Aeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ag arddangosfa i Gynhadledd Dydd Gŵyl Dewi Coleg Brenhinol y Bydwragedd ar 28 Chwefror yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Aeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ag arddangosfa i Gynhadledd Dydd Gŵyl Dewi Coleg Brenhinol y Bydwragedd ar 28 Chwefror yn Stadiwm Dinas Caerdydd i ddathlu'r thema eleni: 'Perthyn, Ffynnu, Uno – Dathlu bydwreigiaeth yng Nghymru'.
Roedd y gynhadledd yn dathlu bydwreigiaeth ac yn tynnu sylw at arferion da ledled Cymru.
Gwnaeth siaradwyr o bob rhan o'r gymuned bydwreigiaeth rannu eu teithiau diddorol ac ysbrydoledig drwy'r proffesiwn bydwreigiaeth, gan ddathlu arferion rhagorol a gwelliannau yng Nghymru. Roedd hwn yn gyfle gwych i ni gysylltu â myfyrwyr a bydwragedd proffesiynol, yn ogystal â sefydliadau eraill a oedd yn cymryd rhan megis Llais, Gwelliant Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).
Roedd y digwyddiad yn llwyfan gwerth chweil i AGIC hyrwyddo ei gweithgareddau arolygu'r GIG a rheoleiddio gofal iechyd annibynnol yng Nghymru ac arddangos y gwaith rydym yn ei wneud i helpu i ysgogi gwelliannau ar draws gwasanaethau iechyd Cymru.