Neidio i'r prif gynnwy

Defnyddio gwybodaeth i gefnogi gweithgarwch sy'n seiliedig ar risg

Amcan

Mae'r papur hwn yn esbonio sut mae AGIC yn defnyddio gwybodaeth fel rhan o ymagwedd sy'n seiliedig ar risg i ddylanwadu ar ei rhaglen waith i arolygu a rheoleiddio gofal iechyd yng Nghymru. Mae hyn yn bwysig er mwyn sicrhau bod adnoddau prin yn cael eu defnyddio'n effeithiol ar gyfer rheoleiddio ac arolygu lleoliadau iechyd.

Arfer Presennol

Mae'r modd mae AGIC yn gwneud penderfyniadau ar ba le i ffocysu ei gweithgareddau arolygu ac ymchwilio wedi'i seilio ar risg yn bennaf ac wedi'i arwain gan wybodaeth. Fodd bynnag, mae rhai gweithgareddau hefyd wedi'u seilio ar batrwm cylchol i gefnogi ein gofynion statudol.

Pan fyddwn yn ystyried risg, rydym yn gosod set ehangach o gwestiynau a all gynnwys y canlynol.

  • Pa mor agored i niwed yw'r grŵp o gleientiaid?
  • Pa dystiolaeth a gwybodaeth mae AGIC wedi'u casglu dros gyfnod o amser?
  • A oes unrhyw adolygiadau blaenorol mae AGIC wedi eu cynnal yn y lleoliad hwn?
  • A yw ein partneriaid wedi lleisio pryderon gyda ni?
  • A ydym wedi derbyn unrhyw bryderon gan y cyhoedd, staff neu gleifion?
  • Beth yw'r blaenoriaethau, safonau a gofynion cenedlaethol sy'n gysylltiedig â darpariaeth y gwasanaeth?
  • A oes unrhyw anghydraddoldebau hysbys yn narpariaeth y gwasanaeth?
  • A oes unrhyw bryderon am absenoldeb gwybodaeth ynglŷn â'r lleoliad neu'r gwasanaeth hwn?

Mae AGIC wedi rhoi trefniadau ar waith i sicrhau bod y defnydd o dystiolaeth yn gyson ac yn agored i gael ei herio. Mae'r Uwchgynadleddau Gofal, a gynhelir dwywaith y flwyddyn gan AGIC, o bwys mawr, ac yn dwyn at ei gilydd nifer sylweddol o gyrff adolygu allanol yng Nghymru ynghyd â'r rheoleiddwyr proffesiynol. Mae'r rhai sy'n mynychu yn cynnwys Archwilio Cymru, Llais, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Deoniaeth Cymru, a chynrychiolwyr y rheoleiddwyr proffesiynol. Fforwm rhyngweithiol yw hwn i rannu gwybodaeth am ansawdd a diogelwch y gwasanaethau gofal iechyd a ddarperir gan GIG Cymru. Nod yr uwchgynhadledd yw rhannu tystiolaeth a phryderon i brofi safbwyntiau sy’n dod i’r amlwg a chyda'r bwriad o ddylanwadu ar raglenni gwaith y sefydliadau hynny sy'n mynychu. Mae hefyd yn cefnogi AGIC i ffurfio ei safbwyntiau i fwydo i mewn i'r Trefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrryd ar gyfer GIG Cymru

Yn ogystal ag Uwchgynadleddau Gofal Iechyd, mae AGIC yn cynnal cyfarfod Pwyllgor Risg ac Uwchgyfeirio mewnol bob mis i adolygu rhaglen waith flynyddol AGIC, sy'n seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf. Mae hyn yn ein galluogi i newid ein gweithgarwch ar sail adolygiadau rheolaidd o wybodaeth newydd a datblygol am sector y GIG a'r sector annibynnol.

Yn olaf, os bydd AGIC yn cael gwybod am wybodaeth sydd â mwy o frys ac yn gofyn am weithredu ar unwaith, mae gennym brosesau ar waith i sicrhau y gallwn ymbaratoi i ymateb o ganlyniad i hyn.

