Neidio i'r prif gynnwy

Pwysau sylweddol ar Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Tywysog Philip yn effeithio ar y gallu i ddarparu gofal diogel

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (28 Medi 2023) yn tynnu sylw at yr heriau a wynebir gan staff yn yr Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli.

Ysbyty Tywysog Philip Uned Mân Anafiadau

Cwblhaodd AGIC arolygiad dirybudd o'r uned ar dri diwrnod dilynol ym mis Mehefin 2023. Yn ystod yr arolygiad ar y safle, nododd arolygwyr AGIC fod y pwysau a'r heriau yn yr adran a'r ysbyty yn fwy cyffredinol yn arwain at risg uwch i gleifion.

Daeth yr arolygiad i'r casgliad fod y staff yn gweithio'n galed iawn i roi gofal o ansawdd da i gleifion, ond eu bod o dan gryn bwysau. Ar adegau, roedd cleifion iechyd meddwl, cleifion meddygol a chleifion llawfeddygol yn cael gofal am gyfnodau estynedig mewn uned na chafodd ei chynllunio i drin unigolion risg uchel. O ganlyniad, nodwyd sawl maes i'w gwella, yr oedd angen i'r bwrdd iechyd gymryd camau mewn perthynas â rhai ohonynt.

Rhoddwyd sicrwydd i'r arolygwyr bod cleifion a oedd yn dod i'r uned â mân anafiadau yn cael lefel dda o ofal diogel ac effeithiol gan weithlu medrus. Fodd bynnag, nid oedd yr arolygwyr o'r farn bod yr amgylchedd yn briodol ar gyfer cleifion iechyd meddwl, cleifion meddygol a chleifion llawfeddygol sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty am gyfnodau hwy na'r cyfnodau sy'n gysylltiedig ag Uned Mân Anafiadau nodweddiadol. Ni chawsom sicrwydd fod cleifion yr oedd angen iddynt aros am gyfnod hwy ar yr uned, a hynny ar welyau dros dro, yn cael gofal amserol, effeithiol a chyson. Nododd yr arolygwyr nad oedd cyfleusterau hylendid digonol ar gael i'r cleifion hyn, a oedd yn cael effaith negyddol ar eu hurddas. Nid oedd yr arolygwyr o'r farn bod yr amgylchedd yn briodol ar gyfer cleifion iechyd meddwl, cleifion meddygol a chleifion llawfeddygol sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty am gyfnodau hwy na'r cyfnodau sy'n gysylltiedig ag Uned Mân Anafiadau nodweddiadol. O ganlyniad, nid oedd yr Uned Mân Anafiadau ar y cyfan yn gweithredu'n ddiogel ac yn effeithiol.

Yn ogystal, ni allem fod yn sicr bod Ymarferwyr Nyrsio Brys yn cael cymorth digonol a chadarn ar adegau lle ceir prinder annisgwyl o ran staff meddygol yn yr uned. Mae rhai o'r gwelliannau a nodwyd yn mynd y tu hwnt i reolaeth yr uned a'r bwrdd iechyd. Mae hyn yn gofyn am drafodaethau lefel uchel â phartneriaid er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael gofal amserol, yn yr amgylchedd clinigol cywir ar gyfer eu hanghenion.  O ganlyniad, mae'r amserlen ar gyfer cwblhau rhai o'r camau gweithredu a nodir yn y cynllun gwella ar unwaith yn hwy na'r amserlen a fyddai i'w disgwyl fel arfer.

Pan holwyd y cleifion a'r gofalwyr, gwnaethant ddweud eu bod yn fodlon ar y gwasanaeth roeddent wedi'i gael ar y cyfan, a gwelodd yr arolygwyr enghreifftiau o'r staff yn trin cleifion â charedigrwydd a pharch. Nodwyd bod cleifion a oedd yn cyrraedd yr uned â mân anafiadau yn cael sylw a thriniaeth amserol. Roedd y gwaith o asesu a chynllunio gofal mewn perthynas â mân anafiadau yn cael ei gwblhau i safon dda, ac ar ôl iddynt gael eu gweld a'u trin, roedd y cleifion yn cael cyngor clir o ran sut i reoli eu cyflwr a beth i'w wneud pe bai ganddynt bryderon pellach. Roedd y staff  yn wybodus ac yn gallu disgrifio agweddau ar atal a rheoli heintiau mewn perthynas â'u rolau a'u cyfrifoldebau. Nododd yr arolygwyr enghreifftiau da o nyrsio a threfniadau rheoli meddygol yn yr uned, ac roedd y staff yn gadarnhaol wrth sôn am y cymorth y maent yn ei roi i'w gilydd yn yr uned.

Mynegodd y staff anfodlonrwydd sylweddol mewn sawl maes gan gynnwys diffyg undod rhwng y staff gyda rhai ohonynt yn cyflawni sawl rôl, ac o ganlyniad, yn cael llai o amser i'w neilltuo i'w rôl ddynodedig. Cyfeiriodd y staff hefyd at ddiffyg ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd am y gwasanaethau sydd ar gael yn yr Uned Mân Anafiadau, cymysgedd sgiliau gwael ymhlith y staff a lefelau ymgysylltu isel gan yr uwch-reolwyr a'r arweinwyr wrth fynd i'r afael â phryderon. Rhaid i'r bwrdd iechyd sicrhau bod camau gweithredu cadarn a pharhaus yn cael eu cymryd mewn ymateb i hyn.

Mae'r bwrdd iechyd wedi llunio cynllun cynhwysfawr sy'n cynnwys camau gweithredu manwl o ran sut y caiff gwelliannau eu gwneud yn yr adran achosion brys.

Dywedodd Prif Weithredwr AGIC, Alun Jones:

Mae'r pwysau ar wasanaethau'r GIG yn eithriadol o uchel o hyd, a gwelsom dystiolaeth o wasanaeth sy'n ei chael hi'n anodd ateb y galw a sicrhau diogelwch cleifion o fewn yr adnoddau sydd ar gael. Rwy'n cydnabod gwaith caled ac ymroddiad y staff yn y gwasanaeth hwn ac mae ein hadroddiad yn rhoi cyfle i dynnu sylw at yr heriau y mae cleifion a staff yn y gwasanaeth hwn yn eu hwynebu bob dydd. Bydd yr argymhellion penodol gennym, sy'n nodi camau gweithredu i'w cymryd, yn helpu'r bwrdd iechyd i leihau risgiau i gleifion a staff tra bydd yn parhau i wynebu'r cyfnod heriol hwn. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda er mwyn sicrhau y gwneir cynnydd yn erbyn ein canfyddiadau.