Neidio i'r prif gynnwy

Coleg Brenhinol y Bydwragedd, Cynhadledd Dydd Gŵyl Dewi 2024

Bydd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn bresennol yng Nghynhadledd Dydd Gŵyl Dewi Coleg Brenhinol y Bydwragedd ar 1 Mawrth, yng Nghaerdydd.

Thema'r gynhadledd eleni yw 'Mamolaeth Gynhwysol yng Nghymru'. Bydd y gynhadledd yn cynnwys sesiynau ar wella ein hymwybyddiaeth o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle, ymwybyddiaeth ddiwylliannol, meithrin dealltwriaeth well o'r gymuned LHDTCRhA+, benthyg croth, niwroamrywiaeth a gweithio ym maes gofal iechyd mewn perthynas â'r Gymraeg. 

Bydd y digwyddiad yn galluogi AGIC i fanteisio ar gyfleoedd rhwydweithio gwerthfawr, a meithrin dealltwriaeth bellach o  weithrediadau mamolaeth ledled Cymru.