Mae AGIC wedi gwneud 24 o argymhellion ar gyfer gwella yn ei hadolygiad arbennig o'r ffordd yr ymdriniodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (y Bwrdd Iechyd) â'r cyn-gyflogai Kris Wade (Mr W).
Rhwng 2011 a 2013, gwnaeth tri pherson a oedd yn cael gofal gan y gwasanaeth anableddau dysgu honiadau o gam-drin rhywiol yn erbyn Mr W.
Cafodd Mr W ei atal o'r gwaith yn 2012 ar ôl yr honiadau o gam-drin ond roedd yn gyflogai i'r bwrdd iechyd o hyd yn 2016 pan gafodd ei arestio a'i ddyfarnu'n euog o lofruddio ei gymydog, Christine James.
Gofynnodd Llywodraeth Cymru i AGIC gynnal adolygiad annibynnol o gamau gweithredu'r bwrdd iechyd ym mis Medi 2018.
Edrychodd yr adolygiad hwn ar arferion recriwtio a chyflogi staff, trefniadau rhoi gwybod am ddigwyddiadau, prosesau diogelu oedolion, trefniadau llywodraethu a diwylliant, asesiad o adolygiad bwrdd gwaith y Bwrdd Iechyd, a threfniadau comisiynu rhwng byrddau iechyd.
Nid edrychodd ar waith yr heddlu na Gwasanaeth Erlyn y Goron gan nad yw hyn yn rhan o gylch gwaith statudol AGIC.
Dywedodd y Prif Weithredwr, Dr Kate Chamberlain: "Mae meysydd dysgu yn yr adolygiad hwn sy'n berthnasol i'r GIG cyfan a disgwyliwn i bob bwrdd iechyd ystyried ein canfyddiadau a'n hargymhellion.
"Mae'r achos hwn yn tanlinellu pwysigrwydd prosesau diogelu a llywodraethu sy'n hanfodol er mwyn amddiffyn oedolion mewn perygl.
"Mae cadernid y prosesau hyn yn hollbwysig i'r hyder y gall cleifion a'u teuluoedd ei gael yn y system ddiogelu yn gyffredinol.
"Mae AGIC yn gobeithio y bydd cynnwys yr adolygiad hwn a'r gwersi i'w dysgu ohono yn ysgogi gwelliannau yn y meysydd hyn, yn ogystal â thynnu sylw at yr angen i gyflwyno canllawiau diogelu newydd mewn ffordd amserol."
Rydym wedi cyhoeddi'r adolygiad hwn yn llawn yn ogystal â fersiwn hawdd ei darllen.
Dogfennau
-
Y ffordd yr ymdriniodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg â chyflogaeth Mr W a’r honiadau a wnaed yn ei erbyn , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 360 KBCyhoeddedig:Maint y ffeil:360 KBOs oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch agic@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
-
Mae hwn yn Adolygiad Arbennig am: Yr hyn a wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (ABMU) pan oedd yn cyflogi Mr W A beth a wnaeth am y cwynion y gwnaeth pobl yn ei erbyn Mae hwn yn adroddiad hawdd ei ddarllen. , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MBCyhoeddedig:Maint y ffeil:2 MBOs oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch agic@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.