Neidio i'r prif gynnwy

Cwynion amdanon

Rydym yn gwybod nad ydym bob amser yn gwneud pethau'n gywir. Os bydd hyn yn digwydd, mae'n bwysig eich bod yn dweud wrthym amdano cyn gynted â phosibl fel y gallwn gymryd camau gweithredu ar unwaith.

Gallwn ymdrin â chwynion am sut rydym yn gwneud ein gwaith, gan gynnwys cwynion am aelodau ein staff neu bobl sy'n gweithio ar ein rhan.

Gall hyn gynnwys y canlynol:

  • rhywbeth y gallem fod wedi'i wneud neu dylem fod wedi'i wneud;
  • sut rydym wedi trin eich cais am wybodaeth;
  • pa mor dda rydym wedi gwneud ein gwaith fel arolygydd neu reoleiddiwr gofal iechyd; a
  • sut rydym wedi eich trin.

Pwy sy’n cael cwyno amdanom

  • Os ydych wedi cael eich effeithio'n uniongyrchol gan y gwaith rydym yn ei wneud;
  • rydych yn gweithredu ar ran rhywun sydd wedi cael ei effeithio'n uniongyrchol; neu
  • rydych yn cynrychioli darparwr gofal iechyd – yn naill ai y sector cyhoeddus neu breifat – sydd wedi cael ei effeithio'n uniongyrchol. 

Gwneud eich cwyn

Gallwch wneud eich cwyn drwy gysylltu â ni ar y ffôn, trwy lythyr, neu drwy e-bost. Byddwn yn cydnabod eich cwyn a rhoi gwybod i chi bwy fydd yn ymdrin â hi. 

Byddwn yn cysylltu â chi os bydd angen i ni gael rhagor o wybodaeth i'n helpu gyda'n hymholiadau. 

Ystyrir cwynion am AGIC yn unol â'r weithdrefn a amlinellir ym mholisi cwynion Llywodraeth Cymru.

Os nad ydych chi'n fodlon ar y ffordd rydym wedi ymdrin â'ch cwyn, gallwch gyfeirio eich cwyn at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.