Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Laser Dosbarth 3B/4 a Golau Pwls Dwys Adroddiad Blynyddol 2015-2016

Dyma adroddiad blynyddol cyntaf AGIC ar gyfer gwasanaethau laser Dosbarth 3B/4 a golau pwls dwys.

Yn ystod 2015-16, cynhaliodd AGIC gyfanswm o 19 o arolygiadau o wasanaethau laser Dosbarth 3B/4 a golau pwls dwys ledled Cymru. Er bod y rhan fwyaf o gleifion yn fodlon iawn ar eu profiadau wrth ymweld â’r gwasanaethau hyn, nododd ein harolygiadau nifer sylweddol o feysydd i’w gwella ac achosion o dorri rheoliadau yn y gwasanaethau y gwnaethom ymweld â nhw. Er i ni ganfod bod y rhan fwyaf o wasanaethau’n darparu triniaethau diogel ar y cyfan, gwnaethom nodi meysydd o bryder mewn chwech o wasanaethau yr oeddem yn credu y gallent beri risgiau i ddiogelwch cleifion.

O ganlyniad, gwnaeth AGIC ofyn i’r gwasanaethau hyn ymatal yn wirfoddol rhag darparu’r gwasanaethau hyn ar gyfer cleifion nes i’r problemau hyn dderbyn sylw a nes i AGIC dderbyn sicrwydd digonol. Yn dilyn ein harolygiadau, dywedodd pump o’r gwasanaethau hyn eu bod am ganslo eu cofrestriad gydag AGIC, am nad oeddent bellach am ddarparu gwasanaethau laser Dosbarth 3B/4 a golau pwls dwys. Un peth a oedd yn peri pryder penodol oedd nad oedd gan y rhan fwyaf o wasanaethau ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ddigonol o’r safonau a’r rheoliadau ar gyfer darparu gwasanaethau laser Dosbarth 3B/4 a golau pwls dwys. Yn ogystal, nid oedd gan y rhan fwyaf o wasanaethau systemau a phrosesau effeithiol ar waith i sicrhau eu bod yn bodloni’r safonau perthnasol ac yn cydymffurfio â’r rheoliadau. 

Yr hyn a welsom

Gwelsom fod angen i wasanaethau wella’r meysydd canlynol:

  • Darparu hyfforddiant cyfredol i staff mewn defnyddio laserau a systemau golau pwls dwys yn ddiogel
  • Sicrhau defnydd diogel o laserau ac offer golau pwls dwys, gan gynnwys eu gwasanaethu’n rheolaidd, sicrhau bod rheolau lleol cyfredol ar gaels, a chysylltu â chynghorydd diogelu rhag laserau
  • Trefniadau ar gyfer diogelu plant ac oedolion sy’n agored i niwed, gan gynnwys hyfforddiant diogelu a pholisïau addas yn nodi gweithdrefnau eglur i staff eu dilyn
  • Gwiriadau cyfredol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn unol â gofynion y rheoliadau
  • Trefniadau ar gyfer rheoli risg ac iechyd a diogelwch
  • Datblygu ac adolygu’r dogfennau, polisïau a gweithdrefnau sy’n ofynnol dan y rheoliadau
  • Systemau llywodraethu a sicrhau ansawdd effeithiol.

Lle’r oedd angen, roedd gofyn i wasanaethau gwblhau cynllun gwella er mwyn darparu sicrwydd i AGIC bod canfyddiadau o arolygiadau’n cael sylw. Yn gyffredinol, gwelsom fod ansawdd cynlluniau gwella’n wael, yn aml oherwydd nad oedd gwasanaethau wedi ymgyfarwyddo’n ddigonol â gofynion y safonau a rheoliadau er mwyn cymryd camau priodol. 

Yn yr achosion hyn, fe wnaethom gymryd camau gweithredu pellach i sicrhau bod gwasanaethau’n rhoi’r sicrwydd angenrheidiol i AGIC.