Roedd yn bleser gan AGIC gymryd rhan yng Nghynhadledd ac Arddangosfa Flynyddol Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol 2025, a gynhaliwyd ar 9–10 Hydref yn ICC Cymru, Casnewydd. Gan ddod â dros 2,000 o feddygon teulu a chydweithwyr gofal sylfaenol ynghyd, roedd y digwyddiad yn cynnig dau ddiwrnod o gyfleoedd i ddysgu, rhwydweithio a dathlu.
Drwy gymryd rhan, cawsom gyfle gwerthfawr i dynnu sylw at rôl AGIC wrth gefnogi gofal diogel ac o ansawdd uchel mewn practisau meddygon teulu. Gwnaethom rannu gwybodaeth o'n harolygiadau diweddar o wasanaethau meddygon teulu yng Nghymru ac annog unigolion i gyfrannu at ein hymgynghoriad ar Strategaeth ar gyfer 2026–2030, i helpu i lywio dyfodol gofal iechyd yng Nghymru.
Gwnaethom groesawu'r cyfle i gysylltu â'r gymuned meddygon teulu, i drafod sut y gallwn gydweithio i wella gwasanaethau, ac i ailddatgan ein hymrwymiad i dryloywder, cydweithio a gwelliant parhaus.