Mae tystiolaeth y mae AGIC yn ei chasglu ei hunan, mewn modd uniongyrchol, yn deillio o'r gwaith rydym yn ei wneud mewn lleoliadau iechyd drwy arolygiadau ac ymchwiliadau. Mae hyn yn cael ei ddefnyddio i lywio ein blaenrhaglen waith naill ai drwy roi sicrwydd am gyfnod penodol o amser neu oherwydd bod angen gwaith dilynol. Mae gwybodaeth bellach y mae AGIC yn ei chadw yn deillio'n uniongyrchol o bobl, cleifion a staff, sy'n rhannu eu profiadau o ofal iechyd â ni yn uniongyrchol. Yn ogystal â’n gwybodaeth adolygu, mae ein carfan bresennol o wybodaeth yn cynnwys digwyddiadau anffafriol difrifol, hysbysiadau Rheoliad 30/31 a Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio (Datguddiad Meddygol), pryderon, a data cofrestru.

Hefyd mae gennym fynediad at ystadegau perfformiad arferol Llywodraeth Cymru ar GIG Cymru drwy gytundeb partneriaeth. Mae hyn yn ein galluogi i gael mynediad at wybodaeth gyd-destunol am dargedau proses a hefyd at rywfaint o ddata canlyniadau.

Mae gwybodaeth arall sy'n cael ei hystyried yn rheolaidd gan AGIC yn cynnwys gwybodaeth a rennir gan Archwilio Cymru, Llais, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Deoniaeth Cymru ac eraill. Mae staff o fewn AGIC yn adolygu trwch y wybodaeth hon er mwyn ffurfio eu safbwyntiau ar sefydliadau gofal iechyd i'w bwydo i mewn i'r Pwyllgor Risg ac Uwchraddio a'r broses gynllunio flynyddol. Mae gennym amrywiaeth o femoranda dealltwriaeth ar waith i gefnogi llif y wybodaeth rhyngom a'n partneriaid.

Er mwyn ein helpu i olrhain y gwahanol fathau o wybodaeth sy'n llifo i mewn i AGIC, rydym wedi sefydlu map gwybodaeth. Mae hwn yn rhestru'r wybodaeth rydym yn ei dal a sut mae'n cael ei defnyddio yn AGIC, ac mae'n cael ei adolygu bob chwe mis (neu'n gynt pan fo angen), pan mae ffynonellau data newydd posibl yn cael eu nodi y mae AGIC am eu hystyried o bosibl fel rhan o'i gwybodaeth sy'n cefnogi ein rhaglen waith.

Gweithio gyda'n gilydd

Mae'r ymagwedd tuag at wneud rhaglenni gwaith sy'n seiliedig ar risg ac wedi'u harwain gan wybodaeth yn cael ei chefnogi gan ein gwaith gyda'n sefydliadau partner. Pan fydd risg yn cael ei nodi, bydd achlysuron pan fydd sefydliad arall mewn gwell sefyllfa i ymateb. Yn y fath achos, byddwn yn dibynnu ar ganfyddiadau'r sefydliad hwnnw neu'n ystyried ai gweithio ar y cyd yw'r ymateb mwyaf priodol.

Mynd yn ein blaenau

O fewn y system iechyd yng Nghymru, mae maint sylweddol o ddata sy'n llifo o fewn a rhwng sefydliadau. Mae angen i AGIC ganfod pa wybodaeth sy'n ddefnyddiol i ni ei hystyried wrth benderfynu ein rhaglen waith a'r hyn a ddefnyddir yn well gan eraill. Mae hyn yn cael ei reoli drwy fap gwybodaeth AGIC ar hyn o bryd.

Drwy ganolbwyntio ar set ehangach o wybodaeth, mae'n bosibl y byddwn yn gallu targedu ein gweithgarwch arolygu ac ymchwilio. Byddwn yn dehongli pa mor ddefnyddiol yw'r gwahanol ddangosyddion ar gyfer tynnu sylw at newidiadau mewn ansawdd a diogelwch darpariaeth gwasanaethau o'r set ehangach o wybodaeth hon. Wedyn byddwn yn defnyddio'r dangosyddion hynny sy'n fwyaf perthnasol i gefnogi fframwaith risg i'w fwydo i mewn i'n trefniadau cynllunio.

