Neidio i'r prif gynnwy

Rydym wedi cyhoeddi ein hadolygiad ar y cyd o drefniadau amddiffyn plant (JICPA) ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Cynhaliwyd yr arolygiad ar y cyd ym mis Mehefin 2023.

Logo o Arolygiaeth gofal Iechyd Cymru estyn HMICFRS a Arolygiaeth gofal cymru

Ar y cyd ag Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub ei Fawrhydi, Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac Estyn, gwnaethom gynnal adolygiad ar y cyd o'r ymateb amlasiantaethol i gamdriniaeth ac esgeulustod ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Mae'r adroddiad hwn yn amlinellu ein canfyddiadau am effeithiolrwydd trefniadau gweithio mewn partneriaeth a gwaith asiantaethau unigol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Yn yr un modd â llawer o ardaloedd ledled Cymru, gwelsom fod y gallu i recriwtio a chadw aelodau allweddol o staff yn effeithio ar drefniadau diogelu plant. Mae lefelau uchel o alw a chymhlethdod cynyddol anghenion plant a theuluoedd yn ychwanegu at hyn. Mae sefyllfa'r gweithlu gwasanaethau cymdeithasol dal yn fregus. Mae prinder gweithwyr cymdeithasol a marchnad gystadleuol wedi arwain at fwy o ddibyniaeth ar weithwyr cymdeithasol asiantaeth. Mae asiantaethau partner, fel yr heddlu a'r gwasanaethau iechyd, wedi nodi problemau yn ymwneud â darparu adnoddau i gynyddu gweithgarwch amddiffyn plant.

Er gwaethaf y problemau hyn yn ymwneud â'r gweithlu, gwelsom fod gwelliannau wedi'u gwneud ym Mhen-y-bont ar Ogwr ers arolygiad llawn blaenorol Arolygiaeth Gofal Cymru ym mis Mai 2022 a'r hymweliad dilynol ym mis Tachwedd 2022.

Mae ymarfer cadarnhaol yn cynnwys:

  • Gweithwyr proffesiynol yn nodi plant y mae angen eu helpu a'u hamddiffyn ac yn rhoi gwybod yn briodol am eu pryderon gan alluogi penderfyniadau cywir i gael eu gwneud ar gam cynnar.
  • Caiff risgiau gwirioneddol a risgiau posibl eu nodi'n dda a chaiff camau gweithredu cymesur eu cymryd i amddiffyn plant.
  • Mae enghreifftiau o'r awdurdod lleol a phartneriaid yn ymateb yn brydlon ac yn effeithiol i ddiwallu anghenion plant, yn enwedig pan nodir bod angen a risg acíwt.
  • Mae ysgolion ledled Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio'n dda gydag amrywiaeth eang o wasanaethau i gefnogi plant a theuluoedd.
  • Ceir presenoldeb a chyfranogiad amlasiantaeth da mewn cyfarfodydd amddiffyn plant a drefnir o dan Weithdrefnau Diogelu Cymru.

Yn gyffredinol, mae systemau a chydberthnasau ar waith i hwyluso gwaith partneriaeth effeithiol os yw plentyn yn wynebu risg o gael ei gam-drin a'i esgeuluso. Fodd bynnag, mae rhai agweddau ar amddiffyn plant sy'n anghyson ac y mae angen rhoi sylw iddynt. Yn eu plith mae'r canlynol:

  • Mae heriau wrth rannu gwybodaeth rhwng asiantaethau yn yr Hwb Diogelu Amlasiantaeth.
  • Caiff camau eu cymryd ar unwaith i hyrwyddo diogelwch plant ond gall fod bylchau yn dilyn ymchwiliad cychwynnol. O ganlyniad, mae'n bosibl bod cyfle yn cael ei golli i rannu gwybodaeth hanfodol ac i drafod canlyniad yr ymchwiliad gyda phob asiantaeth berthnasol.
  • Ceir gormod o amrywiaeth o ran ansawdd y cynlluniau amddiffyn gofal a chymorth.
  • Mae bylchau yn y trefniadau cofnodi a goruchwylio y mae angen ymdrin â nhw drwy brosesau goruchwylio gan y rheolwyr a thrwy roi ffocws ar ansawdd yr ymarfer.

I weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion, darllenwch yr adroddiad llawn isod.

Adolygiad ar y Cyd gan Arolygiaethau o Drefniadau Amddiffyn Plant (JICPA): Pen-y-bont ar Ogwr 2023

Adolygiad ar y Cyd gan Arolygiaethau o Drefniadau Amddiffyn Plant (JICPA): Pen-y-bont ar Ogwr 2023 - Fersiwn sy'n addas i blant