Neidio i'r prif gynnwy

Ydych chi angen cysylltu â darparwr gofal iechyd?

Os bydd angen i chi gysylltu â darparwr gofal iechyd, nodwch nad yw hyn yn rhan o'n cylch gwaith ni fel arolygiaeth a rheoleiddiwr gofal iechyd. Fodd bynnag, os byddwch am roi adborth ar wasanaeth gofal iechyd , rhowch wybod i ni am eich pryderon.

Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yw arolygiaeth a rheoleiddiwr annibynnol gofal iechyd yng Nghymru. Rydym yn arolygu gwasanaethau'r GIG ac yn rheoleiddio darparwyr gofal iechyd annibynnol yn erbyn amrywiaeth o safonau, polisïau, canllawiau a rheoliadau er mwyn nodi meysydd y mae angen eu gwella.

Yn ddiweddar, rydym wedi bod yn derbyn ymholiadau am apwyntiadau a chofnodion meddygol. Fodd bynnag, nid yw'r materion canlynol yn rhan o gwmpas a chylch gwaith AGIC, ac ni allwn gynnig cymorth na rhoi cyngor ar y meysydd hyn y tu hwnt i'r wybodaeth a restrir isod:

Er mwyn dod o hyd i Ddeintydd y GIG – cysylltwch â'r Llinellau Cymorth Deintyddol.

Er mwyn trefnu apwyntiad neu newid apwyntiad presennol gyda'ch darparwr gofal iechyd, neu i gael gafael ar eich cofnodion meddygol, cysylltwch â'ch darparwr gofal iechyd yn uniongyrchol. Er mwyn dod o hyd i'ch darparwr gofal iechyd presennol, neu i ddod o hyd i ddarparwr gofal iechyd newydd, gweler Gwasanaethau yn agos atoch chi.

Er mwyn cael gafael ar Gofnodion Meddygol Meddyg Teulu ar gyfer unigolyn nad yw wedi'i gofrestru â darparwr gofal iechyd ar hyn o bryd neu unigolyn sydd wedi marw, cysylltwch â Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.