Neidio i'r prif gynnwy

Canmol staff yn dilyn arolygiad o ofal dementia yn Ysbyty Llandochau

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (16 Mehefin 2023) yn dilyn arolygiad o ddwy ward gofal Dementia arbenigol yn Ysbyty Athrofaol Llandochau ym Mhenarth.

Llandochau

 

Gwelodd yr arolygwyr dîm o staff ymroddedig a oedd yn ymrwymedig i ddarparu gofal o safon uchel.  Roedd protocolau addas ar waith i reoli risgiau, heintiau ac iechyd a diogelwch, ond roedd angen gwneud rhai gwelliannau mewn perthynas â diweddaru polisïau a chydymffurfiaeth â hyfforddiant gorfodol y staff.

Cwblhaodd AGIC arolygiad dirybudd yn yr ysbyty ar dri diwrnod dilynol ym mis Mawrth 2023. Yn ystod y cyfnod hwn, arolygwyd nifer o ardaloedd asesu ar wardiau 12 ac 16, sy'n darparu gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion ar gyfer cleifion hŷn sydd wedi cael diagnosis o Ddementia.

Daeth y gwaith sicrwydd a wnaed yn ystod yr arolygiad i'r casgliad bod cynlluniau gofal a thriniaeth y cleifion yn cael eu cynnal i safon uchel.  Roedd ymatebion diogel a therapiwtig ar waith i reoli ymddygiad heriol ac i hybu diogelwch a llesiant y cleifion. Cadarnhaodd uwch-aelodau o'r staff mai prin oedd y digwyddiadau lle roedd y cleifion yn cael eu hatal yn gorfforol, a dim ond pan fetho popeth arall y byddai hynny'n digwydd.  Roedd dogfennaeth gyfreithiol i gadw cleifion o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth ac, ar y cyfan, roedd gweithdrefnau effeithiol ar waith i reoli meddyginiaethau yn ddiogel. Fodd bynnag, roedd rhai bylchau ar y ddwy ward lle nad oedd gwiriadau tymheredd yr oergelloedd meddyginiaethau wedi'u cofnodi.

Pan ofynnwyd iddynt, dywedodd y staff wrth yr arolygwyr eu bod yn frwdfrydig am eu rolau a'r ffordd roeddent yn cefnogi eu cleifion ac yn gofalu amdanynt.  Roedd y staff yn ymgysylltu â'r cleifion mewn modd sensitif ac yn cymryd amser i ddeall eu hanghenion gofal. Ar gyfer cyfarfodydd unigol, gallai'r cleifion gael help gan gyrff allanol i roi cymorth ac arweiniad pellach, megis cyfreithwyr neu wasanaeth eirioli, ynghyd â'u teuluoedd a'u gofalwyr.  Roedd y cleifion yn gallu defnyddio'r ardaloedd awyr agored ar gyfer amser therapiwtig, er rydym yn argymell y dylid gwneud gwaith er mwyn gwella edrychiad a diogelwch yr ardd.

Roedd cyfleoedd i'r cleifion, perthnasau a gofalwyr roi adborth ar y gofal a ddarperir a chadarnhaodd uwch-aelodau o staff y ward eu bod yn ceisio datrys cwynion ar unwaith. Fodd bynnag, nid oedd unrhyw dystiolaeth i ddangos bod cyfarfodydd cleifion yn cael eu cynnal yn rheolaidd, a fyddai'n rhoi cyfle i drafod unrhyw welliannau.  Cadarnhaodd y bwrdd iechyd ei fod yn ceisio ailgyflwyno grwpiau gofalwyr a'i fod yn recriwtio ar gyfer rolau adolygwyr cymorth gan gymheiriaid. Bydd yr holl bethau hyn yn gwella ansawdd y gofal i gleifion.

