Datganiad Sefyllfa ar yr Asesiad Sicrwydd Mamolaeth a Newyddenedigol Cenedlaethol
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn croesawu cyhoeddi'r Asesiad Cenedlaethol o Wasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol - Y Llwybr at Ddechrau Mwy Diogel yng Nghymru. Rydym yn cydnabod graddfa'r gwaith a gyflawnwyd ledled Cymru i gwblhau'r asesiad cynhwysfawr hwn, ac rydym yn gwerthfawrogi cyfraniad menywod, teuluoedd, staff a phartneriaid a rannodd eu profiadau.

Mae canfyddiadau'r adroddiad yn adlewyrchu'n gryf y meysydd rydym wedi eu nodi drwy ein harolygiadau a'n gwaith cenedlaethol. Mae'r rhain yn cynnwys pwysau cyson ar lefelau staffio a'r cymysgedd sgiliau, amrywiaeth o ran prosesau brysbennu a sefydlu, bylchau o ran ansawdd data, a'r angen am arweinyddiaeth, atebolrwydd a safonau cenedlaethol cliriach. Mae'r adroddiad hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd data dibynadwy ac amserol i gefnogi prosesau monitro a dysgu effeithiol.
Rydym yn cydnabod y dystiolaeth o'r gofal tosturiol sy'n cael ei roi gan staff sy'n gweithio o dan bwysau parhaus, ynghyd ag enghreifftiau o waith ymgysylltu effeithiol â chymunedau ac amgylcheddau cadarnhaol lle mae menywod a theuluoedd yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi. Mae'r adroddiad yn pwysleisio'r ffaith bod profiadau cadarnhaol a negyddol o ofal yn cael dylanwad sylweddol ar lesiant emosiynol menywod a theuluoedd.
Mae'r canfyddiadau yn nodi heriau sylweddol a pharhaus mewn meysydd allweddol, gan gynnwys cymorth ôl-enedigol ac iechyd meddwl, diogelwch diwylliannol, cynnwys partneriaid mewn modd cyson, a phrosesau cadarn ar gyfer adolygu digwyddiadau a dysgu ohonynt. Mae'r heriau hyn i'w gweld ledled y DU ac maent yn adlewyrchu cymhlethdod darparu gofal mamolaeth a newyddenedigol diogel ac effeithiol fel rhan o system newidiol ac yn erbyn galw cynyddol am wasanaethau.
Bydd AGIC yn ystyried yr adroddiad a'i argymhellion yn ofalus. Byddwn yn asesu sut maent yn llywio ac yn atgyfnerthu ein dull o roi sicrwydd, gan gynnwys sut rydym yn arolygu gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol a sut rydym yn defnyddio gwybodaeth i nodi risgiau ac ymateb iddynt.
Rydym yn parhau'n ymrwymedig i weithio gyda Byrddau Iechyd, Llywodraeth Cymru, teuluoedd a staff i gefnogi gwelliannau cynaliadwy i ansawdd a diogelwch gofal ledled Cymru.