Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar yr Adolygiad Cenedlaethol o Wasanaethau Mamolaeth yng Nghymru

Yn dilyn ein harolygiad o wasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Maelor Wrecsam, mae cyhoeddi'r adroddiad yn nodi carreg filltir yn ein Hadolygiad Cenedlaethol o Wasanaethau Mamolaeth yng Nghymru.

Lansiwyd yr adolygiad ym mis Mehefin 2019, ac rydym wedi cynnal arolygiadau dirybudd o wasanaethau mamolaeth i gleifion mewnol mewn 15 o ysbytai’r GIG yng Nghymru hyd yma. Mae pob un o'r 15 o adroddiadau arolygu hyn ar gael ar ein gwefan erbyn hyn.

Yn ogystal ag arolygu gwasanaethau mamolaeth i gleifion mewnol mewn ysbytai ledled Cymru, gwnaethom hefyd arolygu nifer o unedau mamolaeth bach y GIG, a gaiff eu hagor yn ôl y galw, ac felly nad ydynt yn gweithredu 24 awr y dydd. Gall menywod ddewis rhoi genedigaeth yn yr unedau hyn fel rhan o’u cynllun geni ac fe’u gelwir yn unedau mamolaeth ‘Cartrefol’. Gwnaethom arolygu pob un o'r 10 uned hyn, sydd wedi'u lleoli ledled Cymru wledig, a'n nod yw cyhoeddi canfyddiadau'r arolygiadau hyn maes o law.

Byddwn yn darparu diweddariad pellach ar gamau nesaf yr adolygiad yn ystod yr wythnosau nesaf.