Neidio i'r prif gynnwy

Lleisio Pryderon ynghylch Gofal Iechyd yng Nghymru - Cyngor i Weithwyr Gofal Iechyd

Mae'r cyfarwyddyd hwn i bobl sy'n gweithio, neu a oedd yn gweithio, i sefydliad gofal iechyd sydd â phryderon ynghylch gofal gwael. Mae'n nodi ein rôl a'r hyn y gallwn, ac na allwn, ei wneud pan fyddwn yn derbyn gwybodaeth chwythu'r chwiban. 

Chwythu'r chwiban yw'r term a ddefnyddir pan fydd rhywun sy'n gweithio mewn neu i sefydliad eisiau lleisio pryder ynghylch esgeulustod, camwedd, anghyfreithlondeb neu risg. Gall y pryderon hyn effeithio ar gleifion, y cyhoedd, staff eraill neu'r sefydliad ei hun.

Dweud eich dweud

O bryd i'w gilydd, efallai bydd gennych bryderon ynghylch rhywbeth sy'n digwydd yn eich gweithle a allai effeithio ar gleifion, eich cydweithwyr neu'r sefydliad yn gyffredinol. Nid yw bob amser yn hawdd gwneud rhywbeth ynghylch y pryderon hyn

Rhaid i bob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ddilyn ei god ymddygiad proffesiynol, a byddem bob amser yn eich argymell i leisio eich pryder gydag eich sefydliad yn gyntaf. Dylai fod gan eich sefydliad bolisi chwythu'r chwiban. Fodd bynnag, rydym yn sylweddoli nad yw hyn yn bosibl weithiau, neu efallai eich bod yn teimlo nad oes neb yn gwrando arnoch. Os ydych wedi lleisio eich barn yn fewnol ac nid yw wedi cael sylw, neu os ydych chi'n teimlo na allwch leisio eich pryder ar unrhyw lefel o fewn eich sefydliad, gallwch siarad â ni.

Y gyfraith ac AGIC

Mae chwythu'r chwiban yn wahanol i wneud cwyn neu achwyniad. 'Chwythwr chwiban' yw rhywun sy'n gwneud 'datgeliad cymwys' ynghylch pryder yn y gwaith. O dan gyfreithiau chwythu'r chwiban, mae AGIC yn 'gorff rhagnodedig'. Mae hyn yn golygu y gall chwythwr chwiban wneud 'datgeliad cymwys' i ni a bydd ganddo amddiffyniadau cyflogaeth penodol o dan Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996, a ddiwygiwyd gan Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998.

Mae'r Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd yn amddiffyn buddiannau cyhoeddus trwy ddarparu adferiad i unigolion sy'n cael eu cosbi yn y gweithlu am leisio pryder gwirioneddol, boed hwnnw'n bryder ynghylch diogelwch cleifion, diogelu, camymddygiad ariannol, perygl, anghyfreithlondeb neu gamwedd arall.

Os byddwch yn datgelu gwybodaeth i ni, bydd eich datgeliad yn cael ei amddiffyn os ydych wedi ei wneud yn onest, eich bod yn credu ei fod yn wir i raddau helaeth ac os oes gennych reswm rhesymol dros gredu ei fod yn ymwneud â darpariaeth gofal iechyd yng Nghymru.

A allaf gyflwyno gwybodaeth yn ddienw?

Fel arfer, y ffordd orau o leisio pryder yw gwneud hynny mewn modd agored. Mae didwylledd yn ei gwneud hi'n haws i ni ddeall y problemau a chael rhagor o wybodaeth.

Wrth gwrs, rydym yn sylweddoli y gallai fod amgylchiadau lle yr hoffech i ni gadw eich enw'n gyfrinachol. Ni fyddwn yn datgelu pwy ydych heb eich caniatâd, oni bai fod cyfyngiadau neu rwymedigaethau cyfreithiol sy'n ei gwneud yn ofynnol i ni wneud fel arall (er enghraifft, pan fydd eich tystiolaeth yn awgrymu bod plentyn neu oedolion sy'n agored i niwed mewn perygl neu fod trosedd difrifol wedi'i chyflawni) neu os yw llys yn mynnu ein bod yn gwneud hynny. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os bydd yn rhaid i ni wneud hyn ac os bydd hyn yn rhoi eich enw i gorff arall.

Cofiwch, er ein bod ni'n amddiffyn pwy ydych, gallai pobl eraill ddyfalu pwy sydd wedi cysylltu â ni o ganlyniad i natur yr wybodaeth yr ydych wedi'i darparu.

Gallwch leisio pryder yn ddienw os nad ydych eisiau rhoi eich enw o gwbl. Os bydd hyn yn digwydd, ni fyddwn yn gallu cysylltu â chi i drafod eich pryder, i gael rhagor o wybodaeth, neu i'ch hysbysu am unrhyw gamau y byddwn yn eu cymryd.

Beth bydd AGIC yn ei wneud gyda'r wybodaeth y byddaf yn ei rhoi?

Bydd ein tîm pryderon a hyfforddwyd yn arbennig yn ymdrin â phryderon chwythu'r chwiban. Byddwn yn gwrando ar eich pryder ac yn egluro sut gallwn ni helpu.

Byddwn yn dewis un o'r dulliau sydd ar gael i ni i fynd ar drywydd yr wybodaeth y byddwch yn ei datgelu. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Ysgrifennu at y sefydliad gofal iechyd i ofyn am ymateb ffurfiol i'r materion a godwyd
  • Cofnodi eich pryderon fel rhan o'r darlun cyffredinol o wybodaeth sydd gennym am y lle rydych chi'n gweithio, fel y gellir eu hystyried y tro nesaf y byddwn yn ymweld â'r lle
  • Hysbysu sefydliad arall neu gorff rheoleiddio am yr wybodaeth y gwnaethoch chi ei rhoi i ni os yw'n fwy priodol iddyn nhw ymchwilio i'r pryder
  • Cynnal arolygiad neu adroddiadau 
  • Dilyn gweithdrefnau diogelu os yw'r wybodaeth yn ymwneud â niwed neu gamdriniaeth bosibl plentyn neu oedolyn sy'n agored i niwed.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi am yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud ac unrhyw adborth ynghylch y camau y byddwn yn eu cymryd (heblaw lle na wyddom pwy ydych am eich bod wedi dod atom yn ddienw).

Gallwch gysylltu ag AGIC drwy ffonio 0300 062 8163 neu drwy anfon e-bost at agic@llyw.cymru 

Neu gallwch ysgrifennu atom yn: 

Arolygiaeth Gofal Iechyd 

Cymru Parc Busnes Rhyd-y-car 

Merthyr Tudful 

CF48 1UZ

Pwy arall sy'n gallu helpu?

Ni all AGIC roi cyngor cyfreithiol i chi. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch gwneud datgeliad i AGIC, dylech siarad â chyfreithiwr, eich undeb llafur neu sefydliad fel Protect UK (Public Concern at Work yn flaenorol): https://protect-advice.org.uk/ Rhif Ffôn: 020 3117 2520