Neidio i'r prif gynnwy

Mae angen gwella uned iechyd meddwl arbenigol yn Ysbyty'r Tri Chwm ar unwaith

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (10 Tachwedd 2023) yn dilyn arolygiad dirybudd o uned iechyd meddwl arbenigol yng Nglynebwy.

Ward Cedar Parc Ysbyty'r Tri Chwm Iechyd Meddwl Arbenigol

Yn ystod yr arolygiad, nodwyd nifer o faterion yn ymwneud â threfniadau llywodraethu, diogelwch cleifion a phreifatrwydd ac urddas yr oedd angen i'r bwrdd iechyd fynd i'r afael â nhw ar unwaith. Roedd yn siomedig nodi hefyd nad oedd rhai o'r materion wedi'u datrys yn dilyn arolygiad blaenorol yn 2018.

Cafodd yr arolygiad o Ward Cedar Parc yn Ysbyty'r Tri Chwm ei gynnal dros dri diwrnod yn olynol ym mis Awst 2023. Mae'r ysbyty, a gaiff ei redeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl i bobl dros 65 oed. Roedd ein harolygiad yn canolbwyntio ar Ward Cedar Parc, sy'n cynnwys 14 o welyau ac yn darparu asesiadau a thriniaethau arbenigol i gleifion sydd â dementia.

Ni chafodd yr arolygwyr sicrwydd bod iechyd, diogelwch a llesiant y cleifion, y staff a'r ymwelwyr yn cael eu hyrwyddo a'u hamddiffyn. Yn ogystal, nid oedd risgiau posibl o niwed yn cael eu nodi, eu monitro na, lle bo hynny'n bosibl, eu lleihau neu'u hatal. Roedd angen i'r bwrdd iechyd weithredu ar unwaith i fynd i'r afael â nifer o faterion, er enghraifft, gwelodd yr arolygwyr bod canllawiau ar goll o goridorau'r ward ac ymylon miniog amlwg a oedd yn peri risg o anaf. Gwelodd yr arolygwyr hefyd bod y clychau galw yn ystafelloedd gwely'r cleifion wedi'u lleoli ar draws yr ystafell o welyau'r cleifion ac roedd eraill wedi'u lleoli lle na allai'r cleifion eu cyrraedd wrth orwedd yn eu gwelyau. Cawsom ddata ar atal yn gorfforol a oedd yn nodi bod staff nad oeddent yn cydymffurfio neu nad oeddent wedi cwblhau'r hyfforddiant perthnasol wedi atal pedwar claf yn gorfforol dros y tri mis diwethaf. At hynny, nid oedd polisi ‘Defnyddio Ymyriadau Corfforol Cyfyngol’ y bwrdd iechyd yn gyfredol ers 2019. Gwnaethom hefyd nodi diffyg cyfathrebu cyffredinol rhwng uwch-aelodau o'r staff ac ni chawsom sicrwydd bod systemau a threfniadau llywodraethu'r ysbyty yn cefnogi gwelliannau parhaus nac yn cynnig cyfleoedd i rannu'r gwersi a gaiff eu dysgu o ddigwyddiadau difrifol.

Yn gyffredinol, roedd y staff yn trin y cleifion â pharch, a chadarnhaodd y cleifion hynny a gwblhaodd ein holiadur fod y staff yn gwrtais, yn gefnogol ac yn barod i helpu. Gwelwyd fod y staff nyrsio yn wybodus am anghenion unigol y cleifion ac roedd cydberthnasau proffesiynol da wedi cael eu meithrin i gefnogi iechyd a llesiant y cleifion. Gwelodd yr arolygwyr y staff yn defnyddio syniadau a dulliau arloesol i ymgysylltu â chleifion, a nodwyd fod hyn yn arfer da.

Gwelodd yr arolygwyr fod cofnodion y cleifion yn dangos tystiolaeth o asesiadau corfforol a gwaith monitro manwl a phriodol. Roedd y Cynlluniau Gofal a Thriniaeth wedi'u teilwra i'r unigolyn, yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn adlewyrchu anghenion a risgiau'r cleifion yn yr ysbyty. Fodd bynnag, nodwyd nifer o faterion a oedd yn effeithio ar breifatrwydd ac urddas y cleifion. Roedd y materion yn cynnwys cyfleusterau golchi dwylo annigonol ar y ward a diffyg toiledau ar wahân dynodedig. Roedd y paneli gweld a orchuddiwyd ar ddrysau ystafelloedd gwely cleifion yn atal y staff rhag cynnal arsylwadau therapiwtig ar gleifion heb agor y drws a tharfu arnynt. Gwelodd yr arolygwyr hefyd fod y cleifion yn cael gofal personol yn eu hystafelloedd gwely gyda'r drysau wedi'u gadael ar agor, a oedd yn peryglu eu preifatrwydd. Yn ystod ein harolygiad blaenorol o'r ward yn 2018, nodwyd gennym nifer o feysydd a oedd yn peryglu preifatrwydd ac urddas y cleifion ac roedd yn siomedig gweld materion tebyg o hyd.

Roedd yn gadarnhaol gweld nad oedd unrhyw swyddi gwag parhaol i staff ac ar adeg ein harolygiad, gwelodd yr arolygwyr fod y lefelau staffio yn briodol er mwyn cynnal diogelwch y cleifion. Fodd bynnag, roedd rhai aelodau o'r staff o'r farn nad oedd digon o staff i ddiwallu anghenion newidiol y staff a'r cynnydd yn y galw gan gleifion ar y ward. Cadarnhaodd y staff fod strwythur llywodraethu ar waith o ran gweithgareddau a chyfarfodydd i drafod digwyddiadau, canfyddiadau a materion yn ymwneud â gofal cleifion. Fodd bynnag, ni chawsom sicrwydd bod y strwythur llywodraethu yn darparu cymorth gweithredol cryf, arweinyddiaeth glir ac atebolrwydd i staff y ward.

Dywedodd Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Alun Jones:

“Mae'n gadarnhaol nodi ymroddiad y staff i ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn Ysbyty'r Tri Chwm. Nododd ein harolygiad feysydd i'w gwella ar unwaith ac mae'n rhaid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan gynnal mesurau cadarn i sicrhau diogelwch y cleifion ac atgyfnerthu'r systemau arwain a rheoli yn yr ysbyty. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r bwrdd iechyd ar ei gynlluniau ar gyfer gwella.”