Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad Safbwynt ar Adolygiad dan Arweiniad Teuluoedd Grŵp Cymorth Mamolaeth Bae Abertawe o Wasanaethau Mamolaeth

Hoffai Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ddiolch yn ddiffuant i Grŵp Cymorth Mamolaeth Bae Abertawe a'r holl deuluoedd a gyfrannodd at yr adolygiad pwysig hwn. Mae'r adroddiad yn cyflwyno hanes pwerus a hynod emosiynol o brofiadau bywyd, ac rydym yn cydnabod bod ymdrech, gofal a dewrder sylweddol wedi mynd i'w ddatblygu.

Rydym yn croesawu'r argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad ac yn cydnabod yr angen am welliant ar draws gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru. Rydym yn ymrwymedig i ymgysylltu mewn ffordd adeiladol â'r argymhellion a'u defnyddio i lywio a chryfhau ein gwaith. 

Mae'r adolygiad hwn yn cynnig cyfle pwysig i fyfyrio a dysgu. Byddwn yn ystyried sut gallem gryfhau amlder a ffocws ein harolygiadau o wasanaethau mamolaeth, a chydbwyso hyn yn erbyn ein cyfrifoldebau statudol ehangach ar draws y GIG a'r sectorau gofal iechyd annibynnol, gan gynnwys ein dyletswyddau o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl a'r Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio (Cysylltiad Meddygol). Byddwn hefyd yn achub ar y cyfle hwn i ailddatgan ac egluro sut rydym yn ymateb i chwythwyr chwiban sy'n codi pryderon gyda ni ac yn sicrhau bod aelodau'r cyhoedd yn deall yn well sut mae eu hadborth yn llywio'r penderfyniadau a wnawn am ein gwaith sicrwydd. 

Mae AGIC yn ymrwymedig i chwarae rôl weithgar wrth gymell gwelliant cenedlaethol, ochr yn ochr â chyrff a phartneriaid eraill. Rydym yn croesawu Asesiad Sicrwydd o Ofal Mamolaeth a Newyddenedigol Cymru Gyfan, a fydd yn helpu i nodi arferion da, mynd i'r afael ag amrywiad, a chefnogi gwelliant cyflym mewn diogelwch ac ansawdd ar draws gwasanaethau. Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar wneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael i ni wrth i ni gyflawni ein cyfrifoldebau a sicrhau bod lleisiau teuluoedd yn parhau i lywio dyfodol gofal mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru.