Neidio i'r prif gynnwy

Dad-gyfeirio ysbyty iechyd meddwl yn Wrecsam o fod yn Wasanaeth sy'n Peri Pryder

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (26 Ionawr) yn dilyn arolygiad o Ysbyty Annibynnol New Hall, a gaiff ei reoli gan Mental Health Care UK yn Wrecsam. Mae'r ysbyty yn darparu gofal arbenigol ar gyfer hyd at 10 claf rhwng 18 a 64 oed, sydd wedi cael diagnosis o anableddau dysgu ac anhwylderau meddyliol.

Ysbyty Annibynnol New Hall Iechyd Meddwl Arbenigol

Cwblhaodd AGIC arolygiad dirybudd yn yr ysbyty ar dri diwrnod dilynol ym mis Hydref 2023. Roedd yr arolygiad yn canolbwyntio ar ddwy ward, sef Ward Glaslyn a Ward Adferiad. 

Yn dilyn arolygiad blaenorol ym mis Mawrth 2023, rhoddwyd yr ysbyty ym mhroses Gwasanaeth sy'n Peri Pryder AGIC, a gaiff ei defnyddio lle ceir methiannau sylweddol o fewn gwasanaeth, neu pan fydd pryderon yn cronni am wasanaeth neu leoliad. O ganlyniad i hyn, gosododd AGIC amod ar y lleoliad i beidio â derbyn unrhyw gleifion newydd oherwydd lefel y risgiau a nodwyd. Roedd y risgiau hyn yn cynnwys nifer o wallau wrth roi meddyginiaethau, argaeledd cyfarpar cynnal bywyd ac achosion o dorri rheolau diogelwch tân.

Yn ystod yr arolygiad diweddar, gwelsom fod y gwasanaeth wedi gwneud gwelliannau sylweddol ac nid yw bellach yn Wasanaeth sy'n Peri Pryder. Canfu'r arolygwyr fod y lleoliad wedi cryfhau meysydd yr oedd angen eu gwella ar unwaith yn flaenorol, gan gynnwys gweithdrefnau i roi gwybod am ddigwyddiadau a risgiau, a'r broses ar gyfer sicrhau bod cyfarpar cynnal bywyd brys ar gael. Gwelodd yr arolygwyr dystiolaeth bod asesiadau risg tân yn cael eu diweddaru'n rheolaidd a gwnaethant nodi ei bod bellach yn hawdd cyrraedd allanfeydd tân. 

Drwy gydol yr arolygiad dilynol, gwelsom y staff yn cyfathrebu â'r cleifion mewn ffordd garedig a pharchus. Nododd yr arolygwyr fod prosesau da ar waith i gefnogi a diogelu anghenion corfforol y cleifion, gan gynnwys gweithgareddau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a chyswllt rheolaidd â'u teuluoedd. Roedd gan bob un o'r cleifion hefyd fwy o le, a gwnaethom gadarnhau y byddai hyn yn parhau ar ôl i'r gwasanaeth dderbyn mwy o gleifion. Gwelodd yr arolygwyr rai ystafelloedd gwely ac roeddent wedi cael eu personoli er mwyn creu naws cartrefol.

Roedd rheolwyr a staff y gwasanaeth wedi dangos dealltwriaeth gynhwysfawr o'r cleifion. Gwelsom aelodau o'r staff yn ymateb i ymddygiad heriol mewn ffordd ddigynnwrf a phriodol ac roedd trefniadau da ar waith yn gyffredinol er mwyn mynd i'r afael â risgiau. Cadarnhaodd yr arolygwyr fod y cleifion yn gallu cymryd rhan mewn cyfarfodydd yn rheolaidd a'u bod yn gallu cael gwybodaeth am eu gofal a'u triniaeth. Gwelsom aelodau o'r staff yn cyfathrebu â'r cleifion mewn ffordd bersonol a brwdfrydig, yn unol ag anghenion ac arddull gyfathrebu ddewisol pob claf. Roedd hyn yn cynnwys defnyddio adnoddau llafar, ysgrifenedig a lluniau yn ôl yr angen. Gallai'r cleifion ddefnyddio gwasanaethau eirioli a chynrychioli a fyddai'n eu helpu i ddeall a mynegi eu barn ar eu gofal a'u triniaeth. 

