Staff Adran Achosion Brys Ysbyty Bronglais Yn Cael Eu Canmol Am Ofal Tosturiol Er Gwaethaf y Pwysau Gweithredol Sylweddol
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi ei hadroddiad arolygu yn dilyn ymweliad dirybudd â'r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Bronglais, a reolir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Gwnaeth yr arolygiad dirybudd, a gynhaliwyd dros dri diwrnod ym mis Gorffennaf, ganmol ymroddiad a phroffesiynoldeb y staff a oedd yn gweithio dan bwysau sylweddol, a nodwyd bod cleifion yn cael eu trin ag urddas a pharch yn gyson. Er gwaethaf yr heriau parhaus o ran llif cleifion a'r ffaith bod cleifion yn cael eu trin mewn ardaloedd anghlinigol, roedd y staff yn gweithredu mewn ffordd dosturiol ac yn dangos enghreifftiau o waith tîm cryf ym mhob rhan o'r adran.
Nododd arolygwyr sawl maes yr oedd angen ei wella er mwyn amddiffyn diogelwch cleifion a chynnal ansawdd y gofal a ddarperir. Roedd y rhain yn cynnwys pryderon ynghylch y prosesau ar gyfer rheoli a storio meddyginiaethau a gwiriadau anghyflawn o'r cyfarpar adfywio brys. Roedd heriau o ran llif cleifion yn thema gyson, gydag oedi wrth frysbennu, ardaloedd gorlawn, a darpariaeth bediatrig annigonol yn cyfrannu at y pwysau gweithredol. Roedd y canfyddiadau ychwanegol yn cynnwys asesiadau risg anghyflawn, a chydymffurfiaeth wael â safonau hylendid dwylo.
Roedd cleifion yn aml yn cael gofal mewn ardaloedd anghlinigol fel coridorau, yn sgil achosion o oedi cyn rhyddhau cleifion o rannau eraill o'r ysbyty, a oedd yn effeithio ar breifatrwydd ac urddas. Mae AGIC wedi argymell y dylai'r bwrdd iechyd barhau i ymdrechu i wella llif cleifion ac i leihau'r ddibyniaeth ar ardaloedd anghlinigol. Er bod staff hyfforddedig yn goruchwylio'r ardal aros yn effeithiol, nid oedd staff y dderbynfa wedi cwblhau hyfforddiant ‘baner goch’ er mwyn nodi cyflyrau lle mae amser yn hollbwysig, ac roedd oedi o ran ymatebion gan dimau arbenigol hefyd yn effeithio ar ofal cleifion.
Cododd yr arolygiad bryderon am ddiogelwch y cyfarpar brys a'i gyflwr. Nid oedd y gwiriadau a gynhelir ar y troli pediatrig a'r troli llwybr anadlu anodd yn cael eu cofnodi'n gyson; nid oedd arwyddion diogelwch priodol i'w gweld yn yr ardal storio ocsigen, ac roedd y cofnodion tymheredd ar gyfer yr oergelloedd meddyginiaeth yn anghyflawn. Ymdriniwyd â'r materion hyn drwy broses sicrwydd ar unwaith AGIC, ac mae'r bwrdd iechyd wedi ymrwymo i barhau i fonitro'r sefyllfa ac i wneud gwelliannau.
Nododd yr arolygwyr hefyd nad oedd bob amser ddigon o nyrsys a oedd wedi cwblhau hyfforddiant pediatrig yn yr ardal bediatrig, a bod yr ardal yn cael ei defnyddio ar gyfer cleifion a oedd yn oedolion. Roedd lefelau cydymffurfiaeth â safonau hylendid dwylo yn isel, ac nid oedd unrhyw ddarpariaeth ddynodedig ar gael ar gyfer cleifion canser neu'r rhai sy'n wynebu risg uwch o haint. Nododd arolygwyr asesiadau cleifion anghyflawn ac anghysondebau yng nghofnodion rhai o'r cleifion, ac argymhellwyd y dylai'r bwrdd iechyd wella'r arferion dogfennu ac ystyried rhoi system cofnodion electronig ar waith ar gyfer y gwasanaeth cyfan.
Roedd y lefelau staffio yn yr adran yn dderbyniol ar y cyfan, ac nid oedd fawr ddim dibyniaeth ar staff asiantaeth. Fodd bynnag, nid oedd Metron yn gweithio yn yr Adran Achosion Brys ar adeg yr arolygiad. Uwch-nyrs yw Metron yn yr Adran Achosion Brys sy'n goruchwylio'r ffordd y caiff yr adran achosion brys ei rhedeg o ddydd i ddydd, yn cefnogi staff, ac yn sicrhau bod y safonau gofal yn cael eu cynnal. Nid oedd digon o feddygon ymgynghorol ar gael chwaith, yn enwedig dros nos ac ar benwythnosau. Mae AGIC wedi annog y bwrdd iechyd i fynd ati i recriwtio ac i sicrhau bod trefniadau cyflenwi diogel ac effeithiol ar waith. Dywedodd y staff eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi'n dda gan reolwyr yr adran, ond dywedwyd bod y cymorth gan uwch-reolwyr a'r Gwasanaeth Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau yn anghyson.
Er gwaethaf yr heriau hyn, nodwyd bod diwylliant yr adran yn gadarnhaol ac yn gynhwysol. Roedd y staff yn cydweithio'n dda â'i gilydd ac yn ymrwymedig i ddarparu gofal o ansawdd uchel. Roedd systemau ar waith i reoli cwynion ac i ddysgu gwersi o ddigwyddiadau, ac roedd cleifion yn cael cyfleoedd i roi adborth.
Mae'r bwrdd iechyd wedi llunio cynllun gwella cynhwysfawr sy'n cynnwys camau gweithredu manwl o ran sut y caiff gwelliannau eu gwneud yn yr adran achosion brys.
Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:
Mae'n amlwg bod staff Adran Achosion Brys Ysbyty Bronglais yn ymrwymedig i ddarparu gofal diogel a thosturiol er gwaethaf yr amgylchiadau anodd iawn. Tynnodd ein harolygiad sylw at feysydd o ymarfer da ond nododd faterion sylweddol o ran llif cleifion hefyd – heriau sydd i'w gweld mewn nifer o Adrannau Achosion Brys yng Nghymru. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda er mwyn sicrhau y gwneir gwelliannau a chynnydd yn erbyn ein canfyddiadau.
Gorffennaf 2025 - Arolygiad Ysbyty – Adran Achosion Brys – Ysbyty Bronglais, Aberystwyth