Neidio i'r prif gynnwy

Rydym wedi cyhoeddi ein Hadroddiad Blynyddol ar Fonitro Iechyd Meddwl ar gyfer 2021-2022

Mae'r adroddiad yn nodi ein gweithgareddau sicrwydd a'n canfyddiadau yn ystod y cyfnod o fis Ebrill 2021 i fis Mawrth 2022, ac mae'n ystyried y safonau gofal a ddarparwyd gan y gwasanaethau gofal iechyd meddwl ac anableddau dysgu ledled Cymru yn ystod yr amser hwn.

Monitro Iechyd Meddwl, Ysbytai Anableddau Dysgu a’r Ddeddf Iechyd Meddwl Adroddiad Blynyddol 2021-2022

Ein prif rôl yw gweld a yw cleifion iechyd meddwl yn cael gofal diogel ac effeithiol. Ymhlith y meysydd y gwnaethom eu harolygu roedd:

  • Ystyried a oedd cynlluniau gofal a thriniaeth yn effeithiol
  • Ystyried a oedd lefelau arsylwi cleifion yn briodol
  • Gwirio i weld a oedd arferion ‘Lleiaf cyfyngol’ ar waith lle y bo'n bosibl.

Yn ystod y cyfnod adrodd, gwnaethom arolygu'r canlynol:

  • 26 o arolygiadau ac adolygiadau â ffocws penodol ar y safle:
    • 12 o leoliadau'r GIG
    • 14 o leoliadau gofal iechyd annibynnol
  • 12 o wiriadau ansawdd:
    • 10 o leoliadau'r GIG
    • 2 ddarparwr gofal iechyd annibynnol

Yn ystod y cyfnod adrodd rhwng 2021 a 2022, cawsom 738 o hysbysiadau am ddigwyddiadau yn ymwneud â diogelwch cleifion a ddigwyddodd mewn lleoliadau gofal iechyd iechyd meddwl ac anableddau dysgu annibynnol. Roedd y nifer hwn yn sylweddol uwch na nifer yr hysbysiadau a gafwyd yn 2020-21.

Cawsom hefyd 759 o geisiadau am ymweliad gan Feddyg a Benodwyd i Roi Ail Farn (SOAD). Mae hyn yn gynnydd bach o gymharu â nifer y ceisiadau a gafwyd rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2021 ond, yn gyffredinol, mae'n gyson â'r ffigurau ar gyfer blynyddoedd blaenorol. 

Er bod ein gwaith wedi ein galluogi i arsylwi ar rai enghreifftiau o arferion da mewn agweddau gwahanol ar ddarparu gwasanaethau, roedd angen gwelliant sylweddol yn aml ac roedd cryn dipyn o amrywiaeth o ran ansawdd y gofal a ddarparwyd.

Ysbytai Iechyd Meddwl, Ysbytai Anableddau Dysgu a Monitro y Ddeddf Iechyd Meddwl Adroddiad Blynyddol 2021-2022