Adolygiad a gynhaliwyd ar y cyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru.
Yn 2013, cyhoeddodd ein sefydliadau adroddiad ar y cyd a oedd yn amlinellu pryderon niferus a sylweddol ynghylch trefniadau llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (y Bwrdd Iechyd).
Ers hynny, mae’r Bwrdd Iechyd wedi wynebu heriau parhaus o ran arweinyddiaeth a llywodraethu, ac o ran darparu gwasanaethau mewn meysydd penodol, yn enwedig iechyd meddwl. Arweiniodd hyn at benderfyniad y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i osod y Bwrdd Iechyd o dan fesurau arbennig ym mis Mehefin 2015. Roedd disgwyl i’r Bwrdd Iechyd barhau i fod o dan fesurau arbennig tan yr hydref 2017 o leiaf.
Ym mis Ionawr 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fframwaith gwella o dan fesurau arbennig ar gyfer y Bwrdd Iechyd sy’n nodi’r cerrig milltir gwella disgwyliedig. Trafodwyd y cynnydd a wnaed o ran y cerrig milltir hyn mewn cyfarfodydd rhwng Llywodraeth Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
Ar wahân i fonitro’r cynnydd a wnaed o ran y cerrig milltir gwella o dan y mesurau arbennig, mae Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi parhau i ymrwymo i adrodd yn ffurfiol o bryd i’w gilydd ar y camau a gymerwyd gan y Bwrdd Iechyd i fynd i’r afael â’r pryderon llywodraethu a bennwyd yn 2013. Mae’r adroddiad hwn yn rhan o’r ymrwymiad hwnnw.
Dogfennau
-
Trosolwg o’r Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Crynodeb o’r cynnydd Mehefin 2017 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 375 KBCyhoeddedig:Maint y ffeil:375 KBOs oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch agic@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.