Neidio i'r prif gynnwy

Llythyr gwiriad sicrwydd ar y cyd Tîm Anableddau Dysgu Cymunedol yn Rhondda Cynon Taf

Gan weithio gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, gwnaethom arolygu gwaith Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Logos AGIC a AGC

Diben yr archwiliad sicrwydd oedd adolygu gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol a pherfformiad y bwrdd iechyd wrth arfer eu priod ddyletswyddau a swyddogaethau mewn perthynas â Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd yn unol â'r deddfwriaethau.

Mae'r tîm anableddau dysgu cymunedol hwn yn un amlasiantaethol, gyda staff yn gweithio ar draws yr awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Mae'r bwrdd iechyd hefyd yn comisiynu Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i ddarparu gwasanaethau gweithredol yn y sir.

I weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion, darllenwch yr adroddiad llawn isod.