Neidio i'r prif gynnwy

Mae trefniadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ar gyfer gwirio ansawdd a diogelwch gofal cleifion wedi gwella'n sylweddol

Mae Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad ar y cyd sy'n disgrifio'r cynnydd a wnaed gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wrth atgyfnerthu ei drefniadau llywodraethu ansawdd yn dilyn ein gwaith adolygu ar y cyd gwreiddiol yn 2019.

Adroddiad ar y cyde bwrdd iechyd prifysgol cwm taf morgannwg gwaith dilynol ar yr adolygiad ar y cyd o drefniadau llywodraethu ansawdd

Tynnodd ein hadroddiad ar y cyd yn 2019 sylw at nifer o wendidau sylfaenol yn nhrefniadau'r Bwrdd Iechyd mewn perthynas ag arweinyddiaeth, ffocws strategol a'r trefniadau ar gyfer craffu ar ddiogelwch cleifion a risgiau i gleifion, y trefniadau ar gyfer rheoli pryderon a chwynion, a'r diwylliant sefydliadol. Roeddem yn pryderu bod y gwendidau hyn yn cael effaith andwyol ar allu'r Bwrdd Iechyd i nodi ac ymateb i broblemau o ran ansawdd a diogelwch gofal cleifion. Roedd ein hadroddiad yn 2019 yn cynnwys cyfanswm o 14 o argymhellion ar gyfer gwella.

Nododd ein hadolygiad dilynol fod y Bwrdd Iechyd wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth ymdrin â phryderon ac argymhellion ein hadroddiad yn 2019. Mae ganddo ffocws strategol cryfach ar ansawdd a diogelwch cleifion, ac mae mwy o eglurder o ran rolau a chyfrifoldebau mewn perthynas ag ansawdd a diogelwch cleifion o gymharu â 2019.

Mae trefniadau'r sefydliad ar gyfer craffu ar ansawdd a diogelwch cleifion hefyd wedi gwella'n sylweddol, ac maent yn fwy agored a thryloyw. Ceir gwell ymwybyddiaeth hefyd o reoli risg ym mhob rhan o'r sefydliad, ac mae prosesau cliriach ar waith i nodi, rheoli ac uwchgyfeirio risgiau. Mae prosesau pryderon a chwynion y Bwrdd Iechyd yn gliriach o lawer, a chafodd rolau corfforaethol newydd eu creu er mwyn helpu i'w rhoi ar waith a sicrhau cysondeb. Mae diwylliant gwell o ddysgu hefyd, ac mae cyfres o drefniadau bellach ar waith er mwyn helpu i rannu'r gwersi i'w dysgu ac i wneud gwelliannau ym mhob rhan o'r sefydliad.

Ceir tystiolaeth gynnar fod model gweithredu newydd y Bwrdd Iechyd yn cefnogi gwelliannau pellach o ran diwylliant sefydliadol, ond mae angen rhagor o waith er mwyn rhoi trefniadau monitro a rheoli perfformiad clir ar waith fel rhan o'r strwythur newydd.

Dywedodd y staff wrthym fod y diwylliant mewnol yn gwella, a bod yr uwch-arweinwyr yn fwy gweladwy a hygyrch. Fodd bynnag, gwnaethant hefyd ddweud wrthym fod meysydd i'w gwella o hyd, yn enwedig o ran ymdrin â phocedi o ymddygiad gwael.

Dywedodd Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Alun Jones:

“Ar y cyfan, mae camau cadarnhaol wedi'u cymryd, sy'n arwydd clir o ymrwymiad, ymroddiad ac awydd y Bwrdd Iechyd i ymdrin â'n pryderon yn llawn ac i weithio i wella. Er hynny, mae angen i'r bwrdd iechyd gymryd camau pellach o hyd er mwyn rhoi ei drefniadau llywodraethu ansawdd diwygiedig ar waith yn llawn ym mhob rhan o'r sefydliad ac i roi'r argymhellion nas cyflawnwyd eto ar waith yn llawn. Ar y cyd ag Archwilio Cymru byddwn yn parhau i fonitro ei gynnydd yn ofalus.”

Dywedodd Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru:

“Mae'n galonogol gweld y cynnydd cadarnhaol a wnaed gan y Bwrdd Iechyd i ymdrin â'r pryderon a'r gwendidau sylweddol a nodwyd gennym yn ein hadroddiad yn 2019. Mae'r gwelliannau a ddisgrifir gennym heddiw yn golygu bod y Bwrdd Iechyd mewn sefyllfa llawer gwell i wybod a yw ei wasanaethau yn ddiogel ac o ansawdd da. Rhaid cynnal y gwelliannau hyn nawr ac adeiladu arnynt wrth i'r Bwrdd Iechyd gwblhau'r broses o roi'r argymhellion a wnaed gennym yn 2019 ar waith.”