diben y gwerthusiad oedd: 

  • Cynnal dadansoddiad manwl o’r canfyddiadau a’r argymhellion a nodwyd ym mhob adolygiad o ddynladdiad 
  • Nodi a oedd thema/themâu cyffredin yn yr argymhellion 
  • Asesu’r effaith y mae’r adroddiadau a’r argymhellion a gyflwynwyd ers 2007 wedi ei chael ar wasanaethau sy’n cael eu darparu i ddefnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl 
  • Nodi’r meincnod ar gyfer gwella ac enghreifftiau o arfer gorau ar sail genedlaethol, ac ystyried sut y gellid rhannu arfer gorau yn effeithiol 
  • Llunio argymhellion ar gyfer atgyfeiriad i’r fforwm priodol, pa un a yw’n un newydd neu bresennol 
  • Nodi meysydd ar gyfer gwella a dysgu i randdeiliaid fwrw ymlaen â nhw