Rydym yn ddigon ffodus bod Cymru'n ddigon bach fel y gallwn wneud ein hasesiadau ar risg, wedi'u seilio ar farnu'n bersonol y wybodaeth sydd gennym a sgyrsiau â'n partneriaid. O ganlyniad i hyn, ni fu rhaid inni lunio dull fformiwläig i ragweld risg drwy ddadansoddiad data. Fodd bynnag, mae hyn hefyd wedi golygu bod craffu ar y dyfarniadau hyn a'u herio yn fewnol, yn ogystal â thrwy ryngweithio â'n partneriaid, yn rhan hanfodol o'n hymagwedd

Dylanwadu ar ein canlyniadau

Drwy ein gwaith, mae AGIC yn ceisio dylanwadu ar bedwar canlyniad. Mae'r ymagwedd hon tuag at weithgarwch adolygu, sy'n seiliedig ar risg ac wedi'i harwain gan wybodaeth, yn cefnogi'r canlyniadau hyn mewn nifer o ffyrdd a dangosir hyn yn y tabl isod.

Canlyniad

Sut mae'r strategaeth hon yn cefnogi'r rhain?

Rhoi sicrwydd annibynnol ynglŷn â diogelwch, ansawdd ac argaeledd gofal iechyd trwy reoleiddio effeithiol a thrwy adrodd yn agored ac yn eglur ar ein harolygiadau a'n hymchwiliadau

Bydd gennym raglen sy'n seiliedig ar risg ac wedi'i harwain gan wybodaeth er mwyn sicrhau ein bod yn ffocysu ein gweithgarwch lle bydd yn cael yr effaith fwyaf. Mae hyn yn golygu ein bod yn debygol o wneud gwaith mewn meysydd lle mae naill ai'r bobl fwyaf agored i niwed yn cael eu heffeithio neu lle bydd gennym bryderon am ansawdd gwasanaeth, neu nad oes ymweliad wedi cael ei gynnal am gyfnod penodol o amser. 

Bydd adroddiadau o'r adolygiadau hyn yn ffurfio rhan o'n gwybodaeth ar gyfer y dyfodol.

Annog a chefnogi gwelliannau mewn gofal trwy adrodd a rhannu arfer da a meysydd lle mae angen gweithredu

Mae ein hymchwiliadau a'n harolygiadau'n profi sefydliadau yn erbyn safonau a gyhoeddwyd. Mae ein gwaith adrodd tryloyw yn gallu eu helpu hwythau ac eraill i ganfod meysydd i'w gwella a hefyd i rannu arfer da. 

Mae gwybodaeth a rennir â sefydliadau partner yn ein cynorthwyo i sicrhau bod ffocws ein gweithgarwch yn briodol a bod gennym yr effaith fwyaf wrth wella safon y gofal.

Sicrhau bod profiad y claf yn ganolog i’n prosesau arolygu ac ymchwilioMae gwybodaeth sy'n deillio o'r cyhoedd, cleifion, gofalwyr a staff yn rhannau allweddol o'r modd rydym yn penderfynu ein gweithgarwch ar gyfer y dyfodol. Yn ogystal â hyn, mae ymgysylltu â chleifion a holiaduron yn rhan allweddol o'n methodolegau arolygu ac ymchwilio
Defnyddio ein profiad o gyflawni gwasanaeth i ddylanwadu ar bolisi, safonau ac arferPan fyddwn yn sefydlu themâu o'n rhaglen waith, rydym yn hysbysu'r rhai sy'n gwneud polisïau o'n canlyniadau. Rydym yn gwneud hyn drwy lythyrau a anfonir yn uniongyrchol at Lywodraeth Cymru a hefyd mewn modd agored drwy gyhoeddi ein cyfres o adroddiadau blynyddol ar fyrddau iechyd a rhai thematig.