Neidio i'r prif gynnwy

Uwch-reolwr Tîm Clinigol – Iechyd Meddwl (SEO)

agic yw arolygiaeth a rheoleiddiwr annibynnol gofal iechyd yng nghymru. rydym yn arolygu gwasanaethau'r GIG ac yn rheoleiddio darparwyr gofal iechyd annibynnol yn erbyn amrywiaeth o safonau, polisiau, canllawiau a rheoliadau er mwyn nodi meysydd y mae angen eu gwella.

Manylion y swydd wag

SefydliadUwch-reolwr Tîm Clinigol – Iechyd Meddwl (SEO)
Lleoliad Cymru (Efallai y bydd angen teithio ledled Cymru)
Math o Gyflogaeth Rhan-amser (22.5 awr) Secondiad am 12 mis. Bydd y swydd yn destun gwiriad datgeliad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Amdanon niMae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ymrwymedig i sicrhau gwasanaethau gofal iechyd o'r safon uchaf bosibl ledled Cymru. Rydym yn ymroddedig i hyrwyddo cyfle cyfartal mewn cyflogaeth a meithrin gweithle amrywiol a chynhwysol.

Diben y swydd:

  • Gan fod yn atebol i'r Pennaeth Iechyd Meddwl – Cyngor Clinigol, ymgymryd â'r canlynol:
  • Cydgysylltu'r trefniadau ar gyfer recriwtio a chadw adolygwyr cymheiriaid
  • Llunio rhestr fer, sifftio a chynnal cyfweliadau
  • Prosesau cadw staff a chymorth mewn perthynas â chyfleoedd ailddilysu, Datblygiad Proffesiynol Parhaus a chyfleoedd hyfforddi parhaus
  • Rhoi cymorth parhaus i adolygwyr cymheiriaid pan fo angen.
  • Rôl weithredol mewn sesiynau hyfforddi ynghyd â chreu rhaglenni hyfforddi gyda'r Pennaeth Iechyd Meddwl – Cyngor Clinigol
  • Ymgymryd â rôl weithredol wrth lunio polisïau ac adolygu canllawiau 
  • Bod yn bresennol mewn cyfarfodydd Gwasanaeth sy'n Peri Pryder 
  • Cymryd rhan yn y rhaglen arolygu gyda rhanddeiliaid allweddol, e.e. – Arolygiaeth Carchardai Ei Fawrhydi ac Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (HMICFRS)
  • Gweithio'n agos gyda changhennau eraill o fewn AGIC er mwyn sicrhau bod gan brosiectau/meysydd gwaith gymorth a mewnbwn clinigol pan fo angen
  • Cyfrannu at yr adroddiad iechyd meddwl a'r ddeddf anableddau dysgu blynyddol, gan gynnwys monitro'r Ddeddf Iechyd Meddwl
  • Rhoi cymorth i'r holl swyddogaethau yn AGIC mewn perthynas â chyngor clinigol ar iechyd meddwl
  • Ymgymryd â rôl weithredol wrth reoli a rhoi cyngor clinigol i'r gwasanaeth Meddyg a Benodwyd i Roi Ail Farn 

Tasgau penodol i'r swydd

  1. Ar y cyd â'r Pennaeth Iechyd Meddwl – Cyngor Clinigol, cyfrannu at yr adroddiadau/mesurau rheoli ansawdd presennol yn fisol, yn chwarterol ac yn flynyddol. 
  2. Gweithio gyda'r holl swyddogaethau a changhennau i'w helpu i ymgorffori prosesau mesur a sicrhau ansawdd yn eu timau.
  3. Gweithio gyda'r holl swyddogaethau a changhennau i'w helpu i ymdrin ag unrhyw faterion lle mae angen cyngor clinigol ar iechyd meddwl ac anableddau dysgu. 
  4. Cefnogi cydberthnasau gwaith â rhanddeiliaid i sicrhau bod AGIC yn bresennol ym mhob maes perthnasol sy'n ymwneud ag iechyd meddwl ac anableddau dysgu. 
  5. Cefnogi a helpu staff i ddysgu a datblygu ym meysydd iechyd meddwl ac anableddau dysgu. 
  6. Llunio gwybodaeth a helpu i lunio'r adroddiad ar iechyd meddwl ac anableddau dysgu blynyddol. 
  7. Sicrhau bod AGIC yn cynnal ac yn rhoi prosesau a gweithdrefnau ar waith yn unol ag arferion gorau.
  8. Gweithio gyda'r Pennaeth Iechyd Meddwl – Cyngor Clinigol i gynnal cydberthnasau â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill mewn perthynas â materion yn ymwneud ag iechyd meddwl ac anableddau dysgu. 

Cymwyseddau Gofynnol

  • Sgiliau meddwl yn strategol a'r gallu i weld y darlun cyflawn.
  • Sgiliau arwain cryf gyda'r gallu i ymgysylltu â phobl a'u datblygu.
  • Gallu amlwg i sicrhau canlyniadau yn effeithiol.
  • Sgiliau cyfathrebu a sgiliau rhyngbersonol rhagorol.

Meini prawf penodol i'r swydd

  • Dealltwriaeth o arolygu a rheoleiddio gofal iechyd a gwybodaeth am y tirlun iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
  • Profiad o lunio adroddiadau
  • Cofrestriad proffesiynol â chorff cenedlaethol a phrofiad helaeth o weithio mewn amrywiaeth o leoliadau clinigol iechyd meddwl a/neu leoliadau anableddau dysgu.

Cyfleoedd Datblygu

Mae'r swydd yn cynnwys gweithio ochr yn ochr â'r Prif Weithredwr, y Dirprwy Gyfarwyddwyr a'r Pennaeth Iechyd Meddwl – Cyngor Clinigol. Bydd angen hyfforddiant ar gyfer rhai agweddau ar y rôl, a chaiff yr hyfforddiant hwnnw ei ddarparu.

Sut i Wneud Cais

Os ydych yn frwd dros wneud gwahaniaeth ym maes gofal iechyd ac yn bodloni'r meini prawf a amlinellir uchod, hoffem glywed gennych. Cyflwynwch eich datganiad o ddiddordeb dros e-bost at John.Powell@llyw.cymru (Pennaeth Iechyd Meddwl – Cyngor Clinigol) erbyn Dydd Llun 28 Medi 2026.