Neidio i'r prif gynnwy

Abubakar Askira

Cyfarwyddwr Strategaeth ac Ymgysylltu

Abubakar Askira

Ymunodd Abubakar ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru o Gofal Cymdeithasol Cymru ym mis Mai 2022. Ffocws allweddol i rôl Abubakar yw gosod y cyfeiriad strategol ar gyfer y sefydliad, datblygu enw da a sicrhau bod gwaith AGIC mor amlwg â phosibl er mwyn cefnogi’r gwelliant ym maes gofal iechyd. Mae hefyd yn rhoi arweiniad ar y swyddogaethau canlynol – partneriaethau, deallusrwydd, methodoleg a chyfathrebu.

Mae gan Abubakar dros 15 mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes datblygu a rheoleiddio'r gweithlu gofal cymdeithasol. Mae ganddo gyfoeth o arbenigedd mewn cynllunio strategol, rheoli rhaglenni a sefydlu llywodraethu corfforaethol effeithiol. Mae Abubakar wedi bod mewn nifer o swyddi anweithredol gan gynnwys Cyfarwyddwr yn Anabledd Cymru ac Ymddiriedolwr elusen flaenllaw yn y Deyrnas Unedig sy’n gweithio i wella bywydau plant anabl yn Uganda, Kenya, Tanzania a Rwanda.