Neidio i'r prif gynnwy

Mamau beichiog a newydd yn canmol uned famolaeth Ysbyty Athrofaol y Faenor yng Nghwmbrân.

Heddiw, cyhoeddwyd adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn dilyn arolygiad o uned famolaeth Ysbyty Athrofaol y Faenor yng Nghwmbrân.

Ysbyty Athrofaol Y Feanor Gwasanaethau Mamolaeth

Cwblhaodd AGIC arolygiad dirybudd o wasanaethau mamolaeth yr ysbyty ar dri diwrnod dilynol ym mis Mehefin. Yn ystod yr arolygiad, gwelodd HIW fod y gwasanaeth a oedd yn cael ei ddarparu yn un diogel ac effeithiol. Er hyn, nododd yr arolygwyr rai materion yr oedd angen sicrwydd ar unwaith mewn perthynas â gwirio cyfarpar critigol yn ddyddiol, diogelwch cofnodion cleifion a glendid rhai ardaloedd. Roedd yn amlwg bod staff ar bob lefel yn gweithio'n dda fel tîm ac yn rhoi profiad cadarnhaol i'r cleifion er gwaetha'r problemau o ran adnoddau.

Arolygwyd sawl rhan o'r gwasanaeth gennym gan gynnwys y wardiau  cynenedigol, esgor, ôl-enedigol ac ôl-lawdriniaeth, yn ogystal â'r uned eni a arweinir gan fydwragedd. Gwelodd yr arolygwyr y staff yn darparu gofal parchus a charedig i'r menywod a'u teuluoedd. Pan ofynnwyd iddynt, dywedodd bron pob un o'r cleifion wrth ein harolygwyr eu bod wedi cael profiad cadarnhaol. Roedd estheteg y wardiau o lefel uchel gan gynnig ystafelloedd ensuite unigol gyda digon o olau a lle a chyfleusterau modern. Roedd gwybodaeth am feichiogrwydd yn hygyrch ac ar gael mewn amrywiaeth o ieithoedd gwahanol, ac roedd cynrychiolaeth i gleifion i'w gael ar grŵp a ddefnyddiwyd i ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau mamolaeth.

Nododd yr arolygwyr faterion mewn perthynas â gwiriadau cyfarpar ac atal a rheoli heintiau, yr oedd angen i'r bwrdd iechyd weithredu arnynt ar unwaith. Roedd hyn yn cynnwys rhai o'r dodrefn, y gosodiadau a'r ffitiadau mewn dwy ystafell ar gyfer rhoi gofal a thriniaeth, a oedd yn amlwg yn fudr. Nid oedd y gwiriadau dyddiol o'r cyfarpar dadebru hanfodol bob amser yn cael eu cofnodi. Nid oedd llofnod ar gael bob amser i ddangos bod y gwiriadau rheolaidd o dymheredd oergelloedd meddyginiaeth wedi cael eu cynnal. Dangosodd ein gwaith sicrwydd, nad oedd y trefniadau rheoli a diogelwch yn ddigonol ar gyfer rhywfaint o'r wybodaeth gyfrinachol am gleifion. Rhaid i'r bwrdd iechyd sicrhau y caiff polisïau a gweithdrefnau eu hadolygu ar unwaith i gywiro'r sefyllfa.

Gallai'r gwasanaeth wella hefyd drwy gynyddu argaeledd pyllau geni o fewn yr uned a chapasiti gwelyau ôl-enedigol i wella taith y claf o fewn yr ysbyty. Nododd yr arolygwyr hefyd y dylai'r bwrdd iechyd adolygu ei weithdrefnau ymweld a chyfleu'r amseroedd i'r teuluoedd yn fwy effeithiol.

Roedd strwythur rheoli addas ar waith gyda llinellau adrodd ac atebolrwydd clir. Ar y cyfan, roedd ymatebion y staff yn gadarnhaol mewn perthynas â'r tîm rheoli, gwaith tîm a'r camau a gymerir gan y sefydliad mewn perthynas â'u hiechyd a llesiant. Fodd bynnag, roedd ymatebion yr arolwg yn dangos bod angen gwneud gwelliannau o ran y lefelau staffio ar yr uned. Rhaid i'r bwrdd iechyd recriwtio staff i swyddi gwag i leddfu'r pwysau ar staff.  Hefyd, gwnaethom nodi bod angen gwneud gwelliannau o ran cydymffurfio â rhywfaint o hyfforddiant gorfodol gan gynnwys sgiliau clinigol allweddol.

Dywedodd Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Alun Jones:

'Mae ein gwaith wedi tynnu sylw at ymroddiad y staff wrth ddarparu gwasanaeth mamolaeth o ansawdd uchel i famau beichiog a'u teuluoedd o fewn Ysbyty Athrofaol y Faenor. Nodwyd bod angen rhai gwelliannau ar unwaith a nodwyd yn ystod ein harolygiad, ac rwy'n gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn achosi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan weithredu ar fyrder. Byddwn yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau y caiff y gwelliannau hyn eu gwneud ac y ceir tystiolaeth o'r gwelliannau hynny.’

Mehefin 2023 - Adroddiad Cryno ar yr Arolygiad - Uned Famolaeth, Ysbyty Athrofaol y Faenor, Cwmbran

Mehefin 2023 - Adroddiad Arolygu Ysbyty - Uned Famolaeth, Ysbyty Athrofaol y Faenor, Cwmbran