Roedd lefelau staffio'r wardiau i'w gweld yn briodol i gefnogi diogelwch y cleifion yn yr ysbyty ar adeg ein harolygiad. Fodd bynnag, dywedwyd wrthym y bu adegau pan oedd nifer y staff islaw'r lefel ofynnol.  Roedd hyn o ganlyniad i sawl ffactor; staff asiantaeth yn cael eu trefnu ond nid oeddent yn troi fyny i ymgymryd â'u dyletswyddau, a staff asiantaeth yn anghyfarwydd ag anghenion cymhleth y grŵp cleifion. 

Roedd y staff yn gwisgo larymau personol y gallent eu defnyddio i alw am help pe bai angen. Roedd pwyntiau galw am nyrs ar gael o gwmpas yr ysbyty ac yn ystafelloedd gwely ac ystafelloedd ymolchi'r wardiau, fel y gallai'r cleifion alw am gymorth pe bai angen. Nodwyd nad oedd botymau galw rhai o'r cleifion o fewn cyrraedd iddynt o'u gwely.

Yn ystod ein hamser ar y ward, gwelsom ddiwylliant cadarnhaol gyda chydberthnasau da rhwng y staff a oedd yn cydweithio'n dda fel tîm.  Dywedodd y staff fod rheolwyr a dirprwy reolwyr y wardiau yn hygyrch ac yn hawdd mynd atynt bob amser, ac roedd yn ymddangos bod diwylliant arweinyddiaeth cryf a chefnogol ar y ddwy ward.  Fodd bynnag, dywedodd y rhan fwyaf o'r staff yr hoffent i aelodau'r uwch-dîm rheoli fod yn fwy gweladwy, ac yr hoffent iddynt ymgysylltu â nhw yn fwy a chynnig mwy o gymorth.

Cawsom dystiolaeth bod cyrsiau hyfforddiant gorfodol wedi cael eu trefnu ar gyfer y staff, ond rhaid i'r bwrdd iechyd barhau i sicrhau y caiff y lefelau cydymffurfiaeth eu gwella. Roedd y ffigurau hyfforddiant yn dangos bod angen gwneud gwelliannau gan mai 66% oedd y lefel gydymffurfiaeth gyffredinol â hyfforddiant gorfodol ar Ward 12 a bron i 51% ar Ward 16. Yn ogystal, roedd lefelau hyfforddiant diogelwch tân ar Ward 12 yn isel, sef 22%, ac roedd lefelau hyfforddiant diogelu plant ar Ward 16 yn isel, sef ychydig dros 24%.   

Cyflwynwyd amrywiaeth o bolisïau i ni edrych arnynt, ond nodwyd gennym fod y dyddiad adolygu ar y rhan fwyaf o'r fersiynau a ddaeth i law wedi mynd heibio. Roedd y rhain yn cynnwys polisïau atal yn gorfforol, y weithdrefn i staff y GIG fynegi pryder ac atal a rheoli sefyllfaoedd treisgar ac ymosodol.

Roedd trefniadau ar waith i rannu gwybodaeth a gwersi a ddysgwyd o gwynion a digwyddiadau yn gyflym â'r staff yn yr ysbyty ac yn y sefydliad yn fwy cyffredinol. Mae hyn yn helpu i hybu diogelwch cleifion ac i wella'r gwasanaeth a ddarperir yn barhaus.

Dywedodd Prif Weithredwr AGIC, Alun Jones:

‘Roedd yn braf gweld bod staff y wardiau yn amlwg yn frwdfrydig am eu rolau a bod y cleifion ar y cyfan yn cael lefel dda o ofal. Nodwyd meysydd i'w gwella yn ein harolygiad, yn enwedig yr angen parhaus i ganolbwyntio ar wella hyfforddiant gorfodol ar gyfer y staff. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi llunio cynllun sy'n nodi camau gwella o ganlyniad i'r arolygiad hwn.’

Mawrth 2023 - Adroddiad Cryno ar yr Arolygiad - Ward 12 a Ward 16, Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Bobl Hŷn, Ysbyty Llandochau

Mawrth 2023 - Adroddiad Arolygu Ysbyty - Ward 12 a Ward 16, Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Bobl Hŷn, Ysbyty Llandochau