Datganiad Sefyllfa ar Ofal mewn Coridorau
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn cydnabod yr heriau difrifol sy'n gysylltiedig â gofal mewn coridorau mewn ysbytai ledled Cymru. Gall yr arfer hwn beryglu diogelwch ac urddas cleifion ac ansawdd y gofal yn gyffredinol. Ni ddylai gofal mewn coridorau gael ei normaleiddio.
Pan gaiff ei ddefnyddio o ganlyniad i bwysau eithafol, rhaid ei reoli'n ddiogel, gyda lefelau staffio a goruchwyliaeth briodol a pharch tuag at anghenion y cleifion. Mae AGIC o'r farn bod yn rhaid i'r system addasu, am na ddylid goddef y lefel hon o risg; rhaid i wasanaethau weithio i ddileu'r angen am ofal mewn coridorau yn gyfan gwbl.
Rydym hefyd yn cydnabod yr effaith ar y system ehangach. Os na chaiff cleifion eu lleoli mewn coridorau, efallai y bydd yn rhaid iddynt aros mewn ambiwlansys neu ardaloedd eraill sy'n anaddas, sydd hefyd yn peri risg. Mae AGIC yn parhau i herio byrddau iechyd i fynd i'r afael â'r pwysau hyn, gwella llif cleifion, a darparu gofal mewn lleoliadau sy'n briodol o safbwynt clinigol. Rydym yn ymrwymedig o hyd i gefnogi gwelliannau sy'n cynnal diogelwch cleifion a safonau gofal iechyd ledled Cymru.