Roedd y lleoliad yn lân ac mewn cyflwr da ar y cyfan, ond nodwyd rhai risgiau diogelwch o ran cynnal a chadw, gan gynnwys dyfeisiau cau diffygiol ar ddrysau tân. Yn ystod ein gwaith sicrwydd, gwelsom dystiolaeth bod yr holl feddyginiaethau yn cael eu storio'n briodol, mewn cypyrddau diogel drwy ddrws dan glo. Fodd bynnag, daeth yr arolygwyr o hyd i anadlydd a oedd wedi darfod ac adrenalin a oedd yn cael ei storio y tu allan i'r pecyn arferol a allai beri oedi cyn rhoi meddyginiaeth mewn argyfwng. Gwnaeth yr arolygwyr uwchgyfeirio'r mater hwn i'r staff yn ystod yr arolygiad a chymerwyd camau ar unwaith i fynd i'r afael ag ef. Nododd yr arolygwyr agweddau ar brosesau gwirio stoc y gellid eu hatgyfnerthu. Roedd y lleoliad yn ymwybodol o'r materion hyn ac wrthi'n eu gwella. 

Ers yr arolygiad diwethaf, gwelsom drefniadau cryfach mewn perthynas â storio, mynediad a gwirio cyfarpar brys, gan gynnwys y diffibriliwr a thorwyr clymau. Roedd y cyfarpar bellach yn cael ei storio mewn lleoliad priodol lle gallai'r staff i gyd gael gafael arno. Pan ofynnwyd iddynt, roedd y staff yn ymwybodol o'r lleoliad a sut i gael gafael ar eitemau pe bai argyfwng yn codi. Nododd yr arolygwyr y gellid cryfhau agweddau ar drefniadau cadw cofnodion yr ysbyty, er enghraifft drwy sicrhau bod cynlluniau yn cael eu dyddio'n gywir a bod cynlluniau sydd wedi darfod yn cael eu marcio'n glir i ddynodi hynny.

Roedd yr adborth a gafwyd gan y staff yn gadarnhaol ar y cyfan, ac roedd bron pob aelod o'r staff yn cytuno y byddent yn fodlon ar safon y gofal a ddarperir gan y sefydliad hwn i'w ffrindiau neu deulu. I ddechrau, gwelsom lefelau da o gydymffurfiaeth â hyfforddiant gorfodol ac arbenigol. Fodd bynnag, o ganlyniad i wahaniaethau yn y ffordd y caiff data eu cofnodi, nodwyd bod angen gwella canrannau cwblhau mewn sawl maes hyfforddiant. Roedd y lleoliad wedi llwyddo i lenwi sawl swydd nyrsio yn ddiweddar er mwyn cefnogi gofal parhaus ac adnabyddiaeth o'r cleifion. 

Dywedodd Prif Weithredwr AGIC, Alun Jones:

‘Mae'n galonogol gweld bod gwelliannau wedi'u gwneud ers ein harolygiad blaenorol o Ysbyty New Hall er mwyn sicrhau bod y cleifion yn cael gofal diogel ac effeithiol. Mae'n rhaid i'r lleoliad sicrhau bod y mesurau hyn yn parhau i fod yn weithredol a bod y prosesau a roddwyd ar waith yn gynaliadwy nawr ac yn y dyfodol. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r gwasanaeth er mwyn sicrhau y bydd y cynnydd yn erbyn ein canfyddiadau yn mynd yn ei flaen ac yn cael ei wella.’

Hydref 2023 - Adroddiad Cryno ar yr Arolygiad - Ysbyty Annibynnol New Hall, Ruabon

Hydref 2023 - Adroddiad Arolygu Gwasanaeth Iechyd Meddwl Annibynnol - Ysbyty Annibynnol New Hall, Ruabon