Neidio i'r prif gynnwy

Canslo Cofrestriad ar gyfer Practis Deintyddol Preifat ar Ynys Môn

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad arolygu ar gyfer Practis Deintyddol Preswylfa, sy'n bractis deintyddol preifat ar Heol Glanhwfa, Llangefni, Ynys Môn.

Gwnaeth yr arolygiad, a gynhaliwyd ar 11 Chwefror 2025, nodi meysydd o ddiffyg cydymffurfio sylweddol â'r Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat. Roedd y rhain yn cynnwys pryderon difrifol yn ymwneud â diogelwch tân, cynnal a chadw cyfarpar, diogelu a llywodraethu clinigol. 

Yn dilyn yr arolygiad, cyhoeddodd AGIC Hysbysiad o Ddiffyg Cydymffurfio ac yn ddiweddarach Hysbysiad o Fwriad i ganslo cofrestriad y practis. Methodd y darparwr â dangos digon o welliant na darparu'r sicrwydd angenrheidiol. O ganlyniad, cyhoeddwyd Hysbysiad o Benderfyniad ar 5 Mehefin 2025 i ganslo'r cofrestriad. 

Nid yw'r practis wedi'i gofrestru mwyach i ddarparu gwasanaethau deintyddiaeth breifat ac mae wedi cau. 

Mae AGIC yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod pob darparwr gofal iechyd yng Nghymru yn cyrraedd y safonau gofynnol. Cymerwn gamau gorfodi pan fydd angen er mwyn diogelu cleifion a chynnal ansawdd a diogelwch y gofal.