Neidio i'r prif gynnwy

Gwelliannau wedi'u nodi yn Uned Gofal Dementia Ysbyty Cwm Cynon

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad yn dilyn arolygiad dirybudd o ward iechyd meddwl arbenigol yn Ysbyty Cwm Cynon yn Rhondda Cynon Taf. Mae Ward 7, sy'n rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, yn uned gyda 14 o welyau sy'n darparu gofal dementia. Cynhaliwyd yr arolygiad dros dri diwrnod dilynol ym mis Ionawr 2025.

Ysbyty cwm cynon uned gofal dementia

Gwelsom fod cynnydd sylweddol wedi'i wneud ers ein harolygiad diwethaf yn 2019, a'n hadolygiad o'r bwrdd iechyd yn 2022. Pwysleisiodd yr arolygwyr welliannau nodedig mewn cynllunio gofal, gweithgareddau archwilio a phrosesau rhyddhau, gan ddangos ymrwymiad y bwrdd iechyd i ddysgu a gwella gofal yn barhaus. 

Gwelodd yr arolygwyr fod y gofal yn cael ei gydgysylltu'n dda a'i fod yn ymatebol, gyda'r staff yn dangos dealltwriaeth gref o anghenion y cleifion. Roedd y tîm arwain yn ymrwymedig, ac roedd diwylliant cadarnhaol, agored, lle roedd y staff yn teimlo'n hyderus i fynegi pryderon. Gwelsom sawl enghraifft gadarnhaol o welliannau a gweithgareddau dysgu o ansawdd yn cael eu cynnal ar y ward, gan gynnwys bwletinau newyddion, digwyddiadau llesiant staff a mentrau i gleifion. Roedd y mentrau hyn yn helpu i wella gofal cleifion a llesiant staff ac wedi'u nodi fel arferion gwerth eu cydnabod yn adroddiad yr arolygiad. 

Dywedodd y cleifion y gwnaethom siarad â nhw eu bod yn teimlo'n ddiogel ac yn hapus ar y ward a gwnaethant ddisgrifio'r staff fel pobl garedig a pharod eu cymwynas. Gwelwyd awyrgylch digyffro, cynhwysol a phroffesiynol drwy'r arolygiad, gyda'r staff yn dangos cynhesrwydd a pharch wrth ryngweithio â'r cleifion. Roedd gan bob claf ystafell wely breifat, gan gefnogi urddas a phreifatrwydd, a gwnaeth y defnydd o arwyddion wedi'u personoli helpu unigolion i adnabod eu hystafelloedd. Roedd y cleifion yn mwynhau gweithgareddau therapiwtig fel pobi a therapi anifeiliaid anwes, gan ddefnyddio gerddi awyr agored yn rheolaidd. Roedd menter ‘Fresh in 15’ y ward yn cefnogi mynediad dyddiol i awyr iach ac amser yn yr awyr agored. 

Roedd asesiadau a gofal amserol yn cael eu darparu, gyda'r staff yn dangos dealltwriaeth gref o anghenion cleifion unigol. Canfu'r arolygwyr fod systemau ar waith i gefnogi gofal diogel ac effeithiol, gan gynnwys polisïau cyfredol, asesiadau risg wedi'u cwblhau a chofnodion cleifion a oedd yn cael eu cynnal yn ddiogel. Roedd gweithdrefnau diogelu yn gadarn ac roedd y broses rheoli meddyginiaethau yn ddiogel ac yn cael ei thrin yn dda. Roedd y cynlluniau gofal wedi'u teilwra i bob claf ac yn dangos cyfranogiad clir gan gleifion, teuluoedd a'r tîm amlddisgyblaethol ehangach. 

Dywedodd y staff eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi'n dda a gwnaethant ddisgrifio diwylliant cadarnhaol a chynhwysol ar y ward. Roeddent yn hyderus wrth godi pryderon ac roedd ganddynt ddealltwriaeth glir o'r gweithdrefnau priodol. Disgrifiwyd bod yr arweinyddiaeth gan reolwr y ward a'r uwch dîm yn ymrwymedig ac yn angerddol, gyda strwythur rheoli wedi'i ddiffinio'n dda ac ethos gweithio fel tîm da ar waith. Arsylwodd yr arolygwyr fentrau gwella a dysgu o ansawdd parhaus, gan gynnwys cylchlythyrau staff rheolaidd, digwyddiadau llesiant, a rhaglenni wedi'u hanelu at wella profiad y cleifion a'r staff. 

Er bod yr arolygiad yn gadarnhaol gan mwyaf ac na chafodd risgiau di-oed i ddiogelwch cleifion eu nodi, nodwyd rhai meysydd i'w gwella. Pwysleisiodd yr arolygwyr yr angen i gryfhau mynediad i rolau arbenigol allweddol gan gynnwys fferyllydd iechyd meddwl, deietegydd a therapydd lleferydd ac iaith. Cafodd gwelliannau hefyd eu hargymell yn ymwneud â lefelau staffio, cydymffurfiaeth â hyfforddiant i staff asiantaeth, a mynd i'r afael â gosodiadau a allai fod yn anniogel mewn ardaloedd cymunedol. 

Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:

Mae'n galonogol gweld y cynnydd sylweddol y mae Ysbyty Cwm Cynon wedi'i wneud ers ein harolygiad diwethaf a'r adolygiad blaenorol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Mae'n amlwg bod ymroddiad y staff a'r tîm arwain i ddysgu a gwelliant parhaus yn cael effaith gadarnhaol ar ofal cleifion a llesiant staff. Mae ffocws y ward ar fentrau cleifion yn helpu i wella gofal cleifion, gyda rhai enghreifftiau o arferion gwerth eu nodi yn ystod ein harolygiad. Edrychwn ymlaen at weld y bwrdd iechyd yn cynnal y cynnydd hwn wrth iddo barhau i fynd i'r afael â meysydd pellach i'w gwella.