Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol i'r safle weithio. Defnyddir cwcis nad ydynt yn hanfodol hefyd i deilwra a gwella gwasanaethau. Trwy barhau i ddefnyddio'r safle, rydych yn cytuno ein bod ni'n defnyddio cwcis.
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (28 Medi 2023) yn tynnu sylw at yr heriau a wynebir gan staff yn yr Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli.
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (22 Medi 2023) yn dilyn arolygiad dirybudd o uned iechyd meddwl arbenigol yn Ysbyty Gwynedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Roedd yr arolygiad yn canolbwyntio ar dair ward a chafodd ei gynnal dros dri diwrnod dilynol ym mis Mai 2023.
Heddiw, cyhoeddwyd adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn nodi canfyddiadau adolygiad o lif cleifion yng Nghymru. Llif cleifion yw'r broses o symud cleifion drwy system gofal iechyd, o'u derbyn i'r ysbyty i'w rhyddhau. Gwnaeth AGIC ystyried taith cleifion drwy'r llwybr strôc. Diben hyn oedd deall yr hyn sy'n cael ei wneud i liniaru unrhyw niwed i'r rhai sy'n aros am ofal, a hefyd i ddeall sut y cynhelir ansawdd a diogelwch gofal ar bob cam o'r llwybr strôc.
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (24 Awst) yn dilyn arolygiad dirybudd o ward iechyd meddwl arbenigol yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot. Cynhaliwyd yr arolygiad dros dri diwrnod dilynol ym mis Mai 2023, gan ganolbwyntio ar ddarparu gofal diogel ac effeithiol ar ‘Ward F’, sef ward asesu a thrin i gleifion mewnol ar gyfer oedolion â phroblemau iechyd meddwl acíwt.
Mae Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad ar y cyd sy'n disgrifio'r cynnydd a wnaed gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wrth atgyfnerthu ei drefniadau llywodraethu ansawdd yn dilyn ein gwaith adolygu ar y cyd gwreiddiol yn 2019.
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi dod ynghyd i gyhoeddi Datganiad o Fwriad Strategol ar y cyd sy'n canolbwyntio ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Y datganiad hwn yw’r cam cyntaf tuag at strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar y cyd a gaiff ei lansio ym mis Tachwedd 2023.
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (10 Awst) yn dilyn arolygiad dirybudd o Ysbyty Hillview yng Nglynebwy, a oedd yn darparu cymorth iechyd meddwl arbenigol i'r glasoed. Mae'r ysbyty yn cael ei reoli gan Elysium Healthcare, sy'n masnachu fel Regis Healthcare, ac yn rhan o strwythur sefydliadol y sefydliad hwnnw.
Mae eich gwybodaeth yn ein helpu i benderfynu pryd i arolygu, lle i arolygu a beth i'w arolygu. Gadewch i ni wella gofal iechyd gyda'n gilydd. Rhoi adborth