Neidio i'r prif gynnwy

Rheolau Cyfryngau Cymdeithasol

Eiconau - chwyddo gwydr, targed, gweithio gyda'i gilydd, ysgwyd dwylo, pobl, cogiau troi

Mae ein sianeli Cyfryngau Cymdeithasol yn cynnig ffordd i chi gysylltu â ni ar amrywiaeth eang o bynciau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae'r pynciau hyn yn cynnwys ein diweddariadau a'n newyddion diweddaraf, a sut y gallwch gymryd rhan yn ein gwaith.

Mae'n bwysig bod ein sianeli ar-lein yn ddiogel, a bod ein dilynwyr a'n cyfranogwyr yn teimlo eu bod yn cael eu parchu. Rydym wedi llunio polisi cymedroli er mwyn sicrhau bod pawb yn gyfforddus yn rhannu eu barn a'u safbwyntiau ar y sianeli hyn.

Mae diogelwch a llesiant ein cymunedau ar-lein yn bwysig iawn i ni, ac felly, gofynnwn i chi ddilyn y canlynol:

  • Peidiwch â defnyddio iaith sarhaus nac anweddus a allai fod yn wahaniaethol neu hyrwyddo gwahaniaethu o unrhyw fath
  • Peidiwch â chymell, esgusodi nac annog ymddygiad a allai arwain at drosedd, atebolrwydd sifil, neu dorri unrhyw ddeddfau fel arall
  • Peidiwch â rhannu unrhyw beth y gellid ei ystyried yn ddifenwol, yn chwithig neu'n niweidiol i unigolyn neu gwmni
  • Peidiwch â chrwydro oddi ar y pwnc ac osgowch rannu unrhyw sylwadau amherthnasol
  • Peidiwch â rhannu unrhyw wybodaeth gyfrinachol na phersonol. Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom, byddwn yn gofyn i chi gysylltu â ni drwy e-bost, dros y ffôn neu'n ysgrifenedig
  • Peidiwch â thargedu staff Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru nac aelodau'r gymuned, aflonyddu arnynt na'u bygwth
  • Peidiwch â dynwared rhywun arall neu'n honni eu bod yn cynrychioli person neu sefydliad.

Mae'r mathau canlynol o ymholiadau a sylwadau yn mynd yn groes i'n rheolau cyffredinol ac ni fyddwn yn ymateb iddynt ar unrhyw un o'n sianelau cyfryngau cymdeithasol:

  • Cwestiynau na ellir eu hateb drwy ddarparu gwybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd (tynnir y cwestiynau hyn, gan gynnwys ceisiadau rhyddid gwybodaeth posibl, oddi ar y we a chânt eu hailgyfeirio lle y bo'n briodol)
  • Sylwadau am rinwedd, diffyg neu debygolrwydd unrhyw bolisi
  • Sylwadau personol wedi'u cyfeirio at Weinidogion neu staff
  • Sylwadau ymosodol neu sylwadau sy'n hiliol, yn rhywiaethol, yn homoffobig neu sy'n amlwg yn rhywiol, neu sylwadau neu gwestiynau rhethregol annerbyniol eraill, neu rai a gynhyrchwyd yn awtomatig

Caiff postiadau o'r natur uchod eu dileu oddi ar ein tudalenau.

Byddwch yn ymwybodol efallai nad y cymunedau ar-lein hyn yw'r ffordd orau i ni ateb rhai cwestiynau rydych yn eu codi, ac mae'n bosibl y byddwn yn gofyn i chi ddefnyddio ffyrdd amgen o gyfathrebu â ni. Weithiau, ni fyddwn yn gallu ateb rhai cwestiynau oherwydd cyfyngiadau cyfreithiol.

Nid ydym yn ymchwilio i bryderon unigol am y gofal a gawsoch, ond rydym yn croesawu gwybodaeth am eich profiadau a fydd yn bwydo i mewn i'n proses o gasglu gwybodaeth. E-bostiwch: hiw@llyw.cymru  

Rydym am i'n safleoedd ar-lein fod yn gymunedau cadarnhaol. Rydym yn annibynnol ac yn wrthrychol, ac ni fyddwn yn dileu sylwadau yn ddiangen. Serch hynny, byddwn yn cuddio neu'n dileu eich postiadau os ydynt yn groes i'n rheolau. Gall achosion o dorri'r rheolau'n barhaus ein harwain i wneud penderfyniad i'ch rhwystro rhag defnyddio ein tudalen.

Rheoli ein cyfrifon Cyfryngau Cymdeithasol

  • Caiff ein tudalennau eu rheoli gan staff rhwng 9am a 4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau cyhoeddus a diwrnodau braint y gwasanaeth sifil). Er ein bod yn rhannu deunydd y tu allan i'r oriau hyn o bosibl, ni allwn ymateb i bostiadau nac ymholiadau y tu allan i'r oriau hyn
  • Bydd ein tîm Gweinyddu Cyfryngau Cymdeithasol yn edrych ar bob postiad Facebook cyn iddo gael ei gyhoeddi er mwyn sicrhau ei fod yn dilyn y rheolau uchod.  Mae hyn yn golygu y bydd oedi cyn postio sylw cyn i'r sylw cyhoeddedig ymddangos ar ein tudalennau
  • Ein nod yw ymateb i bob postiad o fewn 48 awr, ac o fewn oriau swyddfa yn unig. Er enghraifft, os byddwch yn postio sylw ar ddydd Gwener neu ddydd Sadwrn, ein nod yw ymateb erbyn dydd Mawrth
  • Mae'n bosibl na fydd llwyfannau cyfryngau cymdeithasol ar gael o bryd i'w gilydd ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ddiffyg gwasanaeth yn ystod cyfnodau anweithredol neu pan fydd problemau gyda'r rhyngrwyd. Rydym yn cadw'r hawl i ddileu ein cyfrifon ar unrhyw adeg.

Os bydd gennych unrhyw bryderon neu ymholiadau, e-bostiwch: hiw@llyw.cymru