Neidio i'r prif gynnwy

Bydd AGIC yn ailddechrau gwaith arolygu arferol ar safleoedd y GIG

Bydd y rhaglen arolygu a gynlluniwyd yn parhau'n llawn o 1 Chwefror 2022.

Yn dilyn y symud i lefel rhybudd sero ledled Cymru ar 28 Ionawr 2022, a'r gostyngiad cyffredinol yn y cyfraddau o achosion COVID-19, bydd yr holl arolygiadau arferol ar safleoedd y GIG yn ailddechrau'r mis hwn. Byddwn yn parhau i gynnal asesiadau risg ar gyfer pob darn o waith a gynlluniwyd.

Byddwn yn parhau i roi oddeutu 24 awr o rybudd ar gyfer arolygiadau llwybr ‘gwyrdd’ a dewisol sydd wedi'u trefnu. Mae hyn yn caniatáu i’n timau gyfathrebu â staff y GIG ac i drefniadau gael eu rhoi ar waith er mwyn cynnal yr arolygiad yn ddiogel. Rydym yn disgwyl mai dyma fydd y dull ar gyfer yr holl arolygiadau sy'n rhan o'r categori hwn, ond rhaid i ni gadw'r hawl i weithredu mewn ffordd hollol ddirybudd pan fyddwn yn penderfynu bod risg uchel iawn i ddiogelwch cleifion o ganlyniad i'r ffordd mae gwasanaeth yn gweithredu. Byddwn yn adolygu'r sefyllfa hon ym mis Mawrth 2022.

Ni fydd unrhyw newid i'n rhaglen waith ar gyfer lleoliadau gofal iechyd annibynnol a phractisau deintyddol.

Byddwn yn parhau i adolygu ein rhaglen waith a sicrhau ei bod yn gymesur o ystyried sefyllfa barhaus y pandemig.