Dywedwch wrthym am eich taith gofal iechyd - Adolygiad Cenedlaethol o Lif Cleifion (Llwybr Strôc)
Rydym yn cynnal adolygiad cenedlaethol ar hyn o bryd i asesu effaith unrhyw oedi wrth asesu neu drin cleifion. Rydym yn defnyddio’r llwybr strôc i asesu ansawdd taith claf. Rydym am ddeall yr hyn sy'n cael ei wneud i liniaru unrhyw niwed i'r rheiny sy'n aros am ofal a deall sut mae ansawdd a diogelwch gofal yn cael eu cynnal drwy'r llwybr strôc.
Os ydych chi, aelod o'r teulu neu ffrind wedi dioddef strôc yn ystod y blynyddoedd diwethaf, cwblhewch ein harolwg byr.
Bydd eich profiad yn ein helpu i nodi arferion da a gwelliannau lle mae eu hangen, er mwyn darparu gwell gofal i gleifion yng Nghymru.
Mae'r holiadur yn ddienw, felly ni fydd modd i unrhyw un eich adnabod o'ch atebion.
Mae copi caled o'r arolwg ar gael, neu os hoffech gwblhau'r arolwg dros y ffôn, cysylltwch â ni.
Rydym wedi cynhyrchu fideo wedi'i animeiddio i ddangos taith Sam i chi drwy'r system gofal iechyd. Mae'r animeiddiad yn cymryd y gwyliwr gah gam drwy daith Sam a'i nod yw eich helpu i ddeall sut y gallai taith claf edrych.