Neidio i'r prif gynnwy

Canmol Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghanolfan Eni Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, ond gan nodi meysydd i'w gwella ymhellach

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad yn dilyn arolygiad dirybudd o'r gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, a reolir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Cynhaliwyd yr arolygiad o'r ganolfan eni dros dri diwrnod dilynol ym mis Chwefror 2025.

Canolfan Geni Ysbyty Castell Nedd Port Talbot Gwasanaethau Mamolaeth

Ar y cyfan, nododd yr arolygwyr bod y cleifion yn cael gofal tosturiol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, a bod y staff yn dangos caredigrwydd a pharch yn gyson. Roedd yr adborth gan y rhai sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn gadarnhaol, yn enwedig mewn perthynas â phroffesiynoldeb y bydwragedd a'r amgylchedd croesawgar. Fodd bynnag, nodwyd rhai meysydd i'w gwella, gan gynnwys mynediad at wybodaeth, arwyddion a diogelwch cofnodion cleifion.

Gwelodd yr arolygwyr dimau a oedd yn gweithredu'n dda gyda llinellau adrodd ac atebolrwydd clir o fewn y strwythur rheoli. Dywedwyd wrthym fod y rheolwyr yn gyfeillgar, yn garedig, yn gefnogol ac yn hawdd mynd atynt. Roedd sgrymiau staffio dyddiol yn cael eu cynnal er mwyn adolygu gofynion y gweithlu yn unol ag anghenion y cleifion. Nododd yr arolygwyr fod hyn yn arfer canmoladwy. Nododd y staff eu bod yn cael eu hannog i uwchgyfeirio unrhyw faterion yn ymwneud â chapasiti a'u bod yn teimlo wedi'u grymuso i godi pryderon, gan sôn am ddiwylliant cadarnhaol sy'n canolbwyntio ar ddysgu o ddigwyddiadau. Gwelsom fod trosglwyddiadau yn cael eu hintegreiddio'n dda i system flaenoriaeth Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, a gwelodd yr arolygwyr gydberthnasau gwaith cadarnhaol â'r staff wrth drosglwyddo gofal. Roedd canllawiau'r bwrdd iechyd ar gyfer trosglwyddiadau mamolaeth wedi cael eu cynnwys ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Coleg Brenhinol y Bydwragedd yn 2024.

Roedd pob ystafell eni yn bwrpasol ac yn lân ac yn cynnig ymdeimlad o ‘gartref oddi cartref’ er mwyn sicrhau amgylchedd lle gallai menywod a'u partneriaid geni ymlacio. Gwnaethom edrych ar gofnodion gofal y cleifion a gadarnhaodd fod anghenion personol y cleifion, a'u hanghenion o ran maeth a chysur, yn cael eu hystyried yn rheolaidd. Dangosodd y staff ymwybyddiaeth dda o'u cyfrifoldebau i amddiffyn a hyrwyddo dewisiadau'r menywod o fewn meini prawf y bwrdd iechyd a'r canllawiau cenedlaethol ar gyfer genedigaethau mewn canolfannau geni. At hynny, dangosodd dogfennaeth fod archwiliadau rheolaidd yn cael eu cynnal o'r cyfarpar er mwyn cadarnhau ei fod yn addas i'w ddefnyddio, a bod cyffuriau a reolir yn cael eu storio a'u rhoi yn ddiogel. Nododd yr arolygwyr bod codau lliw yn cael eu defnyddio ar gyfer allweddi'r cypyrddau cyffuriau brys er eglurder mewn argyfwng, a nodwyd hyn fel enghraifft o arfer canmoladwy a oedd yn sicrhau diogelwch a gofal cleifion. 

Yn ystod yr arolygiad, codwyd pryder gan nad oedd ystafell lle roedd cofnodion cleifion yn cael eu cadw wedi'i chloi. Ymdriniwyd â'r mater yn ystod yr ymweliad, a chafodd y cofnodion eu storio'n ddiogel am weddill yr arolygiad. Cafodd yr arolygwyr sicrwydd fod systemau adborth ar waith, a gwnaethant ddarllen adroddiad diweddaraf y bwrdd iechyd ar brofiadau cleifion yn y ganolfan eni. Roedd yr adroddiad yn cynnwys adborth gan fenywod a'u teuluoedd o fis Medi 2024 hyd at fis Ionawr 2025, a chafwyd sgôr gyffredinol o 96%, gyda sylwadau a oedd yn canmol sgiliau a phroffesiynoldeb y bydwragedd a'r amgylchedd. 

Er bod yr arolygiad yn gadarnhaol i raddau helaeth, nodwyd rhai meysydd i'w gwella. Nodwyd gennym fod anghysondebau o ran y ffordd y gall pobl feichiog gael gafael ar wybodaeth am feichiogrwydd. Er bod codau QR ar gael fel mater o drefn, mae'r staff cymunedol o bryd i'w gilydd yn darparu taflenni i'r rhai heb fynediad i'r rhyngrwyd a all fod yn ddefnyddiol ond a allai achosi anghydraddoldeb yn dibynnu ar flaengaredd y fydwraig. Hefyd, gwnaed argymhellion i wella'r arwyddion, sydd ar hyn o bryd yn brin, er mwyn helpu i gyfeirio menywod a'u teuluoedd i'r ward. Gwelodd yr arolygwyr gynlluniau i ymgysylltu â chymunedau amrywiol a difreintiedig er mwyn hyrwyddo'r Ganolfan Eni, gyda'r nod o gynyddu'r defnydd ohoni. Fodd bynnag, dylai'r gwasanaeth gael ei integreiddio'n well i mewn i wasanaethau mamolaeth y bwrdd iechyd er mwyn cynyddu'r defnydd ohono. Rydym wedi gofyn i'r bwrdd iechyd rannu tystiolaeth o'r gofal a ddarperir yn y Ganolfan Eni â chydweithwyr ac i sicrhau bod pob aelod o'r staff yn hyderus wrth hyrwyddo'r gwasanaeth ac atgyfeirio menywod ato. 

Gwnaethom edrych ar hunanasesiad Safonau Unedau Mamolaeth y Ganolfan Eni a nodwyd gennym fod y gwaith i gwblhau'r safonau yn mynd rhagddo. Dylai'r bwrdd iechyd barhau i weithio i sicrhau cydymffurfiaeth lawn. Nodwyd nad oedd rhai o'r polisïau a'r canllawiau gofal mamolaeth yn gyfredol, a rhaid i'r bwrdd iechyd sicrhau y cânt eu harchwilio, eu diweddaru a'u rhannu'n briodol. 

Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:

Mae'n gadarnhaol cydnabod ymroddiad ac ymrwymiad y staff i sicrhau bod menywod, pobl sy'n rhoi genedigaeth a babanod yn cael gofal da ac yn cael eu trin â charedigrwydd a pharch yng Nghanolfan Eni Ysbyty Castell-nedd Port Talbot. Er bod rhai heriau o hyd, gwnaeth rhai arferion canmoladwy yn y ganolfan sy'n meithrin diwylliant cadarnhaol ac yn hyrwyddo diogelwch y cleifion a'r staff gryn argraff arnom. Byddwn yn gweithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau y caiff y gwelliannau hyn eu gwneud ac y ceir tystiolaeth ohonynt er mwyn gwella profiad a chanlyniadau'r cleifion.

Chwefror 2025 - Arolygiad Ysbyty - Gwasanaeth Mamolaeth - Ysbyty Castell-Nedd Port Talbot, Port Talbot